Academyddion a chyn-fyfyrwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn
Mae tri academydd o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi'u cynnwys eleni yng nghystadleuaeth Rhestr fer .
Ar restr fer y llyfrau Cymraeg, mae Dr Gareth Evans Jones, cyn-fyfyriwr a darlithydd mewn astudiaethau crefyddol, yn ymddangos yn y categori gwobr ffeithiol greadigol am 'Cylch Cymru' - cyfrol o bigion llenyddol yn rhoi cipolwg cryno ar wahanol leoliadau yng Nghymru - eu straeon, eu hanes, eu chwedlau a'u swyn.
Mae Dr Peredur Webb-Davies, uwch ddarlithydd mewn ieithyddiaeth, yn ymddangos yn y categori gwobr ffuglen am 'Pumed Cainc y Mabinogi' - casgliad o straeon a ysbrydolwyd gan fytholeg Cymru, yn benodol y Mabinogi, yn cynnwys cymeriadau yng Nghymru heddiw sy'n sylweddoli'r gwirionedd arswydus am yr hen chwedlau.
Mae Zoë Skoulding, Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol, wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori gwobr barddoniaeth Saesneg am 'A Marginal Sea' - casgliad o gerddi sy’n archwilio byd natur, cydberthnasau a’r profiad dynol, gydag Ynys Môn yn gefndir i’r cwbl.
Mae cyn-fyfyrwyr Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd hefyd ymhlith y rhai sydd ar y rhestr fer yn y categorïau iaith Gymraeg: Osian Wyn Owen, Rhian Parry, Sioned Erin Hughes a Llŷr Titus.
Rydym ni’n hynod falch o’n hacademyddion a’n cyn-fyfyrwyr dawnus sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ar restr fer Llyfr y Flwyddyn. Mae eu cynnwys yn dyst i’w cyfraniadau llenyddol eithriadol, ac rydym yn eu llongyfarch ar y gamp ryfeddol hon.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni yng Nghaerdydd nos Iau, 13 Gorffennaf.