Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae gradd y Gyfraith (LLB) ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn fwy na llwybr at fynd yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr; mae'n gyfle i archwilio'r materion cyfreithiol cyfoes sy'n siapio ein cymdeithas. Mae’r cwricwlwm modern yn adlewyrchu natur ddeinamig y gyfraith. Bydd yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o egwyddorion hanfodol y gyfraith i'ch paratoi chi at yrfaoedd amrywiol a gwerth chweil yn y proffesiwn cyfreithiol a thu hwnt.
Byddwch yn meithrin sylfaen gref mewn meysydd cyfreithiol craidd a byddwch yn deall sut mae'r gyfraith yn gweithredu o fewn tirwedd gymdeithasol, economaidd a gwleidyddol sy'n datblygu'n gyson. Nid yn unig mae’r cwrs yn bodloni’r gofynion academaidd sy’n ymwneud â chymhwyso fel bargyfreithiwr (cydymffurfio â Bwrdd Safonau’r Bar) mae hefyd yn cyflwyno gwybodaeth hanfodol i ddarpar gyfreithwyr. Mae ein cwricwlwm unigryw hefyd yn amlygu agweddau neilltuol ar gyfraith Cymru sy’n wahanol i gyfraith Lloegr, a bydd yn eich paratoi at rolau mewn sefydliadau sy’n gweithredu ledled awdurdodaethau, boed yng Nghymru, Lloegr a thu hwnt.
Wrth i chi symud ymlaen, cewch yr hyblygrwydd i deilwra'ch gradd yn ôl eich diddordebau a'ch dyheadau ar amrywiaeth dda o fodiwlau arbenigol o dan arweiniad ymchwil gydag arbenigwyr o fri mewn meysydd fel y gyfraith ryngwladol a hawliau dynol, cyfraith y teulu, cyfiawnder cymdeithasol, a technolegau newydd. Cewch hefyd ddewis archwilio pynciau mwy galwedigaethol eu naws a brofwyd yn yr Arholiadau Cymhwyso’r Cyfreithwyr (SQE) - megis Cyfraith Busnes, Ewyllysiau ac Ystadau, ac Ymarfer Eiddo - a fydd yn cynnig porth at hyfforddiant proffesiynol i chi fynd yn gyfreithiwr.
Rydym yn blaenoriaethu eich cyflogadwyedd trwy ymgorffori sgiliau hanfodol, trosglwyddadwy o'r diwrnod cyntaf, gan gynnwys y gallu i ymchwilio, meddwl yn ddadansoddol, gwrando’n weithredol, cyfathrebu’n hyderus, a gallu ffurfio dadleuon cadarn.
Byddwch yn ennill profiad ymarferol mewn cyfleusterau pwrpasol. Mireinio eich sgiliau eiriolaeth trwy ffug dreialon yn ein Llys Ffug a chael effaith wirioneddol trwy waith pro bono yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol, a darparu cymorth cyfreithiol i'r gymuned leol ochr yn ochr â'n cyfreithwyr cymwys. Yn ogystal, cewch gyfle i ennill profiad ymarferol gyda system rheoli achosion tebyg i'r rhai a ddefnyddir mewn cwmnïau cyfreithiol.
Trwy astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É byddwch yn ymuno ag amgylchedd cynhwysol a chefnogol, lle mae ein hymrwymiad i ddosbarthiadau bach yn sicrhau na fyddwch chi byth yn wyneb yn y dorf yn unig. Rydym yn adnabyddus am roddi cefnogaeth ragorol i’r myfyrwyr, ac rydym yn cynnig sylw ac arweiniad personol bob cam o'r daith. Cewch eich mentora’n bwrpasol trwy gydol eich gradd. Bydd gennych yr hyder a'r gefnogaeth i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael a chyflawni eich nodau.
Hefyd, caiff ein rhaglenni tair blynedd LLB y Gyfraith ac LLB y Gyfraith ac Ieithoedd Modern eu cydnabod gan Gyngor Bar India*. Mae modd gwneud cais am gydnabyddiaeth debyg hefyd gan gyrff proffesiynol mewn awdurdodaethau eraill, fel Canada a Nigeria.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Mae yma amgylchedd dysgu bywiog o dan arweiniad ymchwil a chymuned glos, a fyddwch chi byth ar eich pen eich hun. Rydym yn gallu cynnig arweiniad pwrpasol gan ysgolheigion ac ymarferwyr o fri rhyngwladol, sydd wrth law i’ch helpu.
