Datblygu paciau cefn bychain i wenyn
Mae project newydd cyffrous i ddatblygu ffordd newydd i ddilyn gwenyn drwy鈥檙 tirlun yn datblygu鈥檔 dda yn 么l gwyddonwyr ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Mae ecolegydd ac arbenigwr mewn microsystemau yn cydweithio i ddatblygu paciau cefn bychain i wenyn a fydd yn galluogi dr么nau bach i鈥檞 dilyn fel yr hedant o blanhigyn i blanhigyn
Bydd hyn yn galluogi gwyddonwyr i ddysgu mwy am le mae鈥檙 gwenyn yn casglu neithdar a beth all fod yn effeithio ar eu niferoedd.
Bydd y ddyfais ysgafn, sy鈥檔 dilyn hynt y gwenyn dros gryn bellter, yn defnyddio ynni trydanol y gwenyn ei hun ar gyfer ei bweru, ac mae鈥檙 gwyddonwyr newydd brofi eu gallu i wneud hyn.
Y cam nesaf yw profi鈥檙 paciau cefn mewn twnnel, ac mae鈥檙 gwyddonwyr yn gobeithio gwneud hyn yn ystod y misoedd nesaf.
Fel yr eglurodd Paul Cross o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth:
鈥淢ae poblogaethau gwenyn, sy'n hanfodol i beillio planhigion a choed, yn dirywio'n gyflym ar hyn o bryd o ganlyniad i sawl peth, yn blaleiddiaid a gwiddon varroa i enwi ond dau.
Bydd gallu i defnyddio鈥檙 ficrodechnoleg ddiweddaraf er mwyn medru dilyn hynt gwenyn dros yr holl bellter y maent yn teithio yn ddefnyddiol ar gyfer sawl achlysur. Mae pryfleiddiaid neonicotinaidd ac eraill er enghraifft yn effeithio ar allu鈥檙 gwenyn i fordwyo. Bydd gallu eu dilyn yn bell yn ein galluogi i ganfod sut mae鈥檙 neonicotinoidau yn effeithio ar eu synnwyr cyfeiriad. Bydd defnyddiau eraill yn cynnwys dilyn y gacynen Asiaidd sydd yn fygythiad difrifol i sawl rhywogaeth o wenyn yn Ewrop, gyda鈥檙 bwriad o鈥檜 rheoli neu eu difa cyn ei bod yn rhy hwyr.鈥
Esboniodd Dr Cristiano Palego, arbenigwr microsystemau yn Ysgol Peirianneg Electronig y Brifysgol:
鈥淢ae cyfyngiadau o ran y defnydd y gellir ei wneud o declynnau presennol i fonitro gwenyn oherwydd eu pwysau, y pellter y gallant weithredu drosto a pha mor hir y mae eu ffynhonnell b诺er yn parhau - dyma鈥檙 problemau yr ydym wedi ceisio鈥檜 goresgyn gan ddefnyddio鈥檙 dechnoleg ficro ddiweddaraf.
鈥淩ydym wedi profi ein gallu i hel a defnyddio ynni electronig y gwenyn er mwyn cael gwared 芒鈥檙 angen i ddefnyddio batri a bydd ein teclyn tracio hunangynhaliol yn pwyso ond tua thraean pwysau corff y gwenyn a llai na diferyn o law. Mae hyn yn datrys problemau pwysau a bywyd y batri.鈥
鈥淓in cam nesaf yw datblygu derbynnydd symudol a dilyn y signal a yrrir gan y gwenyn wrth iddo symud ar draws y tir.鈥
Fel yr eglurodd Paul Cross:
"Mewn gwirionedd mae hyn yn debyg i wenyn yn cario rycsac - o'i gymharu 芒 chario'r hyn sy'n cyfateb i fwrdd y gegin a chadeiriau ar ei gefn fel sy'n digwydd ar hyn o bryd!"
Cyllidir y project cychwynnol drwy raglen Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS). Y sefydliad sy'n bartner yn y fenter yw The Apiary Enterprise Limited, sy'n awyddus i gyllido ymchwil i ddulliau tracio gwenyn m锚l mewn amgylcheddau tymherus a throfannol er mwyn gweld pa mor bell mae'r gwenyn yn ei deithio i gasglu eu bwyd dan wahanol amodau hinsawdd ac amgylcheddol. Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth fwy manwl a chynhwysfawr i'r cwmni wrth benderfynu lle i sefydlu gwenynfeydd newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Awst 2017