Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Prosesu Signalau Digidol Prifysgol 亚洲色吧 wedi canfod ffordd gost-effeithiol o wella perfformiad rhwydweithiau sy'n cyflenwi gwasanaethau ff么n symudol a band eang i'n cartrefi a'n busnesau.
Yn ogystal 芒 pherfformio鈥檔 well, mae'r dechneg newydd hefyd yn fwy caredig i鈥檙 blaned. Oherwydd diffyg cymhlethdod y dechneg, mae angen llai o ynni i drosglwyddo swm penodol o ddata, felly mae llai o gost amgylcheddol.
Wrth wneud hyn, mae鈥檙 Ganolfan wedi gosod record byd newydd o ran defnyddio prosesu signalau digidol i drawsnewid systemau trawsyrru optegol cyflym, aflinol, cymhleth yn rhai syml, llinol, cyflym.
Mae canlyniadau鈥檙 ymchwil diweddaraf a gynhaliwyd yn y Ganolfan Prosesu Signalau Digidol ym Mangor, Gogledd Cymru, yn dangos bod cynnydd o 10 gwaith yn lled band rhwydweithiau mynediad a osodir yn fasnachol. Gwnaed hyn yn dechnegol bosib dros bellter estynedig o 100 cilomedr trwy drin y ffordd y caiff y data ei brosesu yn y derbynnydd gan ddefnyddio techneg yn seiliedig ar brosesu signal digidol.
