Celloedd Canser yn dewis y dull "bl锚r a brysiog"
Prif nodwedd canser yw twf afreolus celloedd wedi ei ysgogi gan beiriant cylch celloedd sydd wedi mynd yn wyllt. Prif gydran y peiriant hwn yw'r ensym Cdc2 cinas. Mae Cdc2 cinas wedi ei reoleiddio'n dynn mewn celloedd normal, mae'r rheolaeth yma ar goll mewn celloedd canser.
Mae ymchwil flaengar a wnaed ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn wedi darganfod bellach bod Cdc2 cinas gorfywiog nid yn unig yn gorfodi celloedd i luosi mewn ffordd afreolus ond hefyd yn ail-raglennu鈥檙 gwaith o drwsio cromosomau sydd wedi torri.
Mae arweinydd y t卯m Dr Thomas Caspari yn egluro:
鈥淧an fydd cromosom yn torri, gall celloedd dynol ei drwsio'n ddiogel, sy'n cymryd amser, neu'n gyflym, a allai arwain at gamgymeriadau. Mae ein gwaith wedi datgelu bod yn well gan gelloedd gyda Cdc2 cinas gorfywiog y dull 'bl锚r a brysiog' na'r dewis diogel. Gallai'r darganfyddiad cyffrous hwn egluro pam mae celloedd canser yn aml yn cysylltu pennau anghywir cromosomau sydd wedi torri, proses sydd yn hybu twf tiwmorau."
Adroddir am y canfyddiadau yn rhifyn mis Mehefin o'r cyfnodolyn dylanwadol Nucleic Acid Research a gyhoeddir gan Oxford University Press.
Meddai Dr Thomas Caspari:
鈥淣i fuasai'r ymchwil gyffrous hon yn bosib heb gefnogaeth hael gan Gronfa Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, elusen sydd 芒'i phencadlys yn Lerpwl, a chan lywodraeth Libya, sy'n cefnogi'r awdur arweiniol Mr Salah Adam Mahyous Saeyd. Mae'n dangos hefyd pa mor rhyngwladol yw ymchwil ym Mhrifysgol 亚洲色吧 gan fod y ddau fyfyriwr arall a gyfrannodd at y gwaith yn dod o Wlad Pwyl a Tsieina."
Mae'r llawysgrif ar gael am ddim ar dudalen gartref .
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2014