Ymchwilydd PhD yn ennill gwobr mewn Cynhadledd Ryngwladol
Dyfarnwyd gwobr mewn cynhadledd ryngwladol fawreddog i ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol 亚洲色吧, Anita Weissflog, am y cyflwyniad poster gorau.
Mae Anita, sy'n ymchwilio i r么l ffyngau pridd yn aildyfiant coedwigoedd trofannol yn dilyn eu haflonyddu, yn astudio am radd ddoethuriaeth yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol 亚洲色吧. Mae'n cael ei hariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol trwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol . Mae adferiad coedwigoedd trofannol yn aml yn broses araf ac anrhagweladwy, sy鈥檔 cyfyngu ar y potensial i adfer bioamrywiaeth a'r buddion eraill a ddaw o goedwigoedd megis storio carbon. Mae angen ar frys am well dealltwriaeth o'r mecanweithiau sy'n gyrru dynameg coedwigoedd trofannol yn dilyn aflonyddwch difrifol er mwyn llywio gwell dulliau o鈥檜 hadfer. Mae ymchwil Anita yn archwilio r么l ddiddorol ffyngau sy'n tyfu yn systemau gwreiddiau eginblanhigion coed. Gall y rhain naill ai weithredu fel pathogenau, a lladd yr eginblanhigion, neu gynnig buddion fel gwell cyflenwad o faetholion a thrwy hynny gynyddu twf yr eginblanhigion.
Dyfarnwyd Gwobr Poster Bioleg Planhigion 2019 y New Phytologist i Anita yng nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas Bioleg a Chadwraeth Drofannol (ATBC) ym Madagascar am ei gwaith, o'r enw:
Fungal-mediated plant-soil-feedbacks affect secondary succession of tropical rainforests.鈥
Dywedodd goruchwylwyr Anita ym Mhrifysgol 亚洲色吧, Dr Lars Markesteijn a'r Athro John Healey:
鈥淩oeddem wrth ein bodd yn clywed y newyddion bod Anita Weissflog wedi ennill y wobr bwysig hon am ei chyflwyniad yng nghyfarfod yr ATBC ym Madagascar eleni. Mae ymchwil Anita yn amserol iawn o ystyried yr argyfwng datgoedwigo trofannol presennol a'i gyfraniad i'r argyfwng hinsawdd byd-eang. Mae ei phroject wedi'i leoli yn Sefydliad Ymchwil Drofannol y Smithsonian, ein partner ymchwil ym Mhanama, a'i nod yw canfod pam a sut mae ffyngau yn bwysig yn rheoli newidiadau ym mha rywogaethau coed sy'n dominyddu coedwigoedd trofannol wrth iddynt adfywio yn dilyn aflonyddwch gan bobl. Mae ennill Gwobr Poster Bioleg Planhigion y New Phytologist yn fesur o gyrhaeddiad rhagorol ymchwil PhD Anita, a hefyd yn dwyn sylw at y maes pwysig hwn o ecoleg coedwigoedd trofannol. Mae'r ymchwil yma'n cyfrannu'n fawr at raddau BSc a MSc Coedwigaeth Prifysgol 亚洲色吧, sydd gyda'r gorau yn y byd.鈥
Enillodd Anita, sy'n dod o'r Almaen, un o efrydiaethau PhD Envision Prifysgol 亚洲色吧 yn 2017. C芒nt eu hariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ym maes gwyddor yr amgylchedd. Dewisodd Anita astudio ym Mangor am fod y project PhD a'r amgylchedd ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol yn cynnig cyfle delfrydol i astudio'r mecanweithiau sy'n siapio a chynnal amrywiaeth bywyd, sef ei phrif ddiddordeb ymchwil.
Mae'r New Phytologist Trust, sefydliad nid-er-elw annibynnol sy'n ymroddedig i hyrwyddo gwyddor planhigion, yn dyfarnu Gwobr Poster Bioleg Planhigion y New Phytologist yng Nghyfarfod Blynyddol y Gymdeithas Bioleg a Chadwraeth Drofannol. Fe鈥檌 cynhaliwyd eleni ddechrau mis Awst yn Antananarivo, Madagascar. Roedd Anita yno i dderbyn ei gwobr.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2019