Modiwl MSC-3019:
Patholeg Cellog
Patholeg Cellog 2024-25
MSC-3019
2024-25
North Wales Medical School
Module - Semester 2
10 credits
Module Organiser:
Bethan Davies-Jones
Overview
Bydd y modiwl hwn yn ymdrin 芒 datblygiadau diweddar mewn meysydd dethol o batholeg gellog, gan adolygu agweddau allweddol ar fioleg cellog a moleciwlaidd a thechnegau clasurol a moleciwlaidd. Bydd cymhwyso'r astudiaethau hyn i ddatblygiad meddygaeth glinigol hefyd yn cael ei archwilio.
Sylwer bod y modiwl hwn yn cynnwys delweddau graffig, disgrifiadau, a thrafodaethau am amrywiol annormaleddau cellog a meinwe, clefydau ac anhwylderau. Gall y cynnwys gynnwys delweddu manwl o gelloedd a meinweoedd yr effeithir arnynt gan heintiau, llid, canser, a chyflyrau patholegol eraill. Yn ogystal, gall y modiwl ymdrin 芒 phynciau sensitif megis salwch terfynol ac effaith y cyflyrau hyn ar gleifion a'u teuluoedd.
Sylwer: Mae'r modiwl hwn yn elfen graidd o'r rhaglenni gradd BSc Gwyddorau Biofeddygol achrededig a gynigir gan yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd. Mae'n bosibl y bydd cynnwys y modiwl a'r asesiadau yn heriol i fyfyrwyr nad oes ganddynt y wybodaeth gefndirol ragofyniad briodol am ffisioleg ddynol, anatomeg, bioleg gell, a phatholeg gellog.
Nod y modiwl hwn yw ehangu gwybodaeth myfyrwyr am batholeg gellog a moleciwlaidd. Bydd cymhwyso'r astudiaethau hyn i ddatblygiad meddygaeth glinigol hefyd yn cael ei archwilio.
Assessment Strategy
RHAGOROL - Categori A (70%-100%): Mae asesiadau a gwblhawyd yn cyflwyno deunydd addysgu perthnasol cywir iawn, wedi'i integreiddio 芒 nifer o ddeunydd darllen y tu allan i'r testun craidd a rhai ffynonellau gwybodaeth hunan-ymchwiliedig. Mae traethodau, atebion ac adroddiadau'n cyflwyno dadleuon cydlynol a threfnus iawn sy'n dangos gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol ragorol o holl ddeunydd y modiwl. Mae tystiolaeth o feddwl beirniadol manwl a darllen ehangach yn bwysig ar gyfer graddau A+ ac uwch.
DA - Categori B (60%-69%): Mae asesiadau a gwblhawyd yn cyflwyno deunydd addysgu perthnasol da, cywir ar y cyfan, wedi'i integreiddio 芒 pheth darllen y tu allan i'r testun craidd. Mae traethodau, atebion ac adroddiadau wedi'u trefnu a'u strwythuro'n dda, yn cynnwys dadleuon cydlynol da, ac yn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol dda o holl ddeunydd y modiwl.
LEFEL ARALL - Categori C (50%-59%): Mae asesiadau a gwblhawyd yn cyflwyno deunydd addysgedig cywir a pherthnasol ond gall fod diffyg esboniad a chyd-destun. Mae datganiadau yn gywir ar y cyfan ond nid ydynt yn cael eu cefnogi ymhellach. Mae traethodau, atebion ac adroddiadau'n ddigon cydlynol ac wedi'u cyflwyno'n dda i ddangos dealltwriaeth gadarn o ddeunydd modiwl.
TROTHWY - Categori D (40%-49%): Dylai myfyriwr trothwy feddu ar wybodaeth sylfaenol o'r ffeithiau hanfodol a'r cysyniadau allweddol a gyflwynir yn y modiwl hwn. Dylai traethodau, atebion ac adroddiadau dangos gallu i drefnu deunydd darlithoedd perthnasol yn ddadl gydlynol. Gall yr ateb gynnwys gwallau a bylchau gwybodaeth.
Learning Outcomes
- Crynhoi'r prif fathau o gelloedd yr ymchwiliwyd mewn cytoleg gynaecolegol.
- Gwerthuo yn feirniadol gyfyngiadau'r dulliau mwyaf cyffredin a ddefnyddir mewn patholeg moleciwlaidd.
- Gwerthuso yn feirniadol gyfyngiadau'r dulliau a ddefnyddir mewn cytoleg gynaecolegol ac an-gynaecolegol.
- Trafod meysydd allweddol dethol o batholeg gellog ddiagnostig yn feirniadol.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Arholiad diwedd modiwl yn seiliedig ar draethawd.
Weighting
60%
Due date
08/05/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Astudiaeth achos yn cynnwys sgiliau morffoleg.
Weighting
40%
Due date
26/03/2025