- Cewch gymryd rhan mewn treialon ffug mewn Ffug Lys ac ennill profiad ymarferol pro bono gyda chyfreithwyr cymwys mewn Clinig Cyngor Cyfreithiol. Ymhlith y cyfleusterau pwrpasol sydd gennym mae mannau cydweithio deinamig a llyfrgell gyfraith bwrpasol, sy’n gefndir perffaith i’ch astudiaethau. Rydym yn integreiddio sgiliau hanfodol o'r cychwyn cyntaf, gan sicrhau eich bod yn barod at yrfa yn y dyfodol.Ìý
- Cewch fanteisio ar gyfleoedd gwych ar interniaethau ac ar leoliadau mewn sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol trwy’r cysylltiadau cryf sydd gennym gyda chyflogwyr a chynllun unigryw CYMUNED. Cewch ennill brofiad gwych a rhoi hwb i'ch cyflogadwyedd gyda chefnogaeth bersonol, cyfleoedd rhwydweithio fel y ffair yrfaoedd flynyddol, a digwyddiadau allgyrsiol a gynhelir gan Gymdeithas y Gyfraith Myfyrwyr.Ìý
- Cewch ennill arbenigedd mewn pynciau cyfreithiol craidd sy'n bodloni gofynion Bwrdd Safonau'r Bar i fargyfreithwyr ac sy'n darparu gwybodaeth hanfodol i gyfreithwyr. Cewch deilwra'r radd yn ôl eich diddordebau a'ch dyheadau gyda modiwlau arbenigol ac opsiynau cydanrhydedd a manteisio ar gyfleoedd i dreulio blwyddyn mewn diwydiant neu yn un o’n prifysgolion partner dramor.Ìý
- Dyma’r lle delfrydol ar gyfer astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda grwpiau tiwtorial Cymraeg a modiwlau unigryw sy’n dyfnhau eich dealltwriaeth o’r gyfraith mewn cyd-destun dwyieithog. Byddwn yn eich helpu chi wneud yn fawr o'ch sgiliau iaith, a rhoi hwb i'ch cystadleurwydd yn y farchnad swyddi a magu hyder mewn amgylchedd dwyieithog.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Ar y radd israddedig hon yn y Gyfraith byddwch yn dysgu am hanfodion y gyfraith a sgiliau cyfreithiol sylfaenol i ymarfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop, a'r gymuned ryngwladol ehangach.
Gan ddibynnu ar eich diddordebau, cewch ddysgu am gyfraith y teulu neu gyfraith feddygol, archwilio’r gyfraith ryngwladol a hawliau dynol, ystyried heriau byd-eang fel cadwraeth yr amgylchedd, neu ystyried rhyddid y wasg, preifatrwydd a difenwi. ÌýCewch ddewis o blith amrywiol bynciau mwy galwedigaethol eu naws a gaiff eu profi yn Arholiadau Cymhwyso’r Cyfreithwyr (SQE) - megis Cyfraith Busnes, Ewyllysiau ac Ystadau, ac Ymarfer Eiddo - a fydd yn cynnig porth i chi at hyfforddiant proffesiynol i chi fynd yn gyfreithiwr.
Byddwch yn bwrw golwg ar esblygiad y systemau cyfiawnder. Byddwch yn dod i ddeall egwyddorion a gwerthoedd y gyfraith a chyfiawnder, a sut y gall y gyfraith fod o fudd i unigolion a chymdeithasau, gan gynnwys y rhai mwyaf ymylol yn ein cymuned. Byddwn yn trafod pynciau fel sicrhau bod dioddefwyr troseddau’n cael cyfiawnder a bod troseddwyr yn derbyn y gosb berthnasol am ddrwgweithredu, datrys gwrthdaro ynghylch hawliau a rhwymedigaethau contractol, a diogelu hawliau dynol.
Cewch eich cefnogi i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i ofyn ac ateb cwestiynau effeithiol am y gyfraith ac i gyfleu dadleuon rhesymegol mewn modd effeithiol, ar lafar neu'n ysgrifenedig. Mae rhai asesiadau’n seiliedig ar ymarfer ac mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau eiriolaeth ac ymchwil cyfreithiol, ymateb i gyfarwyddyd cyfreithiol, neu ysgrifennu drafftiau a chyflwyniadau cyfreithiol.
