Mae'r brifysgol yn disgwyl bod traethodau ymchwil 么l-radd yn ddogfennau sydd ar gael i'r cyhoedd. Felly, onid oes rheswm cyfreithlon dros gyfyngu ar fynediad at draethodau ymchwil, bydd pob PhD, gradd Meistr trwy Ymchwil, Doethuriaeth Broffesiynol ac MPhil ar gael i'r cyhoedd ar y rhyngrwyd yng nghatalog Llyfrgell Prifysgol 亚洲色吧.
Gall ymgeisydd gyhoeddi unrhyw waith ymchwil cyn ei gyflwyno i鈥檞 arholi. Gellir cynnwys gwaith wedi ei gyhoeddi yn y traethawd. Mewn rhai achosion, mae鈥檔 bosib na chaniateir cyhoeddi, er enghraifft, os gosodwyd cyfyngiadau gan noddwr neu gan y brifysgol. Os yw traethawd ymchwil yn cynnwys data cyfrinachol neu sensitif efallai na fydd yn briodol cyhoeddi'r testun llawn ar-lein. Yn yr un modd, os oes bwriad i gyhoeddi'r traethawd ymchwil cyfan, neu ddarnau ohono, efallai y bydd rhaid cyfyngu ar fynediad at y fersiwn electronig. Mewn sefyllfa o鈥檙 fath, gellir gofyn am embargo/rhwystro mynediad.
Fel rheol, gellir caniat谩u rhwystro mynediad at y traethawd ymchwil a/neu ddata cysylltiedig am gyfnod penodol hyd at bum mlynedd. Rhaid i yr ymgeisydd gyflwyno cais i rwystro mynediad.聽 Rhaid cyflwyno ceisiadau o'r fath i'r Ysgol Ddoethurol, a chaiff ceisiadau am gyfnod hwy na 6 mis eu hystyried gan gadeirydd Pwyllgor Rheoliadau ac Achosion Arbennig y Senedd (neu rywun a enwebir yn ei le/yn ei lle).
Rheoliadau Rhaglenni Ymchwil 脭l-radd
Mae cyfnod yr embargo fel arfer yn gymharol fyr a dim ond mewn achosion eithriadol y gellir cyfyngu ar fynediad i draethawd ymchwil, er enghraifft ar sail fasnachol, cais patent yn yr arfaeth, cyfrinachedd yn ofynnol gan y cyllidwr, neu gyfyngiad a osodir yn benodol gan gyhoeddwr (e.e. oherwydd bod y traethawd cyfan neu ran ohono鈥檔 cael ei gyhoeddi fel contract llyfr).
Caiff y traethawd ymchwil ei storio'n electronig yn PURE. Bydd y metadata am y traethawd ymchwil ar gael trwy'r porth PURE (a chatalog y Llyfrgell). Caiff y traethawd ymchwil ei hun ei ychwanegu at y cofnod ond bydd wedi ei gau fel na fydd ar gael nes bod yr embargo wedi dirwyn i ben (neu wedi cael ei ymestyn os bydd y myfyriwr yn casglu'r wybodaeth gyhoeddi angenrheidiol i gyfiawnhau estyniad pellach).
Gwneud Cais am Embargo Traethawd Ymchwil
Cam 1
Siaradwch 芒'ch T卯m Goruchwylio
Cam 2
Llenwch ffurflen gais embargo yn y Ganolfan Geisiadau.聽
Cyflwyno cais am embargo ar draethawd ymchwil:
.
Cyflwyno cais am embargo ar draethawd ymchwil:
.
Cam 3
Cyflwyno鈥檙 Ffurflen Cais am Embargo
Dim ond pan fydd rheswm da dros wneud hynny y caiff embargos eu cymeradwyo. Unwaith y bydd y cais wedi ei gyflwyno, bydd y goruchwyliwr yn cael hysbysiad. Am y rheswm hwnnw, dylai cais am embargo ddod ar 么l trafodaeth gyda'ch goruchwyliwr.
Fel rheol, dylid cyflwyno'r ffurflen cais am embargo ar yr un pryd ag y bydd yr ymgeisydd yn cyflwyno'r traethawd ymchwil i'w arholi; fan bellaf, dylid ei gyflwyno cyn iddynt gyflwyno fersiwn derfynol eu traethawd ymchwil yn dilyn eu harholi.
Gall cyflwyno'r cais yn hwyr olygu bod y traethawd ymchwil yn cael ei ryddhau yn gyhoeddus.
Cam 4
Cymeradwyaeth
Mae pedair senario posib:
- Gwrthod y cais am embargo: Efallai bydd yr Ysgol Ddoethurol yn gwrthod eich cais am embargo neu'n gofyn am dystiolaeth bellach i gefnogi'r cais.
- Cymeradwyo cais am embargo am chwe mis: Os yw'r cais am embargo am chwe mis, gall yr Ysgol Ddoethurol ganiat谩u'r cais hwnnw am chwe mis.
- Cymeradwyo cais am embargo am gyfnod hwy heb dystiolaeth bellach: Os yw'r cais am embargo am gyfnod sydd yn hwy na chwe mis, gall yr Ysgol Ddoethurol ganiat谩u embargo ar fynediad i draethawd ymchwil 亚洲色吧 am y chwe mis cychwynnol. Yna anfonir y cais ymlaen at Bwyllgor Rheoliadau ac Achosion Arbennig y Senedd i ystyried estyniad hwy (5 mlynedd ar y mwyaf).
- Cais am bortffolio tystiolaeth i embargo am gyfnod hwy: Os bydd Pwyllgor Rheoliadau ac Achosion Arbennig y Senedd yn gofyn am bortffolio i gefnogi cyfnod hwy o embargo, bydd yr Ysgol Ddoethurol yn gofyn i'r ymgeisydd baratoi'r portffolio, yn cynnwys unrhyw ohebiaeth 芒 chyhoeddwyr, tystebau gan unigolion gwybodus ac ati, i gefnogi embargo am gyfnod hwy.
Paratoi Portffolio o dystiolaeth ategol聽Dylid ymgorffori eich portffolio o dystiolaeth ategol聽mewn un cyflwyniad聽i'r Ganolfan Geisiadau a chaiff ei anfon ymlaen at Bwyllgor Rheoliadau ac Achosion Arbennig y Senedd i ystyried estyniad hwy (5 mlynedd ar y mwyaf).聽
Dros gyfnod yr embargo, cyfyngir mynediad at eich traethawd ymchwil yn unol 芒'r telerau a gymeradwywyd gan y brifysgol:聽os rhoddir embargo ar y traethawd ymchwil, ni fydd mynediad cyhoeddus i'ch traethawd ymchwil dros gyfnod yr embargo. Bydd cofnod metadata ar gael i'r cyhoedd, oni bai eich bod yn nodi bod angen embargo ar hwn hefyd. Os oes angen, efallai y bydd eich goruchwylwyr a/neu Bennaeth yr Ysgol yn ymgynghori 芒'ch traethawd ymchwil.
Yn dilyn diwedd y cyfnod embargo a gymeradwyir, bydd eich traethawd ymchwil ar gael yn gyhoeddus yn awtomatig yn y ffordd arferol.