ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Argymhellion Canfyddiadau Mannau Gwyrdd

Briff y Polisi

Canfyddiadau Cymunedol o Brojectau Mannau Gwyrdd Awdurdodau Lleol

Mae ychwanegu seilwaith mannau gwyrdd at ardal o les i bawb: yr amgylchedd, y bobl leol, a’r awdurdodau. Ymhlith y manteison mae bioamrywiaeth, storio carbon, gwaredu llygredd yr aer a lliniaru sŵn, ac effeithiau cadarnhaol ar iechyd a llesiant. Ond weithiau mae pobl yn gwrthwynebu newid, ac yn aml bydd awdurdodau’n derbyn mwy o gwynion na lleisiau cefnogol. Bu’r project yn bwrw golwg mwy manwl ar farn pobl a gwelwyd mai ychydig iawn o bobl sy’n gwrthwynebu coed neu ddolydd blodau gwylltion newydd mewn gwirionedd. Ond efallai fod ganddynt awgrymiadau penodol ynglŷn â’r llefydd gorau i fannau gwyrdd newydd – ac maen nhw eisiau cymryd rhan.

Yn 2023, asesodd ein prosiect cydweithredol y manteision i ecosystemau o gyflawni Strategaeth 'Newid Hinsawdd ac Ecolegol' Cyngor Sir Ddinbych, a chanfyddiadau'r gymuned o'r cynlluniau amgylcheddol sy'n digwydd yn eu cymdogaeth, yn nhref arfordirol y Rhyl. Cymharwyd barn trigolion y Rhyl â sampl cynrychioliadol cenedlaethol o'r Deyrnas Unedig. Partneriaid y Project oedd: Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É (Yr Athro Thora Tenbrink a Dr Sofie Roberts), Canolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig (Yr Athro Laurence Jones) a Chyngor Sir Ddinbych (Liz Wilcox-Jones). Cynhaliodd Canolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig (UKCEH) fodelau i gyfrifo manteision y seilwaith gwyrdd (SG) presennol ac arfaethedig yn y Rhyl. Datblygodd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É arolwg ar-lein i gasglu data cymdeithasol ledled y Deyrnas Unedig ynglÅ·n â safbwyntiau ar blannu coed a dolydd blodau gwylltion a’u cymharu â chanfyddiadau trigolion y Rhyl. Bu cyfweliadau unigol â thrigolion y Rhyl yn gymorth i gasglu rhagor o wybodaeth am ymatebion y gymuned i'r projectau SG hynny. Ìýa ariannodd y project.

  • Y ffordd orau o ddatblygu ymyriadau sy’n ymwneud â mannau gwyrdd yw trwy gyd-greu ac yn seiliedig ar le, a chydnabod efallai na fydd yr hyn sy’n gweithio yn y naill le’n gweithio yn y llall. Trwy gyd-greu gall cynghorau lleol ystyried mannau glas newydd, ar dir y cyngor, i greu mannau i fyd natur sydd o fudd i bob cymuned. Mae pobl yn adnabod eu broydd a gallant gynnig awgrymiadau penodol ynglÅ·n â ble byddai’r croeso mwyaf i hynny.
  • O gynnwys y preswylwyr pryd bynnag y bo modd, gellir cynyddu’r gefnogaeth i brojectau mannau gwyrdd.
  • Mae angen arwyddion clir ar fannau natur ynghylch manteision bioamrywiaeth a diben y man gwyrdd newydd. Fel arall, gallai pobl gymryd yn ganiataol mai wedi'i esgeuluso y mae lle. Mae gofalu am wenyn a glöynnod byw yn un enghraifft y mae gan breswylwyr farn gadarnhaol yn ei chylch.
  • Mae rhai pobl yn disgwyl harddwch trwy gydol y flwyddyn o glywed y term 'dolydd blodau gwylltion'. Mae modd gwneud safleoedd dolydd blodau gwylltion yn fwy derbyniol trwy wasgaru blodau i ychwanegu lliw at y gweiriau. Efallai y byddai’r term 'dolydd bioamrywiaeth' neu 'leiniau bioamrywiaeth' yn helpu cyfleu sut wedd sydd ar safleoedd blodau gwylltion a'u prif ddiben.
  • Mae darparu ffigurau ynglÅ·n â pherfformiad mannau gwyrdd penodol yn galluogi swyddogion y cyngor i gloriannu’r manteision amlswyddogaeth a chynllunio’r glasu at y dyfodol yn eu lleoliad.

