Academyddion Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon Ymysg Gwyddonwyr Mwyaf Dylanwadol y Byd
Mae pum academydd o Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi cael eu cydnabod ymysg 2% uchaf y gwyddonwyr mwyaf dylanwadol yn y byd, yn ôl Diweddariad diweddaraf Elsevier Data Repository ar gyfer yr "Updated Science-Wide Author Databases of Standardised Citation Indicators."
Mae'r tabl cynghrair byd-eang, mawreddog hwn, sy'n gweithredu fel "bwrdd sgorio" i wyddonwyr, yn gwerthuso ymchwilwyr yn seiliedig ar ba mor aml y mae pobl eraill yn dyfynnu eu gwaith, eu rôl mewn ymchwil, a'u cynhyrchedd.
Mae'r tabl yn rhychwantu 22 maes a 174 o is-faesau, ac mae’n cynnwys y 100,000 o wyddonwyr gorau, neu'r rhai yn y 2% uchaf yn ôl sgôr cydnabyddiaeth (c-sgôr). Mae'n cynnwys dau fath o gydnabyddiaeth: effaith gydol gyrfa ac effaith un flwyddyn (ymchwil diweddar).
Mae’r academyddion sy’n cael eu cydnabod o’r Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon wedi’u hanrhydeddu am eu cyfraniadau rhagorol i seicoleg a gwyddor chwaraeon, sy’n cynnwys:
(O'r chwith i'r dde) Yr Athro Paul Downing, yr Athro James Hardy, yr Athro Paul Mullins, yr Athro Robert Rogers a'r Athro Guillaume Thierry.

Yn nodedig, cafodd Yr Athro Downing, Yr Athro Rogers, a’r Athro Thierry eu cydnabod am eu dylanwad dros gwrs eu gyrfaoedd, ac roedd Yr Athro Downing, Dr Mullins, a Dr Hardy yn sefyll allan am eu heffaith ymchwil ddiweddar yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r cyrhaeddiad hwn yn tanlinellu rôl ganolog Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wrth hyrwyddo gwybodaeth wyddonol, ac yn amlygu ei heffaith ymchwil fyd-eang.