Esgyniad rhannol ddall cyntaf o鈥檙 Matterhorn
Bydd ymchwilydd o Brifysgol 亚洲色吧 yn ceisio dringo'r Matterhorn yn y Swistir yn fuan. Os yn llwyddiannus, ef fydd y person rhannol ddall cyntaf i wneud hyn.
Bydd Dr David Reynolds, 27, Swyddog Ymchwil yn yr yn dringo鈥檙 mynydd 4,478m er mwyn codi arian ar gyfer Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) yn gynnar ym mis Medi. Bydd yn dringo gyda鈥檌 frawd Steven, 28, a dau dywysydd. Dwy flynedd yn 么l, gwnaethpwyd diagnosis ei fod yn dioddef o Stargadts macwlaidd nychdod, cyflwr sy鈥檔 dirywio鈥檙 llygaid wrth achosi rhan ganolog y retina i ddiraddio sydd wedyn yn arwain at golli鈥檙 golwg canolog a datblygu mannau dall. Ar hyn o bryd does dim modd gwella鈥檙 cyflwr yma.
Wrth i'r cyflwr ddatblygu, bu raid i David roi鈥檙 gorau i rai pethau fel gyrru a beicio, felly penderfynodd osod yn her yma er mwyn profi i鈥檞 hun, a hefyd dangos i bobl eraill sy'n delio 芒 cholli eu golwg fod eu huchelgais yn dal yn gyraeddadwy.
Dywedodd David: "Ar y pryd roeddwn yn ofni y byddai'r diagnosis yn rhwystro i mi barhau 芒 gyrfa mewn ymchwil palaeoclimate gan fy mod yn meddwl fod y gwaith yn ddibynnol ar gael golwg arbennig o dda. Yr her feddyliol o golli golwg ydi un o鈥檙 problemau mwyaf, a gwneir hyn yn waeth gan yr ansicrwydd gan na all meddygon ragweld pa mor gyflym y bydd y llygaid yn dirywio nac i ba raddau. O ganlyniad, mae pobl sy'n dioddef o nam ar eu golwg gyda risg uchel o ddatblygu iselder.
"Mae elusennau fel yr RNIB yn darparu cymorth a chymhorthion gweledol sy'n hanfodol ar gyfer pobl sy'n dioddef o nam ar eu golwg i fyw bywyd cymharol normal. Felly, ar 么l elwa ar eu cymorth yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, byddai'n wych cael rhoi rhywbeth yn 么l. "
Yn wreiddiol o'r Wyddgrug, mae David wedi byw o gwmpas 亚洲色吧 am yr wyth mlynedd diwethaf ar 么l iddo symud yma i astudio am ei radd israddedig mewn Bioleg Forol. Ymunodd 芒 Chymdeithas Mynydda Prifysgol 亚洲色吧 lle cafodd y cyfle i ddringo dan do ac yn yr awyr agored yn Eryri. Parhaodd David i ddringo yn ystod ei radd israddedig ac yn ystod ei PhD a oedd hefyd yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 亚洲色吧.
Er mwyn cefnogi David, gallwch gyfrannu ar-lein yn: http://uk.virginmoneygiving.com/matterhornclimb
Am fwy o wybodaeth am y daith ewch i鈥檞 wefan http://www.matterhornclimb.co.uk
Dyddiad cyhoeddi: 29 Awst 2013