Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae fferylliaeth yn broffesiwn gofal iechyd cyffrous sy’n newid yn gyson lle mae’r fferyllydd fel arbenigwr mewn meddyginiaethau yn gallu cyfrannu at iechyd a lles cleifion a chymdeithas.
Ìý
Bydd gweithgareddau ar leoliad yn digwydd yng Nghymru ac yn rhanbarth Gogledd Cymru yn bennaf gyda thua 11 wythnos wedi'u cynllunio yn ystod y rhaglen gyfan. Rhennir y lleoliadau hyn rhwng lleoliadau fferylliaeth gymunedol, ysbytai a meddygfeydd teulu ac mae cynlluniau i amlygu myfyrwyr i ambell leoliad llai cyffredin yn ystod y rhaglen. Yn ystod y lleoliadau bydd myfyrwyr yn gwella ac yn datblygu eu sgiliau a bydd hyn yn cael ei fonitro trwy gael goruchwylwyr lleoliadau i arwain y myfyrwyr trwy nifer o Weithgareddau Proffesiynol Ymddiriedadwy a fydd yn cynnwys lefelau cynyddol o ymddiriedaeth wrth i'r rhaglen ddatblygu gan alluogi'r myfyriwr i ymgysylltu'n fwy annibynnol â chleifion a'u gofalwyr.
Mae rhaglen Fferylliaeth MPharm israddedig pedair blynedd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn arfogi graddedigion addas i ddod yn fferyllwyr a phresgripsiynwyr annibynnol, yn amodol ar gwblhau rhaglen Hyfforddiant Sylfaen yn llwyddiannus y flwyddyn wedyn (yr arferid ei alw yn hyfforddiant rhag-gofrestru) ac ar lwyddo yn Asesiad Cofrestru’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol. Yn ogystal, bydd graddedigion y rhaglen hon hefyd yn gymwys i ymuno â chofrestr y corff achredu fel Presgripsiynwyr Annibynnol. Er bod mwyafrif y graddedigion yn dewis gyrfa fel fferyllwyr wrth eu gwaith, mae rolau a swyddi eraill ar gael o ystyried natur wyddonol y rhaglen.
Mae'r rhaglen MPharm yn amodol ar gael ei hachredu gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol ac mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn gweithio tuag at achredu'r rhaglen hon gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol. Caiff y rhaglen ei hachredu dros dro hyd nes bydd y broses achredu’n gyflawn.
Bydd y rhaglen newydd yma yn ategu ein rhaglen Ffarmacoleg BSc.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae rhaglen radd MPharm Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cyd-fynd â’r safonau a nodir yn y ddogfen ‘Standards for the Initial Education and Training of Pharmacists’ a gyhoeddwyr gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol yn 2021.
Addysgir y rhaglen trwy gymysgedd o addysgu mewn grwpiau mawr a bach mewn darlithoedd, gweithdai a thiwtorialau a thrwy ddulliau ystafell ddosbarth ben i waered. Yn ychwanegol at hynny bydd addysgu’n digwydd yn y labordy ac mewn sefyllfaoedd fferylliaeth clinigol wedi eu hefelychu. Mae gennym amgylcheddau addysgu fferylliaeth a wardiau clinigol efelychiadol pwrpasol er mwyn cynnal yr addysgu hwnnw. Yn ychwanegol bydd dysgu ar leoliad yn cael ei ddarparu mewn lleoliadau fferylliaeth mewn ysbytai, yn y gymuned ac mewn meddygfeydd teulu.
Mae deilliannau dysgu'r rhaglen yn mynd i'r afael â datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ond hefyd y sgiliau hynny sy'n hanfodol i fod yn fferyllydd llwyddiannus. Mae’r strategaethau asesu’n cyd-fynd â hyn gyda chymysgedd o waith cwrs ac asesiadau ffurfiol ar ddiwedd y modiwlau. Ochr yn ochr ag arholiadau arferol, cynhelir cryn dipyn o asesu ar fformat Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE) lle caiff sgiliau a gwybodaeth ynghylch rhyngweithiadau cleifion a chydweithwyr eu hasesu. Mae hefyd yn ofynnol i fyfyrwyr adfyfyrio ar eu cyfnod yn ymarfer fel rhan o'u hasesiad ffurfiol. Ìý
Ym Mlwyddyn 1 byddwch yn dechrau gyda dau fodiwl yn ymdrin â hanfodion gwyddor fferyllol ac ymarfer fferylliaeth. Bydd yr hanfodion hyn yn gosod y cefndir ar gyfer y modiwlau sy’n rhoi sylw i’r claf, ac i feddyginiaeth a gofal y claf o ddiwedd blwyddyn un ymlaen. Yn y modiwlau hynny byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ar lwybr sbiral lle byddwch yn dod ar draws achosion cleifion ac yn dod i ddeall y dulliau therapiwtig o safbwynt cemeg, ffarmacoleg, fferylleg ac ymarfer fferylliaeth.
