Nodyn: Hydref 2023 : Mae iTrent bellach yn fyw felly dylech fod yn cynhyrchu mewnbynnau Treuliau a thaflenni amser trwy ESS (Hunanwasanaeth Gweithwyr) o fewn iTrent. Dylech fod wedi derbyn manylion trwy Fwletin Staff ac e-bost.
Cyfeiriwch at ein tudalen iTrent am ragor o fanylion.
Ìý
Y Gyflogres
Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É Cyfeirnod TWE : 914 / B10153
Am gymorth
Ìý
Bellach mae'r holl gyflogresi yn cael eu rhedeg ar sail fisol. Telir cyflogau ar y diwrnod olaf o bob mis (ar wahn i'r Nadolig).
Dylai adrannau sicrhau bod yr holl wybodaeth am staff sy'n gadael ac yn cychwyn ac unrhyw newidiadau parhaol yn cael ei chyflwyno i Adnoddau Dynol cyn gynted ag y bo modd er mwyn ei throsglwyddo ymlaen i'r adran Cyflogresi.
O Ebrill 2013 ymlaen fydd dyddiad cyflwyno i'r adran cyflogau yn cau ar y 10ed o bob fis ac hefyd y mis yn cynnwys y Pasg.
Fydd hyn yn cynhwys staff cyfung (cyflogedig a thaflen amser) a staff a thalwyd drwy ffurflen binc.
Dyddiadau Cyflwyno'r Gyflogres – Rhybudd Ymlaen Llaw
Oherwydd bod y Brifysgol yn symud i iTrent rhywbryd (wedi'i drefnu ar gyfer mis Medi ar hyn o bryd), mae ein staff cyflogres yn cael eu defnyddio'n helaeth i brofi systemau.
O ganlyniad, bydd angen dod â dyddiadau cau cyflogres ar gyfer cyflwyniadau ymlaen fel a ganlyn:
- 5Mehefin
- 5 Gorffennaf
- 4 Awst
- 5 Medi
A fyddech cystal â throsglwyddo'r wybodaeth hon i'r bobl berthnasol a sicrhau bod eich cyflwyniadau'n cael eu derbyn mewn pryd.
Diolch am eich ystyriaeth gyda hyn.
O fis Mai 2020 ymlaen bydd Cyngor Cyflog misol (slipiau cyflog) a eich P60 blynyddol yn cael eu cynhyrchu a'u dosbarthu'n electronig a'u hanfon trwy e-bost i'ch cyfeiriad e-bost prifysgol. Yn ogystal â moderneiddio ein prosesau, bydd hyn yn gwella ein cynaliadwyedd amgylcheddol. Mae'r trefniant hwn yn cynnwys gweithwyr is-gwmnïau ÑÇÖÞÉ«°É ond nid yw'n cynnwys aelodau o Gynllun Pensiwn Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a fydd yn parhau i dderbyn copïau papur.
Ychwanegir at y gwasaneth e-bost gan borth hunanwasanaeth maes o law. Bydd y porth hunanwasanaeth yn cadw'r holl slipiau cyflog sydd wedi'u cynhyrchu rhag ofn y byddwch chi'n dileu'ch copi ar e-bost. Bydd manylion ar sut i gael mynediad i'r porth yn ymddangos yma maes o law.Dangosir rhai cwestiynau cyffredin isod.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch âÌýcyflogres@bangor.ac.uk
Ìý
Rhai Cwestiynau Cyffredin am y Gyflogres
Bydd gan bob aelod o staff gyfrif. Os ydych chi'n ansicr beth yw'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair, cysylltwch â desg gymorth yÌýGwasanaethau TGÌýneu drwy e-bostÌýhelpdesk@bangor.ac.ukÌýneu 8111.
Peidiwch â phoeni os nad oes gennych fynediad at gyfrifiadur neu ddyfais symudol ar hyn o bryd, bydd eich slipiau cyflog yn aros ar ein systemau a gallwch ddefnyddio un o'r nifer o gyfrifiaduron mynediad agored o amgylch y Brifysgol pan ddychwelwch i'r safle.
Oherwydd sefyllfa barhaus COVID, ni allwn ddod i mewn i'n swyddfeydd i gynhyrchu a dosbarthu copïau papur. Byddwn yn ailedrych ar y broblem hon pan ddychwelwn.