Ar Orchymyn Brenhinol
Mae dau ysgolhaig o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi derbyn gwahoddiadau brenhinol i gymryd rhan mewn digwyddiadau pwysig a dylanwadol.
DR Gareth Williams.Bydd Dr Gareth Williams o'r Ysgol Gwyddorau Eigion yn y Brifysgol yn un o nifer fechan o siaradwyr rhyngwladol a bydd yn rhannu ei farn arbenigol ar riffiau cwrel y Môr Tawel mewn Symposiwm Rhyngwladol: ‘Rethinking the Future for Coral Reefs’, a drefnir gan Ei Uchelder Brenhinol, Iarll Wessex, noddwr Sefydliad Morol Canol y Caribî (The Central Caribbean Marine Institute).
Yn y cyfamser, bu Athro o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, Andrew Pullin, yn ymweld â'r Colocwiwm Brenhinol, 'Environmental reality: Rethinking the options' ar wahoddiad y Brenin Carl XVI Gustaf o Sweden (23-25 Mai).
Bydd Dr Gareth Williams ymhlith 25 cyfrannwr yn cynnwys cyfarwyddwyr sefydliadau sydd â diddordeb mewn gwarchod riffiau cwrel a'r cefnfor, ysgolheigion, cynrychiolwyr o'r cyfryngau a phenaethiaid gwladwriaethau yn cyfrannu at Symposiwm Rhyngwladol ar 6-7 Mehefin, sy'n anelu at wella polisïau, rheolaeth a llywodraethiant, fel y gellir gwarchod riffiau cwrel y byd yn well.
Mae riffiau cwrel yn gwneud gwaith hollbwysig megis darparu ffynhonnell werthfawr o fwyd, gwarchod yr arfordir a darparu incwm o dwristiaeth i filiynau o bobl, yn enwedig mewn gwledydd sy'n datblygu felly mae eu diogelu o'r pwys mwyaf. Mae Dr Gareth Williams ymhlith arweinwyr y nodwyd bod ganddynt y potensial i greu cynllun trawsffurfiol i wrth-droi dirywiad riffiau cwrel, a chefnogi'r cymdeithasau sy'n dibynnu arnynt.
Mae symposiwm Llundain 2016 yn dilyn cerrig milltir gwyddonol sy'n dyddio'n ôl 40 mlynedd.
Meddai Dr Gareth Williams:
"Rwyf wrth fy modd fy mod wedi derbyn y gwahoddiad hwn i rannu fy ngwybodaeth am riffiau cwrel y Môr Tawel, a sut mae gweithgareddau dynol yn effeithio arnynt, fel y gallwn gydweithio i sicrhau parhad yr adnoddau hanfodol hyn i'r dyfodol."
Yr Athro Andrew Pullin.Bu'r Athro Andrew S. Pullin o'r Ganolfan ar gyfer Cadwraeth ar sail Tystiolaeth (CEBC) yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn y Colociwm Brenhinol, 'Environmental reality: Rethinking the options’.
Mae gwaith yr Athro Pullin yn cefnogi gwneud penderfyniadau ym meysydd rheolaeth gadwraethol ac amgylcheddol drwy ddarparu arolygon ystadegol a systematig o effeithiolrwydd rheolaeth ac ymyriadau polisi, ac ar effaith gweithgareddau dynol ar yr amgylchedd naturiol.
Mae colocwia blaenorol wedi cynnwys nifer eang o bynciau yn cynnwys dŵr, ynni, amaeth, a hinsawdd, gyda'r sylw daearyddol yn amrywio o ardaloedd arfordirol i fynyddoedd ac o ranbarthau trofannol i'r Arctig. Gyda'r ystod eang hon o enghreifftiau mewn golwg, mae'n bosibl archwilio'r tueddiadau a'r ffactorau tyngedfennol sy'n ffurfio hanes yn ogystal â darparu heriau a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mehefin 2016