Hitachi-GE, Imperial a Phrifysgol 亚洲色吧 yn datblygu arbenigedd ym maes Adweithyddion D诺r Berwedig (BWR) yn y Deyrnas Unedig a Chymru
Mae Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. (Hitachi-GE) wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth gydag Imperial College a Phrifysgol 亚洲色吧 sy'n cryfhau ei ymrwymiad i arbenigedd yng Nghymru a Phrydain.
Bydd Hitachi-GE yn rhoi cyngor diwydiannol i'r "Canolbwynt a Rhwydwaith Adweithyddion D诺r Berwedig (BWR)" a sefydlwyd yn ddiweddar gan Imperial a 亚洲色吧, gan ddefnyddio ei brofiad helaeth ym maes BWR i roi arbenigedd a chefnogaeth dechnegol. Bydd hyn yn cynnwys lleoli ymchwilydd rhan-amser ym Mangor, ac adeiladu ar y rhaglen bresennol o interniaethau yn Japan i fyfyrwyr o Brydain.
Gwnaed cyhoeddiad heddiw yn dilyn cynhadledd dechnegol lwyddiannus a gynhaliwyd gan y ddwy brifysgol ym Mangor yr wythnos ddiwethaf. Mae Hitachi-GE eisoes yn cefnogi datblygiadau niwclear yng Ngogledd Cymru, gan ddarparu adweithydd ABWR i Horizon Nuclear Power ar gyfer Wylfa Newydd, dan gontract i'r t卯m Menter Newydd.
Meddai Hidetoshi Takehara, Llywydd a Chyfarwyddwr Cynrychioliadol Hitachi-GE:
"Diben hyn yw creu cronfa ddyfnach ac ehangach o arbenigedd BWR yma yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig, gan gefnogi peirianwyr a diwydiant y dyfodol. Mae'r canolbwynt hwn yn hyrwyddo cydlynu ymchwil ym maes BWR, gan sicrhau bod Cymru a'r DU yn datblygu gwir arbenigedd mewn technoleg BWR ar hyn o bryd, ac at y dyfodol.
Ychwanegodd: "Gyda datblygu BWR cyntaf y Deyrnas Unedig i fyny'r ffordd yn Wylfa Newydd, mae'r cynllun hwn yn helpu i sicrhau bod y project yn fan cychwyn i'r DU ddod yn arweinydd amlwg drwy'r byd ym maes arbenigedd technoleg BWR i ddibenion domestig."
Meddai Dr Michael Bluck, Cyfarwyddwr y Centre for Nuclear Engineering yn Imperial:
"Mae Imperial yn falch o weithio gyda Hitachi-GE a Phrifysgol 亚洲色吧 i sefydlu mwy o arbenigedd ym maes Adweithyddion D诺r Berwedig yn y DU. Bydd y cynllun hwn yn edrych ar anghenion ymchwil a llunio projectau i gefnogi cynhyrchu trydan carbon isel i'r DU a llawer o wledydd eraill am ddegawdau i ddod.
Ychwanegodd:
Bydd Canolbwynt a Rhwydwaith Ymchwil BWR yn dod ag ymchwilwyr yn y DU ac o Hitachi Nuclear at ei gilydd i helpu i ddatblygu cenedlaethau'r dyfodol o dechnoleg Adweithyddion D诺r Berwedig yma yn y DU a Chymru."
Meddai'r Athro John Hughes, Is-ganghellor, Prifysgol 亚洲色吧:
"Rydym yn hynod falch o ffurfio partneriaeth ag Imperial College, Llundain, gyda mewnbwn arbenigol gan Hitachi-GE, i hyrwyddo'r datblygiad pwysig hwn i sector ynni'r DU. Bydd y cydweithio hwn yn galluogi Prifysgol 亚洲色吧 i helpu i adeiladu sylfaen academaidd ac ymchwil yma yng Ngogledd Cymru i greu arbenigedd niwclear mewn cenhedlaeth newydd o wyddonwyr a pheirianwyr ym maes technoleg BWR.
Ychwanegodd:
"Roeddem yn neilltuol falch i weld cynhadledd gyntaf y Rhwydwaith Ymchwil BWR yn cael ei gynnal ym Mangor yr wythnos ddiwethaf, yn dilyn cyfarfodydd blaenorol rydym wedi eu cynnal yma yn ystod y misoedd diwethaf rhwng diwydiant ac academia ar y pwnc pwysig hwn. Bydd Prifysgol 亚洲色吧 yn parhau i sicrhau y bydd y manteision o'r buddsoddiad arfaethedig mewn cyfleusterau niwclear newydd a fydd yn defnyddio'r dechnoleg hon yn Wylfa Newydd yn cael eu hyrwyddo yng Ngogledd Cymru a thrwy weddill Prydain."
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016