Wrth i chi ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn ystod blynyddoedd 2 a 3 byddwch yn dod ar draws achosion mwy cymhleth ac yn gwella eich dealltwriaeth o foeseg a chyfraith yn ogystal â phroffesiynoldeb. Wrth i bob modiwl symud trwy wahanol systemau'r corff a thrwy gyflyrau clefydau byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o arferion presgripsiynu a sgiliau cwnsela cleifion. Trwy gyfrwng gweithgareddau ar leoliad ym mhob blwyddyn byddwch yn rhyngweithio â chleifion go iawn mewn lleoliad fferylliaeth ac yn cymhwyso eich dysgu yn yr ystafell ddosbarth mewn lleoliad clinigol go iawn.
Ar ddiwedd blwyddyn 3 byddwch yn ymgymryd â phroject ymchwil i wella eich sgiliau ymchwil a dadansoddi. Mae rhai aelodau o'r tîm addysgu yn cymryd rhan weithredol mewn ymchwil feddygol a gwyddonol, gan roi cyfle unigryw i chi ddarganfod sut mae ymchwil yn arwain at ddatblygiadau mewn ymarfer clinigol. Byddwch yn dysgu sut i wneud ymchwil ac yn mynd ymlaen i wneud traethawd ymchwil a chyflwyno eich canlyniadau mewn digwyddiad cyflwyno posteri.
Ym mlwyddyn 4 bydd popeth y byddwch wedi ei ddysgu yn cael ei gywain ynghyd mewn modiwl blwyddyn gyfan a fydd yn cyflwyno achosion cymhleth a chyfnodau estynedig ar leoliad, gan eich paratoi ar gyfer eich hyfforddiant Blwyddyn Sylfaen, sef cam nesaf eich hyfforddiant fel fferyllydd.
Mae lleoliadau yn rhan annatod o'r rhaglen a byddwch yn treulio rhywfaint o'ch amser wedi'i amserlennu mewn ysbytai, yn y gymuned ac mewn lleoliadau meddyg teulu-fferyllfa.
Ìý
Cyfleusterau
Fferyllfa Efelychiadol
Mae'r fferyllfa efelychiadol newydd yn darparu amgylchedd fferyllfa ffug gan gynnwys dosbarthfa, argraffydd labeli, cownter a silffoedd gydag eitemau stoc fferyllfeydd yn ogystal â chabinet cyffuriau rheoledig. Yn y fferyllfa efelychiadol mae set o ystafelloedd ymgynghori lle bydd myfyrwyr yn ymarfer eu sgiliau ymgynghori.
Ystafell Efelychu Clinigol
Mae ein ward ysbyty ar gyfer addysgu efelychiadol yn gyfleuster o’r radd flaenaf ac yn ein galluogi i addysgu mewn lleoliad ysbyty ffug i alluogi myfyrwyr fferylliaeth i baratoi ar gyfer gweithgareddau y byddant yn ei wneud ar leoliad yn ogystal â gwaith ar senarios dysgu rhyngbroffesiynol.
Ystafell anatomeg
Mae cyfleusterau o’r radd flaenaf yn ein hystafell anatomeg ddynol fel y gallwch ddysgu am weithrediad y corff dynol. Ymhlith yr adnoddau a’r cyfleusterau addysgu mae bwrdd Anatomage, cyfarpar delweddu anatomeg 3D cyntaf y byd ac offeryn dyrannu rhithiol.
Ystafell Rhithrealiti
Mae ein Hystafell Rhithrealiti yn cynnig profiad dysgu trochol o'r radd flaenaf gan ddefnyddio offer a meddalwedd arobryn Oxford Medical Simulation. Mae’n fodd i chi ymarfer sgiliau’n ddiogel, archwilio 'cleifion' a rhyngweithio mewn amser real i sefyllfaoedd clinigol yn seiliedig ar sefyllfaoedd bywyd go iawn. Er enghraifft, cewch ddysgu'n hyderus sut mae rheoli claf sy'n dirywio'n gyflym neu sut mae ymateb pan fydd claf yn sâl iawn, gan wybod na wnewch chi ddim niwed gwirioneddol iddynt. Mae'n ymdrin â phob math o senarios, o'r enghreifftiau difrifol hynny i symptomau mwy cyffredin megis fferau chwyddedig neu ddiffyg anadl. Cewch ryngweithio’n rhithiol â'r holl offer a fyddai gennych mewn sefyllfa real, ac archebu profion gwaed, a gwirio'r canlyniadau o'r labordy, er enghraifft.
