Grym Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff: Meithrin Cryfder, Gwydnwch ac Iechyd
Dysgwch am Wyddoniaeth Iechyd a Pherfformiad Dynol: Cyfres Gweminar Gwyddorau Chwaraeon
Ydych chi鈥檔 meddwl bod Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer yn ymwneud ag ymarfer corff yn unig? 鈦燤eddyliwch eto!听 Dyma weminar cyffrous a fydd yn eich tywys y tu hwnt i鈥檙 gampfa i ddangos ichi sut mae gwyddoniaeth yn pweru perfformiad, gwytnwch, ac iechyd 鈥 ymysg athletwyr el卯t a鈥檙 boblogaeth yn gyffredinol.
- Hyfforddiant Cryfder a Recordiau 听鈥 Dysgwch sut mae Jonathan Edwards wedi defnyddio hyfforddiant cryfder a gefnogir gan wyddoniaeth i sicrhau record byd yn y Naid Driphlyg.
- Cadernid Meddwl 鈥 Dysgwch sut mae Ronnie O'Sullivan wedi brwydro yn erbyn hunan-amheuaeth, straen, a thrafferthion gyda chymhelliant ar ei ffordd i ogoniant snwcer y byd.
- Ymarfer corff fel Meddyginiaeth 鈥 Dysgwch sut mae Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer yn mynd i鈥檙 afael 芒 gordewdra, clefyd y galon, a ffyrdd o fyw eisteddog.
O ffisioleg i seicoleg ac i iechyd a pherfformiad, mae hon yn sesiwn flaengar a fydd yn dangos ichi sut mae Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran deall iechyd a pherfformiad dynol!
Peidiwch 芒 cholli allan 鈥 ymunwch 芒 ni yn y sesiwn ddiddorol hon!
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Mae'r sesiwn weminar yn rhan o听Gyfres Gweminarau Gwyddor Chwaraeon ym Mangor.
Siaradwr
Dr Aamer Sandoo
Mae Dr Aamer Sandoo yn Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gyda ffocws arbennig ar Ffisioleg Gardiofasgwlaidd. Mae'n arbenigwr mewn cynnal asesiadau anfewnwthiol ar gyfer archwilio iechyd fasgwlaidd (gweithrediad endothelaidd a strwythur) mewn gwahanol boblogaethau clinigol ac mae'n cynnal ymchwil i effeithiau ymyriadau ffordd o fyw ar gyfer gwella iechyd fasgwlaidd. Mae wedi ysgrifennu dros 50 o gyhoeddiadau gwyddonol gan gynnwys papurau ymchwil cynradd aml-astudiaeth ac aml-ganolfan.
Mae hefyd wedi cyflwyno mewn dros 24 o Gynadleddau Cenedlaethol a Rhyngwladol. Mae Dr Sandoo yn angerddol am ddysgu gwyddor chwaraeon ac mae ganddo sianel YouTube boblogaidd gyda dros 12k o danysgrifwyr sy'n rhoi mewnwelediadau unigryw i wylwyr am Ffisioleg Ddynol. Cliciwch ar y ddolen hon os gwelwch yn dda: !
听