Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle creadigol gwych i chi ddatblygu fel cerddor wrth gyfuno eich astudiaethau â chynhyrchu’r cyfryngau. Yn ogystal ag astudio cerddoriaeth yn fanwl, byddwch hefyd yn astudio pynciau sy'n canolbwyntio ar y cyfryngau, yn cynnwys newyddiaduraeth deledu a radio, newyddiaduraeth brint, newyddiaduraeth ddigidol, ac ymarfer y cyfryngau. Byddwch yn rhan o gymuned gerddorol fywiog, yn perfformio neu'n mynd i berfformiadau mewn lleoliadau cyhoeddus. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth, gan gynnig dulliau dychmygus a dealltwriaeth greadigol.
Mae ÑÇÖÞÉ«°É yn lle heb ei ail i astudio’r Cyfryngau a Cherddoriaeth, gyda chyfleusterau rhagorol, arbenigedd staff o'r radd flaenaf, ac un o'r amgylcheddau perfformio mwyaf bywiog o blith holl brifysgolion y Deyrnas Unedig. Â
Bydd y radd gyffrous hon yn rhoi i chi ystod eang o sgiliau cynhyrchu mewn gwahanol feysydd o'r cyfryngau, gan gynnwys gwneud ffilmiau dogfen, radio, sgriptio a chynhyrchu ffilmiau byrion. Bydd hefyd yn rhoi sail ddamcaniaethol a dealltwriaeth hanesyddol o sut mae'r cyfryngau'n gweithredu. Yn y cyfamser, bydd y modiwlau Cerddoriaeth yn cynnig profiad a dealltwriaeth ardderchog o gyfoeth cerddoriaeth fel rhan wefreiddiol o'n bywydau bob dydd.Â
Mae'r modiwlau cerddoriaeth a gynigir yn nodedig am eu bod yn cynnig cydbwysedd unigryw o ehangder pwnc a chyfleoedd i arbenigo, sy'n golygu eich bod yn siŵr o ddod o hyd i'r cwrs delfrydol i'ch herio a'ch ysgogi. Mae astudiaethau'r Cyfryngau ym Mangor yn unigryw, gan gynnig integreiddio agos rhwng dulliau gweithredu academaidd a damcaniaethol ac ymarfer creadigol. Mae myfyrwyr yn yr Ysgol yn cael cyfle ar bob lefel i gyfuno astudiaethau yn eu dewis faes gyda gwaith ymarferol sy'n deillio o hynny megis newyddiaduraeth, ffilm, a chynhyrchu yn y cyfryngau/cyfryngau digidol.
Mae staff y Cyfryngau yn yr Ysgol hefyd yn ymarferwyr ac ymgynghorwyr yn eu meysydd, gydag ystod o ddiddordebau ymchwil gan gynnwys hysbysebu, rheoleiddio'r cyfryngau, preifatrwydd, newyddiaduraeth ddigidol, cyfathrebu gwleidyddol, newyddiaduraeth ar-lein, ysgrifennu proffesiynol, cylchgronau, diwylliant gweledol, gemau cyfrifiadurol, bydoedd rhithwir, cyfryngau byd-eang, rhwydweithiau cymdeithasol, a rhaglenni dogfen.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Cyfle i lunio eich cwrs i adlewyrchu eich diddordebau a'ch cryfderau.
- Cyfleusterau pwrpasol i gerddoriaeth a’r cyfryngau, neuaddau cyngerdd proffesiynol, ystafell ymarfer gwrthsain a phedair stiwdio electroacwstig o'r radd flaenaf.
- Cymuned creu cerddoriaeth ddeinamig: corau, cerddorfeydd, bandiau, ensembles myfyrwyr a mwy.
- Ein cysylltiadau rhagorol â busnesau lleol yn y sector creadigol.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Â
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae astudiaethau'r Cyfryngau ym Mangor yn unigryw oherwydd y cyfuniad agos rhwng dulliau gweithredu academaidd a damcaniaethol ac ymarfer creadigol. Mae myfyrwyr yn yr Ysgol yn cael cyfle ar bob lefel i gyfuno astudiaethau yn eu dewis faes gyda gwaith ymarferol sy'n deillio o hynny megis newyddiaduraeth, ffilm, a chynhyrchu yn y cyfryngau/cyfryngau digidol.
Mae modiwlau Ymarfer y Cyfryngau yn canolbwyntio ar dri phrif faes: cynhyrchu ffilm a theledu, cynhyrchu radio a chyfryngau digidol yn fwy cyffredinol. Caiff modiwlau ymarferol eu hasesu ar y cynnyrch ymarferol ac ar allu'r unigolyn i adfyfyrio'n feirniadol ar eu hymarfer.  Asesir modiwlau ar hanes a dylanwad y cyfryngau, a diwylliant y cyfryngau, drwy arholiadau ac aseiniadau, ond bydd dulliau asesu yn amrywio yn ôl y modiwlau a ddewiswyd.