Labordai Addysgu
Mae ein labordai a adnewyddwyd yn ddiweddar yn cynnwys systemau clyweledol o'r radd flaenaf, sy'n ei gwneud hi'n haws i chi ddilyn arddangosiadau yn fanwl. Mae sesiynau labordy yn datblygu sgiliau ymarferol perthnasol, gan gynnwys pwysigrwydd iechyd a diogelwch a gweithio gyda sylweddau peryglus. Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o offer labordy hanfodol, megis allgyrchyddion, deoryddion, cloriannau a sbectromedrau. Mae’r offer arbenigol helaeth yn cynnwys ELISA (profion imiwnosorbent sy'n gysylltiedig ag ensymau), patholeg ddigidol, meithriniadau bacteriol, profion sensitifrwydd gwrthfiotig, imiwn-histocemeg, echdynnu DNA/RNA, cineteg ensymau, a synthesis cyffuriau, ymysg eraill. Mae gennym hefyd labordy pathogenau cyfyngedig Categori 2 (lefel cyfyngiant) ar gyfer gwaith gyda chyfryngau biolegol risg ganolig, peryglon ac organebau a addaswyd yn enetig. Mae offer fferyllol ar gyfer datblygu a phrofi ffurflenni dosiau hefyd ar gael ochr yn ochr â labordai ar gyfer cynnal cemeg a dadansoddi fferyllol.
Ìý
Gofynion Mynediad
Sylwer:
•ÌýÌýÌý nid ydym yn derbyn ceisiadau gohiriedig.
•ÌýÌýÌý Mae'r cwrs hwn yn amodol ar ddilysiad.
Cymwysterau Safon Uwch
Lefel A - mae graddau ABB (neu gyfwerth) yn ofynnol. Rhaid cael Cemeg neu Fioleg (gradd B o leiaf) a gwyddoniaeth STEM ychwanegol (gradd B o leiaf) o'r rhestr isod:
- Bioleg
- Cemeg
- Ffiseg
- Mathemateg / Mathemateg Bellach
- Seicoleg
Pynciau gwyddonol eraill yn cael eu hystyried fesul achos. Dim gradd yn is na C. Bydd angen i chi basio'r elfen wyddonol ymarferol o'r Safon Uwch os yw hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol. Caiff pynciau ansafonol eraill eu hadolygu fesul achos ac efallai na chânt eu derbyn.
Gellir gwneud cynnig cyd-destunol o BBB/ABC gyda'r gwyddorau (a nodir uchod) ar radd B o leiaf i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf neu’r rhai sy’n bodloni gofynion ein cynnig cyd-destunol. Sylwer, os ydych yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, rhaid i'ch cais ddangos eich bod wedi ennill TGAU Cymraeg (Iaith Gyntaf).
Bagloriaeth Ryngwladol
32 yn gyffredinol. Rhaid cael graddau 6,6,5 ar y Lefel Uwch. Rhaid i hyn gynnwys gradd 6 mewn Bioleg HL neu Gemeg; a gradd 6 mewn Bioleg HL, Cemeg, Mathemateg neu Ffiseg, Seicoleg. (Ni dderbynnir Theori Gwybodaeth a Thraethawd Estynedig.)
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (Lefel 3)
Derbyniwn y cymhwyster hwn yn lle un Lefel A (ar y marciau uchod), heb gynnwys unrhyw bynciau penodol.
Irish Highers a Thystysgrifau Gadael Ysgol
•ÌýÌýÌý H1 mewn Bioleg neu Cemeg efo H2 mewn Bioleg neu Cemeg a H2 mewn pedwar pwnc arall.
Derbynnir isafswm gradd O4 mewn Saesneg a Mathemateg yn y Dystysgrif Gadael Ysgol yn lle TGAU Mathemateg a Saesneg. Rhaid diwallu gofynion lefel, gradd a phwnc cyfatebol. Ni fydd pynciau dyblyg yn cael eu cyfrif ddwywaith.
Scottish Highers a Thystysgrifau Gadael Ysgol
- Graddau ABB ar ‘Advanced Higher’ gan gynnwys Bioleg a Chemeg.
