Sut mae鈥檙 cranc yn bwrw ei gragen?
Mae'n debyg y byddai pysgotwyr ymhobman yn cytuno nad oes unrhyw abwyd gwell yn ei dymor na chranc sydd newydd fwrw ei gragen. Yn ystod y tymor bwrw cragen nid oes unrhyw beth yn gweithio mor llwyddiannus, gan fod pysgod yn awchu am seigiau cranc meddal. Fodd bynnag, rydym yn annhebygol o weld cranc yn colli ei gragen wrth i ni gerdded ar hyd ein traethau.
Bydd gwylwyr rhaglen BBC Springwatch ar 3 Mehefin am 8 o'r goch yn gallu gweld beth sy'n digwydd wrth i y traeth fwrw ei gragen.
Credir mai hwn yw'r tro cyntaf i granc gael ei ffilmio i ddibenion darlledu yn bwrw ei gragen.
Llwyddodd criw Springwatch i ffilmio'r digwyddiad gyda chymorth gan arbenigwyr o Goleg Gwyddorau Naturiol y Brifysgol, fel un o gyfres o ddarnau byw o byllau creigiau a ffilmiwyd ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Ar gyfer yr olygfa o'r cranc yn bwrw ei gragen, cynghorwyd y criw gan yr Athro Simon Webster, arbenigwr ar ymddygiad crancod.
Eglurwyd y broses gan yr Athro Webster o Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol: "Yn aml mae'r bwrw cragen ei hun yn digwydd yn y nos, ychydig oriau ar 么l i grac cychwynnol ymddangos yng nghefn cragen y cranc. Yna mae'n rhaid i'r cranc yfed swm sylweddol o dd诺r i wneud iddo chwyddo a hollti'r gragen ar hyd y crac. Ar 么l bwrw ei gragen mae'r cranc yn feddal a llysnafeddog ac er y bydd y gragen newydd yn caledu dros y dyddiau a'r wythnosau dilynol, mae perygl iddo gael ei fwyta gan bysgod am yr ychydig ddyddiau cyntaf. Mae arogl gwahanol ar y crancod yn ystod y broses a gellir gweld pysgod fel draenog y m么r yn hela amdanynt yn gynnar yn y bore, wrth iddynt gael eu tynnu i'r d诺r bas ger y lan gan yr arogl."
Mae'r Athro Webster yn disgrifio'r gragen fel meddal a llysnafeddog i ddechrau, pan mae'r cranc yn dod i'r amlwg o'i hen gragen; yna mae'n mynd fel papur, cerdyn tenau ac yna cardfwrdd, cyn caledu yn y diwedd o fewn 3-4 wythnos. Mae'r holl broses yn rhyfeddol o ystyried bod rhaid i gyhyrau'r cranc ymwahanu oddi wrth y gragen cyn y gellir ei bwrw. Felly, prin y gall y cranc symud cyn iddo fwrw ei gragen ac ni all symud rhyw lawer am ychydig ddyddiau ar 么l y digwyddiad chwaith.
Fe wnaeth ymchwilydd o鈥檙 BBC Kristina Turner a'r dyn camera, Richard Kirby, dreulio 10 diwrnod i gyd yn ffilmio helbulon bywyd creaduriaid y m么r mewn pyllau craig mewn acwariwm yn Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol. Fe wnaeth y Swyddog Ymchwil, Dr Nick Jones, hefyd roi cyngor i'r t卯m a darparu ystod eang o organebau m么r a geir yn gyffredin mewn pyllau craig, a ffilmiwyd y rhain yn yr acwariwm yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, tra bu'r Athro Chris Richardson yn cynghori yn ystod sesiynau ffilmio ym Mae Trearddur ar Ynys M么n.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2015