Ar ochr gerddoriaeth y radd, bydd ein hastudiaeth graidd o gerddoriaeth 'glasurol' - o gerddoriaeth gynnar i'r symffonïau mawr a hyd at heddiw - yn cynnig sylfaen oesol i'ch datblygiad fel cerddor dawnus. Mae cyrsiau cerddoriaeth ÑÇÖÞÉ«°É hefyd yn archwilio agweddau ar gerddoriaeth boblogaidd, jazz, a cherddoriaeth o wahanol ddiwylliannau - o Gymru i Frasil - gan ganiatáu i chi arbenigo yn eich dewis o arddulliau a genres.
Os ydych yn gyfansoddwr, byddwch yn cydweithio yn ein cyfleusterau stiwdio newydd sbon â chyfansoddwyr arloesol sydd wedi ennill bri rhyngwladol, ac yn torri tir newydd ym meysydd cyfansoddi a chelf sain.  Bydd perfformwyr yn elwa ar hyfforddiant un-i-un gyda cherddorion proffesiynol, offerynnau o'r radd flaenaf, a nifer o fannau perfformio o safon ryngwladol. Bydd ein hopsiynau poblogaidd mewn arwain, dysgu cerddoriaeth, sgiliau stiwdio, a cherddoriaeth mewn iechyd a lles yn eich paratoi ar gyfer yr amrywiaeth ehangaf bosibl o yrfaoedd mewn cerddoriaeth.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Y Cyfryngau a Cherddoriaeth BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cerddoriaeth
- Dau adeilad Cerddoriaeth pwrpasol.
- Dwy neuadd gyngerdd safonol broffesiynol.
- Mannau ymarfer.
- Ystafelloedd ymarfer gyda mynediad 24 awr.
- Offerynnau gan gynnwys organ maint llawn, organ siambr, harpsicordiau a phianos traws.Â
- Pedair stiwdio cyfansoddi a recordio electroacwstig o'r radd flaenaf, gyda mynediad 24 awr.
- Mynediad i fannau perfformio ac ymarfer yng nghanolfan gelfyddydau ysblennydd Pontio.
- Gwasanaeth benthyciadau helaeth ar gyfer offer fel cyfarpar recordio digidol, camerâu fideo, camerâu lluniau llonydd a mwy.
- Stiwdio radio â chyfarpar proffesiynol.
- Ystafelloedd golygu sain gydag Adobe Audition.
- Ystafelloedd golygu fideo digidol gyda Final Cut Pro a Final Cut Express ar gyfrifiaduron Apple Mac.
- Awditoria.
- Pontio, canolfan y celfyddydau ac arloesi, Â sy'n cynnwys sinema 200 sedd gyda system sain amgylchynol Dolby.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae angen medru darllen hen nodiant i wneud unrhyw un o'r cyrsiau Cerddoriaeth. Mae pwyntiau o arholiadau safonau cerdd yn cael eu hystyried lle bo hynny'n briodol, er nad ydynt fel rheol yn cael eu cynnwys yn y cynnig.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128Â pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: gradd B mewn Cerddoriaeth. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Cerddoriaeth **: DMM - DDMÂ (gan gynnwys uned sy'n dangos y gallu i ddarllen hen nodiant neu gweler**)
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: DMM- DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Â ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Cerddoriaeth**
- Access**:Â Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:Â Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylionÂ
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
**Gellir eu hystyried ar y cyd â gradd B mewn Cerddoriaeth Lefel A; neu deilyngdod yng Ngradd 5 Theori/Gradd 7 Ymarferol/ABRSM/Trinity/LCM/Rockschool; neu'r Fagloriaeth Ryngwladol Uwch mewn Cerddoriaeth.Â
SYLWCH: Efallai y gofynnir i ymgeiswyr Cerddoriaeth ddod am gyfweliad, ac/neu y byddant yn cael cynnig clyweliad dewisol, pe baent yn cyflawni’r gofynion mynediad eraill.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Gall astudio pynciau'r cyfryngau ym Mangor fod yn fan cychwyn i yrfa wych. Mae gennym gysylltiadau gwych â chwmnïau theatr, papurau newydd a'r diwydiant teledu.Â
Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o swyddogaethau, gan gynnwys: ysgrifennu creadigol; ysgrifennu a chyhoeddi proffesiynol; perfformio a'r theatr (ar y llwyfan a gefn y llwyfan); newyddiaduraeth brint ac/neu ddarlledu; fel actorion, cyflwynwyr ac wrth gynhyrchu rhaglenni teledu; hysbysebu a marchnata; radio (fel cyflwynwyr yn ogystal â chynhyrchu rhaglenni); cynhyrchu digidol, ar y we a'r cyfryngau newydd; diwydiannau amlgyfryngau; addysgu; darlithio; a chysylltiadau cyhoeddus.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn.
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Â