Erin Jones Nyrsio Oedolion
Mae Erin Jones o Bontnewydd, ger Caernarfon, yn astudio Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Pam dewis astudio鈥檙 pwnc gradd?
Mae fy nheulu wedi bod聽ym maes gofal iechyd. Roedd y ddwy Nain yn arfer nyrsio a fy nhad yn barafeddyg ac felly wedi cael fy ysbrydoli wrth dyfu fyny drwy fy mhlentyndod. Mae diddordeb gen i ym myd gofal iechyd, a gofalu am gleifion. Mi es i wirfoddoli i gartref preswyl dros gyfnod yr haf tra roeddwn yn yr ysgol uwchradd, wedyn es i ar brofiad gwaith mewn ysbyty gymunedol, gwirfoddoli i鈥檙 鈥楻VS - Royal Voluntary Service鈥 yn yr ysbyty lleol gan fwynhau cydweithio gyda staff gofal iechyd, cyfathrebu gyda chleifion a mwynhau helpu cleifion i wella tra鈥檔 fregus yn yr ysbyty.
Pam dewis astudio trwy'r Gymraeg?
Gan mai Cymraeg yw fy mamiaith, byddaf heb os nac oni bai yn defnyddio鈥檙 iaith yn y gweithle mewn lleoliadau clinigol gan fy mod yn byw mewn ardal Gymraeg. Mae canran fawr o鈥檙 cleifion sydd yn defnyddio鈥檙 gwasanaethau yn siarad y Gymraeg a dwi鈥檔 bersonol yn teimlo'n fwy cyfforddus yn siarad yn fy mamiaith. Mae鈥檔 gyfle gwych i beidio a 鈥渕ynnu dysgu yn fy iaith鈥 a manteisio ar y cyfle i wneud cwrs gradd yn y brifysgol trwy astudio mewn iaith ddealladwy, hawdd, ac mae ansawdd y cymorth a thiwtorialau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn wych.
Beth yw'r peth gorau am astudio cwrs trwy'r Gymraeg?
Mae鈥檔 gyfle gwych i fod yn gyfforddus gyda geiriau yr wyf yn eu deall. Mae cymorth staff yr ysgol gwyddorau iechyd a staff y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn wych. Braint yw cael astudio cwrs Cymraeg a gallu teimlo鈥檔 gyfforddus wrth ofyn cwestiwn, holi am broblemau, dewis lleoliadau clinigol a chael mentoriaid Cymraeg. Dwi鈥檔 teimlo fy mod yn deall y gwaith yn well ac yn cael bod yn fi fy hun, sydd yn wahanol iawn i beth yr ydwyf wrth siarad Saesneg.
Unrhyw gyngor i ddarpar fyfyrwyr sy'n poeni am astudio trwy'r Gymraeg?
Does dim angen poeni o gwbl. Mae darlithoedd, a sleidiau p诺erbwynt ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, mae safle we dysgu 鈥楤lackboard鈥 trwy鈥檙 Gymraeg, ac mae tiwtorialau, mentoriaid personol, a chymorth i gyd yn ffurfiol yn ogystal ag anffurfiol trwy鈥檙 Gymraeg. Mae鈥檔 gyfle gwych i beidio 芒鈥檌 thaflu ffwrdd. I bwy bynnag sydd yn bwriadu astudio trwy鈥檙 Gymraeg - cerwch amdani, mae digon o help ar gael, arian i helpu gyda鈥檙 cwrs a chymorth academaidd.
A fyddech chi'n annog eraill i ymgeisio am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg?
Buaswn yn annog rhywun i ymgeisio am ysgoloriaeth. Mae鈥檔 agor drws enfawr nid yn unig yn y brifysgol, ond wrth ymgeisio ar gyfer y byd gwaith. Mae鈥檙 ffaith eich bod wedi astudio pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg yn fuddiol iawn yn enwedig yng Nghymru ac mae cymorth ariannol ar gael gan y Coleg Cymraeg. Mae dewis o Brif Ysgoloriaeth neu Ysgoloriaeth Cymhelliant. Yn ffodus iawn, dwi wedi derbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant sydd wedi bod yn fuddiol iawn i mi. Dwi鈥檔 derbyn cymorth, tiwtorialau a mentora trwy鈥檙 Gymraeg yn y brifysgol ac ar leoliad clinigol yn yr ysbyty. Mae鈥檙 arian ar gael i helpu myfyrwyr Cymraeg i wneud y gwaith trwy鈥檙 Gymraeg a derbyn cymorth trwy鈥檙 broses. Cyfle gwych!!!
Pam ymgeisio i fod yn llysgennad?
Gan fy mod wedi derbyn ysgoloriaeth, dwi鈥檔 teimlo fy mod yn gallu dweud wrth fyfyrwyr eraill sut dwi鈥檔 teimlo. Mae鈥檔 gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth i鈥檙 rhai sydd ddim yn sicr bod ysgoloriaethau a chymorth Cymraeg ar gael allan yna. Felly mae鈥檔 hanfodol bwysig i ni sydd yn llysgenhadon, hybu a cheisio helpu myfyrwyr wneud y dewis cywir.
Uchafbwynt?
Cyfarfod ffrindiau newydd a chael bod mewn awyrgylch gartrefol sydd yn Gymraeg. Yn ogystal cael mynd allan ar leoliadau clinigol, gwneud a mwynhau'r gwaith yr wyf eisiau ei wneud yn y dyfodol - nyrsio!