Ìý

  • Yn ôl data Sir Ddinbych datgelodd modelau gwasanaethau’r ecosystem y gall un hectar o goed gynnig gwerth economaidd hyd at £3,669 o ran sŵn, llygredd yr aer a charbon, os cânt eu plannu yn y mannau cywir.
  • Roedd mwyafrif helaeth y bobl a holwyd (> 70%) ac a gyfwelwyd (> 80%) o blaid cynlluniau seilwaith glas (SG) (yn yr achos hwn, plannu coed a dolydd blodau gwylltion).
  • Ni newidiodd yr wybodaeth ychwanegol ynglÅ·n â’r manteision y maent yn eu darparu eu canfyddiadau am goed a dolydd blodau gwylltion, sy’n awgrymu nad yw ymgyrchoedd gwybodaeth untro yn tueddu i newid canfyddiadau presennol pobl.
  • Nododd y mwyafrif helaeth o’r rhai a gafodd eu cyfweld yn y Rhyl fod ganddynt ddiddordeb mawr yng nghynlluniau SG Cyngor Sir Ddinbych, a hoffai'r rhan fwyaf fod yn rhan o'r broses i ymgysylltu â'r Cyngor a chael dweud eu dweud. Dywedodd 89% o gyfranogwyr y cyfweliadau yr hoffent gymryd rhan mewn gweithgareddau coed neu ddolydd flodau gwylltion yn y Rhyl.
  • Iechyd meddwl a llesiantÌýaÌýgwenynÌýoedd y manteision a nodwyd amlaf gan bobl a holwyd neu a gafodd eu cyfweld.
  • Cynhaliwyd arolwg holiadur ar-lein gyda 1,866 o bobl ledled y Deyrnas Unedig na chawsent wybod am y pwnc cyn cymryd rhan. Yn ogystal, gwirfoddolodd 60 o breswylwyr y Rhyl i gymryd rhan yn yr arolwg ar ôl clywed am y pwnc.
  • Roedd canfyddiad hynod gadarnhaol ynglÅ·n â choed a dolydd blodau gwylltion a dywedodd dros 70% o’r ymatebwyr i’r arolwg cenedlaethol ac arolwg y Rhyl eu bod eisiau mwy o goed a dolydd blodau gwylltion yn eu broydd.
  • Dangosodd preswylwyr y Rhyl fwy o ganfyddiadau cadarnhaol am goed na chyfartaledd y Deyrnas Unedig.
  • Y lleoliadau mwyaf poblogaidd (> 70%) i goed yn yr arolygon cenedlaethol ac arolwg y Rhyl oedd ardaloedd gwledig a pharciau a’r lleoliadau lleiaf poblogaidd (45%) oedd llwybrau cerdded a beicio. O ran dolydd, y lleoliadau mwyaf poblogaidd oedd ardaloedd gwledig a pharciau (ac yn y Rhyl, ar lwybrau cerdded a beicio) a’r lleoliadau lleiaf poblogaidd oedd canol y ddinas neu’r dref. Mae'n bosibl i’r term 'dôl' ddylanwadu ar hynny fel awgrym o gynefin agored a fyddai'n cael ei ystyried yn amhriodol yng nghanol tref.
  • Yn yr arolwg cenedlaethol roedd safbwyntiau cadarnhaol cryfach ynglÅ·n â choed a dolydd blodau gwylltion mewn ardaloedd mwy cyfoethog. Fodd bynnag, yn gwbl groes i hynny yn y Rhyl roedd ardaloedd difreintiedig eisiau mwy o goed a dolydd blodau gwylltion.
  • Cynhaliwyd 28 o gyfweliadau yn y cnawd yn y Rhyl. Cafodd y cyfranogwyr eu recriwtio drwy bosteri mewn mannau cyhoeddus, y cyfryngau cymdeithasol, y gair yn mynd ar led, a chyfathrebu uniongyrchol. Roedd hynny’n annog cefnogwyr a beirniaid y Cyngor i gymryd rhan.
  • Roedd y mwyafrif llethol o breswylwyr y Rhyl yn cefnogi cynlluniau SG o’r math yma. Lleiafrif bach oedd y rhai a ddadleuai yn erbyn plannu mwy o goed neu sefydlu dolydd blodau gwylltion. Roedd eu cwynion yn ymwneud yn bennaf â mannau penodol lle bu newidiadau.
  • Dywedodd 100% o’r cyfranogwyr fod coed yn gwella gwedd weledol ardal a dywedodd 96% o’r cyfranogwyr fod coed a dolydd blodau gwylltion yn bwysig iddyn nhw.
  • Roedd 82% o’r cyfranogwyr yn meddwl y byddai mwy o goed a mwy o ddolydd blodau gwylltion yn dda i’r gymuned.
  • Roedd manteision iechyd a llesiant yn bwysig i 100% o’r ymatebwyr. Roedd buddion bioamrywiaeth yn bwysig i 96% o’r ymatebwyr Roedd manteision storio carbon yn bwysig i 57% o’r ymatebwyr.
  • Roedd gan 89% ddiddordeb cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â choed neu flodau gwylltion neu eu cynnal fel mannau cyhoeddus diogel a glân.