Pam mae gan y Brifysgol fuddsoddiadau
Gelwir yr arian y mae'r Brifysgol yn ei fuddsoddi yn waddol. Mae’r gwaddol wedi’i gronni dros oes y Brifysgol ac mae’n cynnwys rhoddion a roddwyd at ddibenion penodol y bwriedir eu buddsoddi yn y tymor hir. Sefydlwyd llawer o'r cronfeydd trwy roddion dros gan mlynedd yn ôl. Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i reoli’r cronfeydd fel bod digon o elw ar y buddsoddiadau i gadw gwerth y gronfa i’r dyfodol ond hefyd i gynhyrchu elw i ariannu diben y rhodd, a all fod ar gyfer ysgoloriaethau ymchwil, gwobrau, darlithyddiaethau, darlithoedd neu weithgareddau ymchwil.Ìý
Nid yw'r arian yn dod o ffioedd myfyrwyr na'n hincwm rheolaidd.
Cyfanswm gwerth y gwaddol ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf (31 Gorffennaf 2023) oedd £8.2 miliwn. Yn yr un modd â phrifysgolion eraill, i sicrhau’r enillion rydym yn defnyddio Rheolwr Buddsoddi i fuddsoddi ein gwaddol mewn portffolio o fuddsoddiadau.Ìý
Sut rydym yn penderfynu ble i fuddsoddi
Nid yw'r Brifysgol yn penderfynu ar gwmnïau stoc unigol neu benodol i fuddsoddi ynddynt. Mae ein Pwyllgor Buddsoddi wedi pennu polisi ar gyfer buddsoddi, sydd i’w weld ar ein gwefan. Mae ein Rheolwr Buddsoddi (UBS) yn defnyddio'r polisi i greu portffolio. Mae buddsoddiadau unigol yn y portffolio yn newid yn rheolaidd.Ìý
Mae'r Pwyllgor Buddsoddi yn cynnwys un o swyddogion sabothol etholedig Undeb y Myfyrwyr fel aelod. Mae aelodau eraill y Pwyllgor yn cynnwys y Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Gynaliadwyedd ac aelodau lleyg o Gyngor y Brifysgol.Ìý
Mae'r Brifysgol yn strwythuredig iawn o ran sut mae'n gwneud penderfyniadau ac yn gweithredu. Mae'r Pwyllgor Buddsoddi yn is-bwyllgor o'r Pwyllgor Cyllid, ac mae hwnnw yn ei dro yn un o bwyllgorau'r Cyngor, sef corff llywodraethu'r Brifysgol. Mae'r Pwyllgor Cyllid a'r Cyngor yn cynnwys llawer o aelodau lleyg annibynnol. Ceir manylion pwyllgorau llywodraethu'r Brifysgol ar ein gwefan.Ìý
Mae'r Pwyllgor Buddsoddi yn adolygu’r polisi yn ffurfiol bob blwyddyn.
Buddsoddiadau yn Shell a BP
Nid yw ein portffolio wedi cynnwys Shell a BP ers 2021. Mae ein polisi yn mynd y tu hwnt i'r dull arferol ar gyfer UBS yn eu portffolio Elusennau. Roedd gennym ni rai adroddiadau anghywir ar ein gwefan a awgrymai ein bod yn buddsoddi gyda Shell a BP. Mae'r dadansoddiad cywir ar gyfer 31 Gorffennaf 2023 bellach ar ein gwefan. Ìý
Sut rydym yn ystyried moeseg cwmnïau wrth lunio’r Polisi Buddsoddi
Mae ein Polisi Buddsoddi yn amlinellu ein hymagwedd:Ìý
Rydym yn deall bod ein gweithgareddau buddsoddi o ddiddordeb i'n myfyrwyr a rhanddeiliaid eraill. Wrth wneud penderfyniadau buddsoddi mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn ymrwymo i wneud hynny'n gyfrifol ac yn gynaliadwy, gan gydnabod ein cyfrifoldebau amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol a llywodraethu.
Mae UBS AG wedi eu penodi yn rheolwyr Portffolio'r Brifysgol ac rydym ni wedi mabwysiadu eu strategaeth fuddsoddi cynaliadwy, gan ystyried yr egwyddor Datblygu Cynaliadwy h.y. bod "rhaid i ni weithredu mewn ffordd sy'n ceisio sicrhau y cyflawnir anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddarparu at eu hanghenion eu hunain".Ìý
Rydym yn disgwyl i'n rheolwr gymhwyso cyfuniad o sgriniau negyddol a chadarnhaol i sicrhau bod cwmnïau a all fod yn niweidiol i gymdeithas neu'r amgylchedd yn cael eu heithrio, a buddsoddi mewn busnesau gyda diwylliant ac ymarferion cyfrifol a llywodraethu da.
Nid yw Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn buddsoddi mewn busnesau dadleuol fel:
• ArfauÌý
• AlcoholÌý
• HapchwaraeÌý
• TybacoÌý
• Adloniant Oedolion
Rydym hefyd yn gwneud datganiad ar Danwydd Ffosil, sef:
Nid oes gennym fuddsoddiadau mewn tanwyddau ffosil echdynnol yn ein portffolio presennol ac adolygir hynny ac adroddir arno’n flynyddol. Nid yw'n fwriad gennym fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil yn y dyfodol ac mae'n annhebygol y byddai cwmni o'r fath yn pasio proses sgrinio cynaliadwy gadarn ein rheolwr. Credwn fod ein dull anneuaidd, meddylgar o fuddsoddi yn briodol, yn gyfrifol ac yn gynaliadwy. Yn y modd hwn, mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cydymffurfio ag egwyddorion y Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd*, gan gyfrannu at Gymru sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Mae UBS yn defnyddio'r polisi hwn yn ganllaw wrth ymdrin â'n buddsoddiadau. Mae ganddynt eu hymagwedd eu hunain at fuddsoddi cynaliadwy drwy ystyried nodweddion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu ochr yn ochr â’r enillion ariannol wrth ddewis asedau i’w cynnwys yn ein portffolio. Er mwyn gwneud yr asesiad amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu mae tîm y dadansoddwyr yn UBS yn sgorio buddsoddiadau posibl mewn chwe chategori:Ìý
1.ÌýÌý ÌýLlygredd a gwastraff
2.ÌýÌý ÌýNewid hinsawdd
3.ÌýÌý ÌýRheoli cyflenwadau dŵr
4.ÌýÌý ÌýPobl, gan gynnwys hyrwyddo amrywiaeth a diogelu hawliau dynol
5.ÌýÌý ÌýCynhyrchion a Gwasanaethau
6.ÌýÌý ÌýLlywodraethu
Mae UBS yn defnyddio eu cronfa ddata o dros 500 o ddangosyddion yn y categorïau i gyfrifo sgôr cynaliadwyedd o 0 i 10. Ceir mwy o fanylion ynghylch sut mae UBS yn cyfrifo eu sgorau cynaliadwyedd ar ein gwefan o dan fancio a buddsoddiad moesegol. Ym mhob categori buddsoddi ym mhortffolio UBS maent yn defnyddio'r sgorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu i asesu pa gwmnïau y dylid eu cynnwys. Diweddarir y sgôr yn rheolaidd.