亚洲色吧

Fy ngwlad:

Cyllidebau

Mae'r Brifysgol yn gosod cyllideb ar gyfer pob canolfan gost ar gyfer pob blwyddyn (a hafyd cynllun 5 mlynedd)

Mae'r canllawiau presennol ar gyfer proses y gyllideb yn ceisio esbonio sut rydym yn mynd i'r afael 芒 hyn gyda chydweithrediad pob maes gwasanaeth (canolfan gost).

Cysylltwch 芒 ni gydag unrhyw faterion neu gwestiynau (finance-systems@bangor.ac.uk).

Gwasanaethau i Adrannau (Canolfannau Cost)

Gwasanaethau Academaidd

Bob blwyddyn, cytunir ar gyllidebau ar draws y Brifysgol ar gyfer pob un o'r adrannau academaidd. Dogfen o'r enw 'Profforma Cyllideb' yw'r ddogfen lefel uchaf. Cymherir y gwir incwm a'r gwariant 芒'r cyllidebau hyn a gwneir adroddiadau i'r Grwp Cynllunio, Datblygu a Gweithredu (PDIG) yn rheolaidd.

Darperir cymorth yn y broses o osod cyllidebau, gwneud y trafodion cadw cyfrifon, dosbarthu, paratoi a monitro gwybodaeth gan y Swyddfa Gyllid. Gall y t卯m helpu adrannau i ddeall prosesau dyrannu cyllid, sut mae cyllidebau wedi'u pennu, sut i fonitro gwariant gwirioneddol yn erbyn y gyllideb a sut i gadw'r cyfrifon yn drefnus.

Gwasanaethau Proffesiynol

Bob blwyddyn cytunir ar gyllidebau ar gyfer y Gwasanaethau Proffesiynol (Canolog).