Sian Evans
³Ò°ù²¹»å»å:ÌýHanes Canoloesol a Modern Cynnar
Dywedwch wrthym ni beth oeddech chi'n ei hoffi fwyaf am astudio'ch gradd gyda ni ym Mangor...
Y modiwlau amrywiol a'r cyfle i gyfuno’r rhain gyda fy niddordebau; pa mor glên oedd y staff – nid yn unig y staff addysgu ond y staff cymorth gweinyddol, yn y llyfrgelloedd a'r archifau.
Rhowch flas i ni o un neu ddau o'r modiwlau a astudiwyd gennych chi.
Roedd modiwl Dr Nia Wyn Jones ar Owain Glyndŵr yn hynod ddiddorol; roedd Ewrop yng nghanol yr Oesoedd Canol gan Dr Mark Hagger mor gyforiog o wybodaeth a manylder fel y bu’n rhaid i mi ddibynnu ar y recordiadau Blackboard i allu gwneud nodiadau; fe wnaeth y modiwl Rhyfeloedd Sanctaidd gyda Dr Euryn Roberts ddyfnhau fy nealltwriaeth o’r rhesymau pam y gadawodd cymaint o bobl eu bywydau beunyddiol a mynd ar y daith beryglus i’r Wlad Sanctaidd, ac roedd modiwl Dr Kate Waddington ar Archaeoleg Arbrofol mor ddeniadol ac yn rhoi pwyslais mawr ar sut y gall y sgiliau a ddysgwyd gan archeolegwyr arbrofol ddyfnhau ein dealltwriaeth o'r gorffennol.
Beth oedd eich hoff aseiniad ar yr holl gwrs?
Mae hyn mor anodd! Mae'n debyg yr astudiaeth achos ar Boxgrove, o fodiwl y flwyddyn gyntaf Cyflwyniad i Gynhanes Prydain lle defnyddiais y canfyddiadau yn Chwarel Boxgrove i drafod a oedd bodau dynol cynnar yn helwyr-gasglwyr neu'n gwneud fawr mwy na manteisio ar amgylchiadau. Ail agos mae'n debyg oedd aseiniad y modiwl Treftadaeth a Hunaniaeth ar hanes anghysain - gan fod hwn wedi fy herio i ystyried pam fod rhai elfennau o hanes yn anodd a sut i'w trafod a'u gwneud yn hygyrch mewn ffordd gyfrifol. O edrych ar y modiwlau diweddarach, roedd y cyfle i wneud cymhariaeth fanwl o ddwy ffynhonnell wreiddiol yn y modiwl ar Owain Glyndŵr yn fodd i mi ddefnyddio'r sgiliau a ddysgwyd ym modiwl Y Gymru Dywysogaidd i feddwl yn wahanol am yr hyn y mae'r ffynonellau cynradd yn ei ddweud wrthym ni, ac i gael y mwyaf ohonynt, ni allwch edrych ar un ffynhonnell ar ei phen ei hun.
Be wnaethoch ar ôl graddio?
Ymunais ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd fel Swyddog Allgymorth ac Addysg ym mis Gorffennaf – dau ddiwrnod ar ôl y seremoni raddio! Mae'n swydd ran amser lle rwy’n mynd i ysgolion a chymunedau, yn eu dysgu am archaeoleg y fro ac yn eu helpu i gymryd rhan yn hynny. Rwy’n rhannu’r swydd gyda chydweithiwr sy’n archeolegydd hyfforddedig, felly rhyngom fe allwn ni ddod â hanes yr ardal yn fyw mewn gwirionedd.
Ers ymuno, rydw i wedi bod yn ymwneud â gwaith cloddio cymunedol ar Ynys Môn gyda sefydliad partner. Rwyf hefyd wedi mynd i ysgolion i ddysgu disgyblion am y Neolithig a beth i gadw llygad amdano wrth fynd i gloddio. At hyn, yn ddiweddar rydym ni wedi cynnal project cymunedol yn Nyffryn Ogwen a oedd yn cyfuno gwaith clirio a chofnodi mewn mynwent leol (gyda fy nghydweithiwr yn herio’r glaw a’r gwyntoedd yn y cae) a gweithdy a roddodd y sgiliau i aelodau’r gymuned ddechrau eu hymchwil eu hunain i’r teuluoedd a gladdwyd yn y fynwent a beth all hyn ei ddweud wrthyn nhw am yr ardal.
Fel rhan o’r Tîm Allgymorth ac Addysg rydym ni’n cysylltu’n agos â sefydliadau eraill, gan gynnwys y Brifysgol, i geisio cael mwy o bobl i ymwneud â’r cyfoeth o archaeoleg sydd i’w gael yn yr ardal. Efallai y byddwn yn mynd â breuan llaw, nodiwlau fflint, a ffibr cynhanesyddol o’r Oes Haearn i amgueddfa, gweithio gyda phlant ysgol o’r dref (a wnaethom ni ychydig cyn y Nadolig) neu hwyrach y byddwn yn cysylltu â grwpiau i drefnu darlithoedd ac arddangosiadau ar archeoleg eu cymdogaeth. Rydym yn cynnal gweithdai crefft, a’r Clwb Archeolegwyr Ifanc lleol (y mae fy nghydweithiwr yn ei arwain). Rydym yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i fyfyrwyr ac aelodau o’r gymuned er mwyn iddyn nhw gael profiad ymarferol o’u harcheoleg leol a rhedeg ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i ennyn diddordeb yn archaeoleg Gwynedd, Môn, a Chymru yn ehangach.
Mae'r swydd yn wahanol bob dydd – dyma sy'n ei gwneud hi mor foddhaus. Rwyf hefyd wrth fy modd â’r ffaith y caf rannu fy nghariad at hanes ac archaeoleg gyda chynulleidfa mor eang ac amrywiol.
A'r darn gorau hyd yn hyn? Dysgu dosbarth o ddisgyblion am y Neolithig a bwyeill llaw – ac i un ohonyn nhw ddarganfod brasffurf ar ei ffordd i fyny i’r gloddfa a dweud wrth fy nghydweithiwr iddo ei adnabod o fy nosbarth yr wythnos flaenorol. Roedd hynny’n teimlo'n wirioneddol dda.
Pam Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É?
Wrth ddod i Fangor, rydych chi wedi'ch amgylchynu gan hanes - boed eich diddordeb yn y cyfnod cynhanesyddol neu unrhyw gyfnod rhwng hynny a heddiw. Mae gennych chi Safleoedd Treftadaeth y Byd ar garreg eich drws. Mae ehangder y modiwlau a gynigir hefyd yn eich galluogi i deilwra’ch cwrs i'ch diddordebau; a gall staff sy'n arweinwyr yn eu maes eich arwain at y cyfnod rydych chi’n ei fwynhau fwyaf. Mae’r gefnogaeth gan ddarlithwyr, tiwtoriaid personol a staff cymorth yn aruthrol.
Yn bennaf oll, y teimlad o gymuned. O'r cychwyn cyntaf, (a dechreuais yng nghanol pandemig) rydych chi'n adeiladu rhwydwaith cefnogol o gyfoedion a staff a fydd yn eich galluogi i gyflawni'ch nodau - neu yn fy achos i, i ragori arnynt.
*Mae modiwlau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. I gael y rhestrau mwyaf diweddar o fodiwlau, ewch i dudalen y cwrs. Mae'n bosibl na fydd modiwlau a drafodir yn y proffil graddedig hwn yn cael eu cynnig.