ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Ein Casgliadau

Mae’r Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn gyfrifol am ddeunydd di-brint a phrint sy’n cael ei wahaniaethu oddi wrth stoc cyffredinol y Llyfrgell ac sy’n derbyn triniaeth arbennig o ran storio, catalogio, ymgynghori, cadwraeth a gwarchod. Mae’r daliadau yn cynnwys llawysgrifau, archifau stadau a phapurau personol ac ystod eang o lyfrau prin a deunydd printiedig.

Mae’r term Casgliadau Arbennig yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio casgliadau di-brint a phrint sydd â nodweddion sy’n eu gosod ar wahân i fathau eraill o gasgliadau. Gall y deunydd a gynhwysir mewn Casgliad Arbennig fod yn brin ac o bosib fod eisiau cael eu trin neu eu storio mewn ffordd arbennig. Mae Casgliad Arbennig yn grynhoad o ddeunydd sy’n uno i wneud adnodd gwerthfawr oherwydd ei berthnasaedd i bwnc penodol neu unigolyn. Mae’r casgliadau canlynol yn cael eu hystyried yn Gasgliadau Arbennig :

  • Casgliad Castell Penrhyn (di-brint)
  • Casgliad Owen Pritchard (print)
  • Casgliad R.S.Thomas (di-brint a phrint)