Cyflwyno adroddiad arwyddocaol yn y Senedd
Ddydd Mercher, 22 Mai, cyflwynodd cyfarwyddwyr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, a darlithwyr Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd Prifysgol 亚洲色吧, Yr Athro Lucy Huskinson, Dr Joshua Andrews a Dr Gareth Evans-Jones, a鈥檜 cymrawd ymchwil, Ms Rachel Healand-Sloan, ganfyddiadau ymchwil bwysig gerbron Gr诺p Ffydd Trawsbleidiol Senedd Cymru.
Ers mis Hydref 2022, mae鈥檙 Ganolfan wedi derbyn llif cyson o adroddiadau ac adborth gan athrawon ysgolion cynradd, uwchradd, ac addysg bellach ledled Cymru, yngl欧n a鈥檙 modd y mae鈥檙 cwricwlwm newydd ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM), sydd wedi cymryd lle 鈥楢ddysg Grefyddol鈥 fel pwnc i ddisgyblion hyd at Gyfnod Allwedol 4, wedi cael ei roi ar waith.
Roedd canfyddiadau鈥檙 ymchwil a gwblhawyd yn taflu goleuni ar nifer o agweddau sy鈥檔 peri pryder gwirioneddol. Cynnwys hyn y ffaith fod cyfran sylweddol o鈥檙 ymatebwyr yn dweud nad oedd eu sefydliadau yn cynnig addysg am grefydd, gwerthoedd a moeseg i ddisgyblion hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 4; dim ond hyd at Gyfnod Allweddol 3 (sy鈥檔 mynd yn groes i fandad cyfreithiol Cymru). Nodwyd diffygion yn yr adnoddau sy鈥檔 bod i gynorthwyo addysgu鈥檙 cwricwlwm newydd; yn enwedig yn y Gymraeg 鈥 gan mai un gwerslyfr Saesneg yn unig sydd ar gael, ac nid oes bwriad cyhoeddi cyfieithiad Cymraeg ohono.
Yn y 43ain cyfarfod Gr诺p Ffydd Trawsbleidiol, a gadeiriwyd gan Darren Millar AS, cyflwynodd yr Athro Lucy Huskinson, Dr Gareth Evans-Jones a Dr Andrews eu hymchwil, drwy nodi cyd-destun y Ganolfan a鈥檌 gwaith, drwy amlinellu rhai o鈥檙 canfyddiadau, a thrwy gyflwyno鈥檜 hargymhellion i鈥檙 llywodraeth ymateb iddynt.
鈥淩oedd cael ein gwahodd i gyflwyno gerbron y gr诺p yn werthfawr iawn鈥, meddai Dr Joshua Andrews, 鈥済an ei fod yn gyfle inni fynegi pryderon y degau ar ddegau o athrawon sydd wedi bod yn cysylltu gyda鈥檙 Ganolfan wrth y sawl a allai eu helpu鈥檔 strwythurol. Mae鈥檙 straeon rydym wedi eu clywed ac yn dal i鈥檞 clywed yn peri loes calon.鈥
Ychwanegodd Dr Gareth Evans-Jones, 鈥淓isiau gofalu bod Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cael y chwarae teg gorau ydy bwriad yr ymchwil rydym yn ei gwneud. Gydag unrhyw newid i鈥檙 cwricwlwm, mae鈥檔 bwysig gofalu am isadeiledd sicr er mwyn i鈥檙 pwnc ffynnu. A chyda hynny, ofalu bod yr addysg a鈥檙 adnoddau鈥檔 gwbl ddwyieithog; fel nad yw addysg drwy gyfrwng y Gymraeg na鈥檙 Saesneg dan unrhyw anfantais.鈥
Mae鈥檙 cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghaerdydd wedi denu sylw鈥檙 BBC, a dydd Sul, 26 Mai, cynhaliwyd cyfweliad gyda John Roberts ar raglen Bwrw Golwg, BBC Radio Cymru, am yr hyn sydd wedi dod i law, ac mae erthygl wedi鈥檌 llunio am ganfyddiadau鈥檙 adroddiad ar wefan BBC Cymru Fyw.
Mae鈥檙 Ganolfan yn parhau i wneud ymchwil bellach i鈥檙 mater hwn ac yn cynnal cyfres o gyfweliadau gydag athrawon ledled Cymru (bydd y cyfweliadau鈥檔 cael eu cadw鈥檔 anhysbys fel y gall cyfranwyr siarad yn agored heb oblygiadau iddynt). Ac mae鈥檙
Ganolfan yn awyddus i glywed gan gynifer ag sy鈥檔 bosibl, felly os y gwyddoch am unrhyw athro sy鈥檔 dysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, neu Addysg Grefyddol, neu鈥檙 Dyniaethau, buasai鈥檙 Ganolfan yn ddiolchgar iawn petaent yn cysylltu drwy e-bost: ncrew@bangor.ac.uk.
Dolenni allanol:
- .
听