ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:
Person yn gwenu i mewn i'r camera gyda golygfa trefol tu ôl

Cael Gwobrwyo

Gwobr Addysg a Phrofiad Myfyrwyr

Mae’r Wobr Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, a elwid gynt yn Gymrodoriaeth Addysgu Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, yn gwobrwyo staff sydd wedi cael effaith ragorol ar weithgareddau cymorth dysgu ac addysgu sydd o fudd i brofiad myfyrwyr ÑÇÖÞÉ«°É. Daw'r wobr fawreddog hon gyda gwobr o £2,000 a delir i gyfrif gorbenion personol yr enillydd. Dyfernir uchafswm o 10 gwobr bob blwyddyn. Mae'r enwebiadau'n agor yn y gwanwyn, gyda gwahoddiad i’r rhai llwyddiannus dderbyn eu gwobr yn ystod yr wythnos raddio yn yr haf.Ìý

  • Codi’ch proffil academaidd personol Ìý
  • Meithrin cyfleoedd dilyniant gyrfa
  • Dyfarniad o £2,000

Dim ond un aelod o’r staff y cewch ei enwebu mewn Ysgol/Adran Gwasanaeth, a rhaid i’r enwebiadau gynnwys y canlynol:

  • Llythyr enwebu gan Bennaeth yr Ysgol neu'r Adran Gwasanaeth yn rhoi adroddiad cefnogol o ragoriaeth yr enwebai yn ei ymarfer o ran y pedwar maen prawf
  • Dogfen yn cymharu gweithgareddau addysgu a dysgu'r enwebai â’r pedwar maen prawf

Bydd y panel dyfarnu, o gan gadeiryddiaeth yr Athro Nicky Callow - y Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, yn asesu pob enwebiad yn unol â’r pedwar maen prawf.

  • Rhagoriaeth mewn gwella a/neu arloesi
  • Rhagoriaeth effaith
  • Rhagoriaeth ysgolheictod
  • Rhagoriaeth arweinyddiaeth
    Ìý

Cyhoeddir yr alwad flynyddol am enwebiadau yn y Bwletin Staff.

Gwobr ar y Cyd am Ragoriaeth Mewn Addysgu

Mae'r Wobr ar y Cyd am Ragoriaeth mewn Addysgu yn gynllun gwobr Advance HE sy'n cydnabod ac yn dathlu timau academaidd llwyddiannus sy'n cael effaith ragorol amlwg ar addysgu a dysgu trwy gydweithio. Dim ond un tîm y gellir ei enwebu bob blwyddyn. A yw eich tîm ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi sicrhau newid cadarnhaol sylweddol mewn arfer ar gyfer cydweithwyr neu fyfyrwyr ar lefel sefydliadol neu ddisgyblaethol? Os felly, hoffai CELT eich enwebu am Wobr ar y Cyd am Ragoriaeth mewn Addysgu.

Nid oes gennym dîm sydd wedi ennill y wobr eto ac rydym wastad yn chwilio am dîm ardderchog addas i'w enwebu ar gyfer y wobr fawreddog hon.Ìý

  • Codi proffil cenedlaethol eich tîmÌý
  • Agor drysau i gyfleoedd cydweithredol neu yrfaol newydd
  • Meithrin perthynas â gweithwyr proffesiynol eraill ar draws gwahanol ddisgyblaethau, sefydliadau a chenhedloedd sy'n rhannu eich angerdd am gydweithio dros Ìýragoriaeth addysguÌý
  • Hyrwyddo Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É fel sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddangos rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu drwy gydweithioÌý

I ymgeisio, rhaid i dimau gyflwyno cais 4,500 o eiriau yn nodi sut maent yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, gan ddangos tystiolaeth o ragoriaeth yn y canlynol:

  • Sut mae’r tîm yn cydweithio, sy'n gymesur â'u cyd-destun a'r cyfleoedd a gynigir.
  • Cael effaith amlwg ar addysgu a dysgu, gan gynnwys y tu hwnt i'w maes academaidd neu broffesiynol uniongyrchol

Mae angen cynnwys y gwaith papur atodol a datganiad o gefnogaeth wedi'i lofnodi. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y cynllun

Os hoffech gael eich ystyried fel enwebai ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer Gwobr ar y Cyd am Ragoriaeth mewn Addysgu, cysylltwch â’r Athro Caroline Bowman, am sgwrs anffurfiol. Cyhoeddir yr alwad flynyddol am enwebiadau yn y Bwletin Staff.