Bydd cymwysterau ‘National 5’ a ‘Highers’ yn cael eu derbyn yn lle TGAU. Rhaid diwallu gofynion lefel, gradd a phwnc cyfatebol. Ni fydd pynciau dyblyg yn cael eu cyfrif ddwywaith.
Diploma estynedig BTEC
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC Lefel 3 RQF mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Wyddoniaeth Gymhwysol (Gwyddoniaeth Fiofeddygol): DDM o leiaf
- Bydd Diploma Cenedlaethol BTEC Lefel 3 RQF yn cael ei ystyried fesul achos. Gellir derbyn Diplomâu Cenedlaethol mewn maes pwnc perthnasol yn lle 2 Lefel A (DD ynghyd â gradd A ar A2 o leiaf) yn dibynnu ar y cynnwys gwyddoniaeth a astudiwyd.
- Ystyrir Tystysgrif Estynedig Genedlaethol BTEC Lefel 3 RQF fesul achos. Gellir derbyn tystysgrifau estynedig cenedlaethol yn y maes pwnc perthnasol yn lle 1 Lefel A (D ynghyd â graddau AB ar A2 o leiaf) yn dibynnu ar y cynnwys gwyddoniaeth a astudiwyd.
Diploma (Gwyddoniaeth) Mynediad i AU
Diploma Mynediad i AU (60 credyd) gydag o leiaf 45 credyd o'r rhain ar Lefel 3 gydag o leiaf:
- 30 credyd lefel 3 graddedig ar lefel Rhagoriaeth (distinction) sy'n gorfod cynnwys 15 credyd o unedau cemeg neu fioleg a 15 credyd pellach o unedau gwyddoniaeth neu fathemateg eraill.
- 15 credyd Lefel 3 graddedig gyda Theilyngdod (Merit)
Mynediad Graddedig
Graddedigion â gradd Baglor yn seiliedig ar wyddoniaeth: 2.1 neu yn uwch. Graddedigion gyda MSc neu PhD seiliedig ar wyddoniaeth, marc llwyddo yn ofynnol. Os nad yw eich cymwysterau lefel gradd yn seiliedig ar wyddoniaeth, bydd penderfyniadau derbyn yn dychwelyd i'r gofynion Lefel 3 a nodir uchod.
Gofynion Mynediad Ychwanegol
-ÌýÌýÌý TGAU: Saesneg gyda gradd C/5 o leiaf a Mathemateg gyda gradd B/6 o leiaf ynghyd â Chemeg a Bioleg gyda gradd B/6 neu Wyddoniaeth Ddwbl gyda graddau BB/66.
-ÌýÌýÌý Bydd disgwyl hefyd i ymgeiswyr fod ag ymwybyddiaeth, a dealltwriaeth elfennol, o safonau’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol i weithwyr fferylliaeth proffesiynol fel rhan o’r broses.
Rhaid bodloni gofynion iaith Saesneg:
- Rhaid i bob ymgeisydd yn y Deyrnas Unedig feddu ar TGAU (neu gyfwerth) Saesneg gradd C/5 neu uwch fel gofyniad academaidd ar gyfer mynediad.
- Bydd rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol ennill cymhwyster IELTS o 7.0 o leiaf yn gyffredinol gydag o leiaf 6.5 ym mhob un o’r is-sgiliau. Fel arall, cymhwyster cyfwerth fel TOEFL iBT o 100 o leiaf yn gyffredinol gydag o leiaf 22 ym mhob un o’r is-sgiliau.
Ailsefyll cymwysterau
Rydym yn caniatáu ailsefyll cymwysterau Lefel 3 (e.e. Lefel A) unwaith.
Derbyniadau cyd-destunol
Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol yn ofalus (yr amgylchiadau y buoch yn astudio ynddynt) ar eich cais. Byddwn yn ystyried hynny yn y cynigion a wneir, a all fod yn is na'r hyn a hysbysebwyd. Ceir rhagor o fanylion am gynigion cyd-destunol yma. Ìý
Cyfweliadau
Os cewch eich dewis, cewch eich gwahodd i gyfweliad. Rydym yn defnyddio'r dull mini gyfweliadau lluosog, sef cyfres o orsafoedd cyfweld byr. Rhaid i bob ymgeisydd ddod i gyfweliad os caiff wahoddiad.
