Dathliadau Diwylliannol yn Ysbrydoli Disgyblion Canolfan Addysg y Bont!
Ar 14 Chwefror, cafodd disgyblion Canolfan Addysg y Bont, Llangefni gymryd rhan mewn diwrnod bywiog o weithgareddau diwylliannol Tsieineaidd, gan gynnwys gweithdai ymarferol a pherfformiadau hyfryd.
Cafodd y diwrnod ei gynnal gan Sefydliad Confucius Prifysgol 亚洲色吧 ac roedd y sesiynau鈥檔 gymysgedd cyffrous o gerddoriaeth, symudiadau, a chrefftau traddodiadol. Uchafbwynt y digwyddiad oedd perfformiad ar yr erhu gan y cerddor dawnus Yushan Gao, ac mae鈥檔 si诺r fod naws hudolus yr offeryn wedi mynd 芒鈥檙 disgyblion i fyd arall. Cawsant hefyd gyfle i roi cynnig ar Tai Chi, a chael y profiad o lonyddwch ac egni鈥檙 grefft ymladd hynafol hon.
Roedd y creadigrwydd yn llifo yn y gweithdai torri papur a gwneud breichledau, wrth i鈥檙 disgyblion greu dyluniadau cywrain ac ategolion lliwgar. Cafodd pawb gadw eu creadigaethau i gofio am yr achlysur ac am yr hyn y maen nhw wedi ei ddysgu am draddodiadau Tsieina.
Roedd y disgyblion yn chwilfrydig iawn gan ofyn cwestiynau ac ymgysylltu'n llawn 芒 phob gweithgaredd. Roedd y digwyddiad yn rhan o ymrwymiad parhaus Sefydliad Confucius i ddod 芒 phrofiadau diwylliannol i ysgolion lleol, gan gyfoethogi dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae鈥檙 gweithdai鈥檔 llwyddo i amlygu鈥檙 llawenydd y gall rhywun ei gael wrth archwilio traddodiadau newydd ac yn amlygu pa mor rymus yw cyfnewid diwylliannol ym myd addysg.