
Wrth enwebu Megan, dywed Kate Waddington:Â
"Mae Megan yn ymchwilydd a llysgennad rhagorol i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Mae ei hymchwil yn hynod arloesol ei hagwedd, ac mae ei harchwiliad damcaniaethol sy’n cael ei yrru gan ddata ar fin gwneud cyfraniad sylweddol at ddealltwriaeth o gymdeithas yr Oes Haearn. Mae ei phenodiad mawreddog fel Ymchwilydd Anrhydeddus yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd, yn ddigynsail ar lefel doethuriaeth. Mae Megan wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i weithgareddau allgymorth ac effaith prosiect Ecoamgueddfa LlÅ·n yr Ysgol, gan helpu i gyd-lunio a chyd-arwain gweithdai ysgolion a digwyddiadau cyhoeddus, rhai wedi’u hysgogi gan ei hymchwil ei hun. Fe wnaeth ei gwaith gyda Chymdeithas Archaeoleg y Myfyrwyr greu cysylltiadau newydd â safleoedd treftadaeth lleol a gwella profiad myfyrwyr yn fawr. Mae ei hymrwymiad i ymgysylltu mewn ffyrdd mwy ystyrlon â grwpiau cymunedol ar Ynys Môn wedi meithrin prosiect allgymorth newydd yn yr Ysgol yn y flwyddyn ddiwethaf – gan arwain at ŵyl archaeoleg newydd a ymgysylltodd dros 400 o aelodau’r cyhoedd ym mis Medi 2024."

Ac wrth enwebu Claire, dywed Martina Feilzer a Bethan Loftus:
"Mae Claire yn gwneud ymchwil ar rôl misogyny fel ffactor risg mewn lladdiad domestig a thrais difrifol, ac mae'n gwneud cyfraniad sylweddol at faes ymchwil pwysig mewn perthynas â mater cymdeithasol o bwysigrwydd mawr. Tra bod Trais yn erbyn Menywod a Merched yn flaenoriaeth genedlaethol, mae gwasanaethau heddlu’n ei chael hi’n anodd nodi achosion o gam-drin domestig sy’n cynnwys risg o drais difrifol a marwol. Mae Claire yn profi ei sgiliau fel academydd yn ei harchwiliad manwl o ddata sensitif a ffeiliau achos yn ymwneud â thrais domestig o fewn perthnasoedd agos. Mae ei gwaith maes yn ymgysylltu â goroeswyr trais o’r fath ac mae ei chanfyddiadau eisoes yn cyfrannu at hyfforddi swyddogion heddlu a’r rhai sy’n cefnogi menywod yn y sector gwirfoddol. Mae’n cyflwyno ei gwaith i weithwyr proffesiynol ac academyddion gyda hyder ac eglurder Mae gan ei gwaith y potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fenywod a merched, a’r rhai sydd ar waith i’w cefnogi. Mae Claire yn fam i dair o ferched ac mae ei hymrwymiad i'w hymchwil academaidd yn rhagorol."