Amodau ymrestru:
Cyn dechrau’r cwrs, bydd angen gwiriad iechyd ar bob ymgeisydd llwyddiannus, gan gynnwys sgrinio am firysau a gludir yn y gwaed a thwbercwlosis, gan ein Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol. Os nad ydych yn imiwn i Hepatitis B, bydd rhaid i chi gwblhau rhaglen imiwneiddio lawn cyn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn ystod lleoliad. Os oes gennych broblem gydag iechyd y credwch y gallai effeithio ar eich gallu i astudio neu ymarfer, cysylltwch â ni cyn gwneud cais. Ìý
Euogfarnau troseddol
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi gwblhau cais DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) fel rhan o’r drefn dderbyniadau cyn cael eich derbyn ar y cwrs. Ìý
Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, bydd hyn yn cael ei nodi yn y gwiriad a gallai effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai'r rhai sydd ag euogfarnau troseddol gysylltu â pharmacyadmissions@bangor.ac.uk cyn gwneud cais.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr dalu’r gost o gael Tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac fe’u hanogir i ymuno â Gwasanaeth Diweddaru’r DBS am gyfnod y rhaglen.
Costau ychwanegol
Cynghorir ymgeiswyr, er y byddwch yn cael eich ad-dalu am rai o'r costau a ddaw i'ch rhan wrth fynd i leoliadau ymarfer, bydd gofyn i chi dalu'r costau cychwynnol a chael ad-daliad yn ddiweddarach. Gall hyn gynnwys costau llety a theithio (os ydynt yn fwy na'ch costau teithio dyddiol arferol i'ch prifysgol).
Astudiaeth flaenorol o Fferylliaeth
Ni fyddwn fel arfer yn derbyn ymgeiswyr sydd wedi cofrestru ar radd MPharm yn y Deyrnas Unedig yn flaenorol. Mewn achosion eithriadol, lle mae myfyriwr wedi gadael rhaglen am resymau personol neu resymau anacademaidd eraill, yna, fesul achos, gellir ystyried caniatáu iddynt ddechrau ar y rhaglen MPharm ym Mlwyddyn 1. Cysylltwch â ni i drafod cyn gwneud cais. Fel aelod o’r Cyngor Ysgolion Fferylliaeth, rydym yn defnyddio’r gronfa ddata myfyrwyr eithriedig i nodi ymgeiswyr sydd wedi eu gwahardd o raglen radd broffesiynol ar sail addasrwydd i ymarfer. Bydd ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n ymddangos ar y gronfa ddata yn cael eu hystyried yn unigol.
Gwybodaeth bwysig
- Gall gofynion mynediad newid o flwyddyn i flwyddyn.
- Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 18 oed ar ddechrau'r cwrs.
- Ystyrir cymwysterau rhyngwladol fesul achos. E-bostiwch pharmacyadmissions@bangor.ac.uk gyda chopïau o'ch cymwysterau cyn gwneud cais.
- Bydd y Cyngor Fferyllol Cyffredinol hefyd yn cynnal gwiriadau iechyd, cymeriad da a hunaniaeth ei hun cyn cofrestru graddedigion fel fferyllwyr. Mae'r gwiriadau hyn yn ymwneud â chofrestru ac yn ychwanegol at wiriadau a wneir gan brifysgolion a chyflogwyr. Efallai na fydd y Cyngor Fferyllol Cyffredinol yn cofrestru graddedigion os bydd gwiriad yn methu, hyd yn oed os yw wedi llwyddo gwiriadau blaenorol. Ni all y Cyngor Fferyllol Cyffredinol gynnig cyngor cofrestru arfaethedig.
Gyrfaoedd
Rhaglen alwedigaethol yw’r MPharm a’r prif ganlyniad yw y bydd graddedigion yn mynd i mewn i Flwyddyn Hyfforddiant Sylfaen (5ed blwyddyn) fel fferyllydd dan hyfforddiant cyn sefyll Arholiad Cofrestru Cenedlaethol y Cyngor Fferyllol Cyffredinol ac yna dod yn fferyllydd cymwys.
Bydd cefnogaeth cyflogadwyedd ar gael i fyfyrwyr drwy gydol y rhaglen. Byddwn yn gweithio gyda myfyrwyr ym mlwyddyn 3 i'w paratoi i ddefnyddio Oriel (sef mecanwaith lleoliadau’r Flwyddyn Sylfaen) ac ym mlwyddyn 4 i'w paratoi ar gyfer yr Hyfforddiant Blwyddyn Sylfaen.
ÌýÌý Ìý
Mae nifer fechan iawn o raddedigion nad ydynt yn symud ymlaen drwy Oriel ond yn hytrach yn ymuno â phroffesiynau eraill (y gyfraith, newyddiaduraeth, y byd academaidd) a bydd cefnogaeth yrfaoedd yn cael ei ddarparu i’r lleiafrif hwn hefyd.
Ìý