Mae datgoedwigo yn y Comoros, cenedl archipelago rhwng Madagascar a Mozambique, yn bygwth bioamrywiaeth a bywoliaeth pobl. Bu dulliau confensiynol o geisio mynd i'r afael 芒 hynny鈥檔 aflwyddiannus i raddau helaeth.
Byddwn yn tynnu ar ddegawd o brofiad o'r Comoros a gwybodaeth o ymchwil rhyngwladol i gytundebau cadwraeth (gan gynnwys Hap-dreial Rheoli unigryw o raglen ym Molifia) i lunio cytundebau cadwraeth sy鈥檔 barod i'w huwchraddio i warchod ac adfer yr hyn sy鈥檔 weddill o鈥檙 goedwig ar Ynys Anjouan, Comoros.
Mae'r project yn dod 芒 Dahari, corff anllywodraethol yng Nghomoros, a gwyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol 亚洲色吧 ac Adran Fioleg Prifysgol Rhydychen ynghyd, yn ogystal ag arbenigwyr allanol annibynnol ar bynciau penodol.
Project dwy flynedd yw hwn a ariennir gan Fenter Darwin Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Partneriaid y project
Cefndir y project
Archipelago trofannol yng Nghefnfor India rhwng Mozambique a Madagascar yw Ynysoedd Comoro. Er bod yno fioamrywiaeth eithriadol, a鈥檜 bod yn gartref i nifer o rywogaethau endemig, mae鈥檙 cyfraddau datgoedwigo gyda鈥檙 gwaethaf yn yr holl fyd. Collodd Anjouan, un o鈥檙 pedair ynys, 80% o鈥檌 choedwigoedd brodorol rhwng 1995 a 2014.听
Arweiniodd y datgoedwigo eithafol hwnnw at ganlyniadau i amgylchedd naturiol yr ynys, a hefyd i'r bobl sy'n byw yno: mae prinder d诺r a鈥檙 diraddio ar y tir yn bygwth amaethyddiaeth ac mae鈥檙 erydiad trwm ar y pridd yn peri bod y riffiau鈥檔 llawn silt, ac mae鈥檔 lleihau cynhyrchiant pysgota. Yn y cyfamser, mae llawer o gymunedau鈥檔 ddibynnol iawn ar ffermio helaeth, ac mae hynny, ynghyd 芒鈥檙 boblogaeth ddwys a chynyddol, yn peri bod caeau鈥檔 mynd yn llai a bywoliaeth pobl yn mynd yn fwy ymylol gyda phob cenhedlaeth. Felly, mae dinistr amgylcheddol a thlodi鈥檔 gylch dieflig ac mae pobl gorfod torri coed i lawr a chlirio coedwigoedd ar gyfer tir amaethyddol, sydd yn ei dro鈥檔 gwaethygu'r sefyllfa amgylcheddol.听
Bu dulliau confensiynol o geisio mynd i'r afael 芒鈥檙 broblem yn aflwyddiannus i raddau helaeth. Cafodd ardaloedd gwarchodedig eu sefydlu am y tro cyntaf yn 2018 ar Anjouan, ond mae diffyg cefnogaeth iddynt ac yn anaml y caiff y cyfreithiau amgylcheddol eu gweithredu. Mae cydlyniant cymdeithasol gwan hefyd yn ei gwneud hi'n anodd cymryd camau cadwraeth ar lefel gymunedol.
Mae Dahari, corff anllywodraethol amgylcheddol sy'n gweithio ar dair o Ynysoedd Comoro, yn gweithio i warchod coedwig ar Anjouan ers 2013. Yn 2021 penderfynwyd adeiladu ar raglen gytundeb cadwraeth beilot lwyddiannus, a ddiogelodd 7 o 15 safle clwydo鈥檙 llwynog hedegog, Livingstone (Pteropus livingstonii) sydd mewn perygl difrifol, trwy seilio eu cynllun strategol 5 mlynedd ar gytundebau cadwraeth. Mae gan Dahari nod hirdymor o warchod 1000 hectar o'r goedwig frodorol sy'n weddill ar Anjouan trwy gytundebau gyda thua 1000 o ffermwyr yr ucheldir.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol 亚洲色吧 a Phrifysgol Rhydychen yn gweithio'n agos gyda Dahari i ddatblygu cytundebau arloesol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cadwraeth ac adfer coedwig frodorol Anjouan. Yn anarferol iawn, caiff y rhaglen ei rhoi ar waith fel Hap-dreial Rheoli fesul cam, er mwyn sicrhau bod gwerthusiad cadarn o鈥檙 effaith o'r cychwyn cyntaf.听
Mae'r t卯m yn tynnu ar ddegawd o brofiad gydag arbrofion ar hap. Bu Dr Edwin Pynegar yn gweithio ar ddylunio a gwerthuso rhaglen cadwraeth d诺r a choedwigaeth Watershared sydd gyda鈥檙 gorau yn y byd ac sy鈥檔 seiliedig ar gymhelliant ym Molifia, fel ymchwilydd ac ymarferydd. Arweiniodd yr Athro Julia Jones broject a ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme ar werthuso Watershared a bu鈥檔 astudio cadwraeth coedwigoedd trofannol ym Madagascar a ledled y byd ers dros 20 mlynedd. 听Bydd y profiadau hynny鈥檔 allweddol i ddyluniad y rhaglen cytundebau cadwraeth newydd yn y Comoros yn ogystal 芒'r gwerthusiad cysylltiedig ar hap.
Ein nod felly yw y bydd y project, a ariennir gan Fenter Darwin Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn dylanwadu ar arferion cadwraeth yn rhyngwladol trwy gynnig model ar gyfer cadwraeth sy鈥檔 seiliedig ar ymchwil ac sy鈥檔 canolbwyntio ar werthuso ac integreiddio鈥檙 ymchwilydd a鈥檙 ymarferydd, o'r cychwyn cyntaf. Hefyd, dyma'r cam cyntaf mewn proses hir i warchod ac adfer coedwigoedd Anjouan ac ynysoedd eraill y Comoros, a thrwy hynny sicrhau cyflenwadau d诺r, gwella gwytnwch bywoliaeth a gwarchod rhywogaethau endemig. Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y t卯m a鈥檙 hyn rydym yn ei wneud yn feunyddiol!
Ein gweithgareddau
- Llunio rhaglen Cytundebau Cadwraeth a thystiolaeth yn gefn iddynt gyda phobl leol ac arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, i gefnogi ffermwyr i warchod ac adfer coedwigoedd ucheldiroedd Anjouan.
- Gweithredu'r rhaglen gydag o leiaf 40 o ffermwyr.
- Sefydlu Hap-dreial Rheoli i ymgorffori gwerthusiad cadarn, gwrthffeithiol o鈥檙 effaith wrth gyflwyno鈥檙 rhaglen.
- Hyfforddi technegwyr Dahari mewn technegau casglu data a monitro.
- Gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid eraill yn y Comoros a thu hwnt i rannu gwersi鈥檙 project.
Cyfarfod 芒鈥檙 t卯m
Mae'r project yn dod 芒 Dahari, corff anllywodraethol yng Nghomoros, a gwyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol 亚洲色吧 ac Adran Fioleg Prifysgol Rhydychen ynghyd, yn ogystal ag arbenigwyr allanol annibynnol ar bynciau penodol.听
I ddysgu mwy am d卯m Dahari, gweler 听(Saesneg) neu (Ffrangeg).听