Staff a myfyrwyr 亚洲色吧 yn cael profiad o Hyfforddiant Sgiliau Niwclear
Mae P诺er Niwclear Horizon (is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Hitachi Ltd), ar hyn o bryd yn edrych i fuddsoddi mwy na 拢10 biliwn mewn gorsaf niwclear newydd ar safle Wylfa Newydd yng ngogledd M么n. Bydd yn cynhyrchu 2,700MW o gapasiti gorsafoedd p诺er newydd i鈥檙 DU, digon o drydan i tua 5 miliwn o gartrefi. O ystyried ei agosrwydd at y Brifysgol, mae Phrifysgol 亚洲色吧 a Horizon wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth a fydd yn galluogi'r ddau sefydliad i gydweithredu a chydweithio'n agosach mewn blynyddoedd i ddod.
Mae a wnelo un rhan bwysig o'r cytundeb hwn 芒 rhannu a deall anghenion y cwmni o ran eu gweithlu i'r dyfodol a pharatoi myfyrwyr 亚洲色吧 yn well i gystadlu am gyflogaeth broffesiynol a chael eu cyflogi, nid yn unig yn Wylfa, ond yn y sector niwclear ehangach yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.
Yr hyn sy'n newyddion gwych i Fangor yw bod angen ystod helaeth o sgiliau o sawl disgyblaeth wahanol, gan gynnwys gwyddorau ffisegol, gwyddorau naturiol, gwyddorau iechyd ac ymddygiad, busnes, gweinyddiaeth a'r gyfraith, i enwi dim ond rhai, wrth ddatblygu a gweithredu gorsafoedd niwclear. Felly, mae sesiynau briffio i staff a myfyrwyr wedi bod yn cael eu darparu gan Horizon a phartneriaid eraill megis yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Niwclear a'r Rhaglen Niwclear i Raddedigion er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r sector a'r cyfleoedd sydd i'w cael.
Fel rhan o'r gweithgareddau hyn, cafodd gr诺p o wyth o blith staff a myfyrwyr Prifysgol 亚洲色吧 hyfforddiant yn ddiweddar lle buont yn cwblhau'r asesiadau angenrheidiol i gael cymhwyster Bar Triphlyg yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Niwclear ar gyfer Safleoedd Niwclear Presennol. Mae'r cymhwyster, sy'n canolbwyntio ar egwyddorion sylfaenol cynhyrchu ynni niwclear, iechyd a diogelwch ac 'ymddygiad dynol', yn ofyniad sylfaenol hanfodol er mwyn gweithio mewn safleoedd niwclear presennol ac mae'n caniat谩u i ddeiliad y cymhwyster gael mynediad i orsaf niwclear a gweithio yno heb oruchwyliaeth.
Darparwyd yr hyfforddiant gan Gr诺p Llandrillo Menai sef darparwr achrededig lleol y cymhwyster Bar Triphlyg ar gyfer yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Niwclear.
Cafodd y staff a'r myfyrwyr ddiwrnod gwych dan arweinyddiaeth y tiwtor / hyfforddwr Mr Huw Huws sydd 芒 mwy na 30 mlynedd o brofiad o weithio i Magnox mewn nifer o swyddi yng ngorsaf b诺er wreiddiol yr Wylfa.
Wrth s么n am y cwrs, dywedodd Ben Stanley, sy'n fyfyriwr ar ei flwyddyn olaf yn astudio Rheolaeth Amgylcheddol:-
Roedd y cwrs wir yn addysg, nid yn unig o ran y sector ynni niwclear ond hefyd o ran llawer o sefyllfaoedd gwaith eraill... Byddwn yn argymell y cwrs i unrhyw un sydd 芒 diddordeb yn y sector ynni niwclear gan ei fod heb os yn cynnig llwybr at waith"
Ac wrth s么n am Huw, y tiwtor, dywedodd Ben McFaden (sydd ar ei 3edd blwyddyn yn astudio gradd Meistr mewn Daearyddiaeth) ac Emily Riley (sydd ar ei 3edd blwyddyn yn astudio cwrs Eigioneg Ddaearegol)
"Roedd Huw yn diwtor eithriadol o wybodus a diddorol." "Roedd y cwrs yn rhyngweithiol iawn ac roedd cael dysgu oddi wrth rywun sydd 芒 thros 30 mlynedd o brofiad yn ofnadwy o fuddiol. Mi fyswn i'n argymell y cwrs oherwydd ei fod o'n destun trafod gwych i'w gynnwys ar CV ac mae llawer o'r hyn a ddysgon ni gan Huw yn berthnasol i gynifer o ddiwydiannau gwahanol".
Dyma ddwedodd y Dr Iestyn Pierce, Pennaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig, a gafodd y profiad o eistedd yn y dosbarth yn gwneud y papurau asesu ochr yn ochr 芒 rhai o鈥檌 fyfyrwyr
"Mae'n rhaid imi gyfaddef, r'on i'n nerfus, yn enwedig wrth sefyll y profion a chael eu marcio yng ng诺ydd rhai o'm myfyrwyr fy hun! Ond, roedd y diwrnod, a'r cwrs, o werth mawr i'r holl fyfyrwyr oherwydd fe gawson nhw weld gwedd arall, alwedigaethol o'r diwydiant niwclear a chael rhywfaint o flas ohono. Mae'n wych i'w roi ar CV, a gobeithio y bydd hynny o gymorth iddyn nhw o ran eu cyflogadwyedd yn y dyfodol mewn unrhyw fath o ddiwydiant neu weithgaredd lle mae diogelwch o'r pwys mwyaf. Cafodd y sesiwn gyntaf yma ei hariannu yn defnyddio arian o brosiect Canolfan Sgiliau Cadarn, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, sy'n annog pobl i ddilyn hyfforddiant galwedigaethol. Pe tasen ni'n gallu sicrhau arian o ffynonellau eraill posibl, byddai'n wych gallu cyflwyno hyn a'i gynnig i lawer yn rhagor o fyfyrwyr sydd eisiau gweithio yn y maes yma"
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2016