Modiwl VPC-3000:
Athroniaeth yr Oesoedd Canol 2
Athroniaeth yr Oesoedd Canol 2024-25
VPC-3000
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Gareth Evans-Jones
Overview
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i agweddau datblygiadol athroniaeth Orllewinol o ddiwedd y 4edd ganrif OC, gan ddechrau gydag Awstin, hyd at yr 16eg ganrif, gyda Phlatoniaeth ac Aristoteleniaeth y Dadeni. Trwy ddull cronolegol, byddwn yn archwilio them芒u arwyddocaol amrywiol yn nhwf athroniaeth y Gorllewin, gan gynnwys ffydd a rheswm, rhesymeg ac iaith, ac epistemoleg. Wrth archwilio ysgrifau meddylwyr fel Awstin, Thomas Aquinas, Christine de Pizan, Moses Maimonides, a Duns Scotus, byddwn yn cael cipolwg ar sut yr esblygwyd rhai cysyniadau yn ystod y cyfnod cyfnewidiol hwn mewn hanes, yn ogystal 芒 sut yr effeithiodd rhai trywyddau meddwl y canrifoedd dilynol, mewn ffordd gadarnhaol a niweidiol.
Bydd y modiwl yn cynnig trosolwg o syniadau a meddylwyr y cyfnod canoloesol gan ganolbwyntio ar rai them芒u allweddol, gan gynnwys ffydd a rheswm, rhesymeg ac iaith, ac epistemoleg.
I gyd-fynd 芒 hyn, byddwn yn archwilio rhai meddylwyr a dosbarthiadau o athroniaeth a oedd yn arwyddocaol yn ystod y cyfnod canoloesol, gan gynnwys Awstin o Hippo, Thomas Aquinas, Christine de Pizan, Moses Maimonides, Duns Scotus, a Phlatoniaeth ac Aristotelianiaeth y Dadeni.
Yn hyn o beth, byddwn yn asesu鈥檔 rheolaidd a gafodd y datblygiadau penodol hyn mewn athroniaeth effaith gadarnhaol neu negyddol ar syniadau a chymdeithasau dilynol.
Assessment Strategy
Trothwy D- i D+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol: 鈥n gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau. 鈥wneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur. 鈥n cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly鈥檔 dibynnu ar i鈥檙 darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau. 鈥n dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd.
Da C- i C+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy鈥檔 cynnwys, ar brydiau, arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol yn ddeheuig. Mae鈥檔 dangos: 鈥trwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. 鈥ewn mannau, defnydd beirniadol o ddeunydd sy鈥檔 tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i鈥檙 myfyriwr. 鈥wneir honiadau sydd, ar y cyfan, wedi eu cefnogi gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. 鈥waith sy鈥檔 gywir ac sy鈥檔 cynnwys arddull academaidd briodol. Da iawn B- i B+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy鈥檔 cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae鈥檔 dangos: 鈥trwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. 鈥efnydd o ddeunydd sy鈥檔 tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i鈥檙 myfyriwr. 鈥efnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. 鈥waith sy鈥檔 gywir ac sy鈥檔 cynnwys arddull academaidd briodol.
Ardderchog A- i A*
Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy鈥檔 ardderchog mewn un neu fwy o鈥檙 canlynol: 鈥ynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg. 鈥arparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol. 鈥yflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu鈥檙 darllenydd gyda thrafodaethau sy鈥檔 dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau.
Learning Outcomes
- Bydd myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth glir o rai damcaniaethau a dadleuon canolog ym meysydd athroniaeth foesol, wleidyddol neu gymdeithasol, trwy ymgysylltu 芒 meddylwyr athroniaeth ganoloesol.
- Bydd myfyrwyr yn dangos y gallu i asesu canghennau athronyddol allweddol mewn modd beirniadol a chlir, a'u gosod yn eu cyd-destun yn rheolaidd.
- Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau dadansoddol arwyddocaol trwy graffu ar weithiau pwysig meddylwyr athronyddol a chrefyddol yn y cyfnod canoloesol.
- Bydd myfyrwyr yn gallu archwilio damcaniaethau canoloesol yn feirniadol ym meysydd rheswm, rhesymeg ac epistemoleg, ac arddangos eu cysylltiadau cydgysylltiedig.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Bydd myfyrwyr yn cael dewis o 3 thestun i'w dadansoddi a disgwylir iddynt ysgrifennu dadansoddiad testunol 2,000 o eiriau am un o'r testunau.
Weighting
40%
Due date
18/11/2024
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Rhoddir dewis o 5 cwestiwn i fyfyrwyr a disgwylir iddynt ysgrifennu traethawd 3,000 o eiriau mewn ymateb i 1 cwestiwn.
Weighting
60%
Due date
17/01/2025