About This Course
Mae cwrs MPhil a PhD yn cynrychioli darn o ymchwil estynedig i agwedd arbennig ar iaith neu lenyddiaeth Gymraeg. Hyd traethawd MPhil nodweddiadol yw rhwng 30,000 a 60,000 o eiriau tra mae traethawd PhD yn cynnwys rhwng 60,000 a 100,000 o eiriau.
Pennir cyfarwyddwr ymchwil i bob myfyriwr unigol a threfnir i鈥檞 gyfarfod yn rheolaidd drwy gydol cofrestriad y myfyriwr. Cynhelir cyfres reolaidd o seminarau ar gyfer cymuned 么l-radd egn茂ol Ysgol y Gymraeg lle bydd cyfle i rannu gwybodaeth am brojectau ymchwil myfyrwyr a staff.
Gellir dilyn MPhil neu PhD mewn Ysgrifennu Creadigol, cwrs sy鈥檔 cynnwys portffolio creadigol sylweddol a darn o ymchwil hunan-feirniadol yn seiliedig ar y project creadigol. Ymhlith y projectau diweddar mae nofel hanes, nofel gyfoes a chasgliad o gerddi, a chyfres o ysgrifau.
Entry Requirements
Ystyrir pob cais yn unigol, ond rhoddir pwys ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol a/neu brofiad blaenorol perthnasol. Mae MA mewn maes perthnasol hefyd yn gymhwyster dymunol, er nad yw bob tro鈥檔 angenrheidiol.
Careers
Ers rhai blynyddoedd, bu nifer o fyfyrwyr yn Ysgol y Gymraeg yn dilyn cyrsiau MPhil a PhD a noddwyd gan arian o ffynonellau Ewropeaidd, ac y mae hynny wedi arwain at nifer o gysylltiadau gwerthfawr gyda chwmn茂au a sefydliadau fel Canolfan Cae鈥檙 Gors, Cwmni Da ac Amgueddfa Lechi Gogledd Cymru. Noddwyd cynlluniau eraill gan Fwrdd yr Iaith gynt a鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Enillodd myfyrwyr eraill ysgoloriaethau gan yr AHRC a chronfa Ysgoloriaethau Dathlu 125 Mlynedd Prifysgol 亚洲色吧
Ar 么l cwblhau eu MPhil neu PhD yn llwyddiannus, aeth amryw gyn-fyfyrwyr yn eu blaenau i weithio mewn amryw feysydd yn y blynyddoedd diweddar, e.e. swyddi hyrwyddo gyda鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cofrestrfa Academaidd Prifysgol 亚洲色吧 ac Uned Recriwtio Prifysgol y Drindod Dewi Sant, neu faes cynllunio ieithyddol gyda Menter M么n. Aeth eraill ymlaen i ddatblygu eu gyrfaoedd fel llenorion ac ennill cydnabyddiaeth ar ffurf Gwobr Goffa Daniel Owen a Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn. Ar hyd y blynyddoedd mae myfyrwyr ymchwil o Ysgol y Gymraeg wedi cael gyrfaoedd llwyddiannus mewn amryw feysydd, boed yn y cyfryngau, y byd addysg, meysydd gweinyddol neu鈥檙 byd gwleidyddol.