Oherwydd ÑÇÖÞÉ«°É... rwy'n teimlo ei bod yn bwysig rhoi rhywbeth yn ôl
Bûm ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É rhwng 1966 a 1969, a graddiais yn y Saesneg gyda’r hyn a gredaf oedd yn 2:1 uchel.
Efallai y byddai wedi bod yn ddosbarth cyntaf pe na bawn i wedi creu ac ateb fy nghwestiwn fy hun ar August Strindberg yn yr arholiad; doedd gan yr arholwr mo’r craffter i osod y cwestiynau cywir i mi eu hateb – wedi’r holl waith ro’n i wedi’i wneud ar Strindberg! Dyna roi diwedd, fwy neu lai, ar unrhyw ddyheadau oedd gen i i ddod yn academydd, er fy mod i’n awr yn mwynhau’r teitl, Darlithydd er Anrhydedd ym Mangor drwy rinwedd fy ngwaith gydag israddedigion ar y rhaglen Cyflogadwyedd. Dewisais ÑÇÖÞÉ«°É yn hytrach na Phrifysgol Manceinion drwy hap a damwain; roeddwn yn hoffi’r mynyddoedd, ac roeddwn yn caru'r ardal gyda’i phobl, hanes, diwylliant ac iaith arbennig iawn.
Ar wahân i addysg, cefais amser gwych ym Mangor. Yno cwrddais â’m gwraig, bûm yn chwarae i dîm pêl-droed y Brifysgol yng Nghynghrair Cymru gan ddatblygu fy natur gystadleuol ac ennill yr enw "Iron man McGreevy" s