Mae'r flwyddyn ar leoliad a'r modiwl lleoliad gwaith dewisol yn rhoi cyfle i chi gael profiad gwaith mewn sefyllfa o fywyd go iawn. Mae cyn-fyfyrwyr yr ysgol, er enghraifft, yn gweithio gyda chwmnïau cyfreithiol preifat, siambrau bargyfreithwyr, gwasanaethau gweinyddu’r llysoedd, llysoedd crwneriaid, llysoedd ynadon, cyrff anllywodraethol, ac elusennau. Mae hynny’n cynnwys Cyngor ar Bopeth a sefydliadau sy’n canolbwyntio ar ddiogelu hawliau dynol rhyngwladol.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym Mlwyddyn 1, bydd myfyrwyr yn cymryd 100 credyd o’r pynciau canlynol,ÌýCyfraith Contractau, Cyfraith Droseddol, Sgiliau Cyfreithiol,ÌýCyfraith, Cyfiawnder a GweithdrefnÌýaÌýCyfraith Gyhoeddus.ÌýGall myfyrwyr ddewis modiwlau dewisol o ysgolion eraill, yn amodol ar gymeradwyaeth gan yr ysgol y caiff y modiwl ei addysgu ynddi a chyfyngiadau'r amserlen sy'n caniatáu hynny. Er enghraifft yn y gorffennol mae myfyrywyr wedi dewis astudioÌýEidaleg, Almaeneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Y Gyfraith yn Gymraeg, Defnyddio'r Gymraeg, Economeg a Cymdeithaseg a'r Byd Cyfoes.
Ym Mlwyddyn 2, bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o’r pynciau canlynol,ÌýEcwiti ac Ymddiriedolaethau, Cyfraith Tir, y Gyfraith,ÌýSgiliau Proffesiynol YmarferolÌýaÌýChyfraith Camwedd.ÌýMae modiwlau opsiynol hefyd ar gael mewn pynciau megis,ÌýClinig Cyfreithiol,ÌýTystiolaeth Droseddol, Cyfraith Cymru, Cyfraith Datganoli, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu a Lles, Cyfraith Eiddo Deallusol, Cyfraith Ryngwladol a Materion Cyfoes, Cyfraith Ryngwladol y Môr, y Gyfraith a Thechnoleg, Materion Cyfoes mewn Cyfraith Trosedd, Cyfraith y Cyfryngau, Cyfraith Fasnachol a Lleoliad gwaith.
Ym Mlwyddyn 3, bydd myfyrwyr yn cymryd credyd o’r pynciau canlynol, Cyfraith y DU, yr Undeb Ewropeaidd a Brexit. Bydd myfyrwyr hefyd yn cymryd 100 credyd o'r pynciau megis, Clinig Cyfreithiol,ÌýCyfraith Datganoli, Cyfraith Cymru, y Gyfraith ac Ymarfer Busnes, Cyfraith Fasnachol, Traethawd Hir, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu a Lles, Cyfraith Eiddo Deallusol, Cyfraith Ryngwladol a Materion Cyfoes, Cyfraith Ryngwladol y Môr, y Gyfraith a Thechnoleg, y Gyfraith, Cyfiawnder a Hawliau, Sgiliau Proffesiynol Ymarferol, Ddiwylliannol, Ymarfer Eiddo, Ewyllysiau ac YstadauÌýaÌýLleoliad Gwaith.Ìý
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.Ìý
Mae gennym ddewis eang o fodiwlau a dulliau i chi allu astudio yn y Gymraeg, ond efallai nid fydd pob un o'r pynciau uchod ar gael drwy Gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Y Gyfraith
- Mae gennym lyfrgell y Gyfraith wedi'i lleoli yn hyfrydwch Ystafell Ddarllen Lloyd ym mhrif lyfrgell y Celfyddydau, y buddsoddwyd ynddi’n sylweddol gan y Brifysgol a chymwynaswyr eraill.
- Mae Llyfrgell y Gyfraith yn darparu ffynonellau print ac electronig i ddiwallu anghenion ei defnyddwyr, a chaiff ei datblygu’n gyson i adlewyrchu’r gweithgareddau addysgu ac ymchwil diweddaraf ym maes y Gyfraith. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys dogfennau cyfeiriol, statudau, adroddiadau’r gyfraith, cyfnodolion, gwerslyfrau, pamffledi, adroddiadau’r llywodraeth, papurau newydd a chronfeydd data cyfreithiol ar-lein.
- Ar gyfer y rhai sy’n dymuno gwneud ymchwil fanylach ar lefel Meistr neu PhD, mae Archifau’r Brifysgol yn cynnwys cyfoeth o ddeunydd hanesyddol a nifer o ffynonellau gwreiddiol.
- Ystafell ffug lys bwrpasol sy'n galluogi myfyrwyr i ennill profiad ymarferol. Mae Ystafell y Ffug Lys yn caniatáu i'n myfyrwyr ymarfer cyflwyno achosion mewn lleoliad priodol, cymryd rhan mewn treialon, cynrychioli’r partïon a dysgu sut i ymddwyn mewn llys barn.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Nodwch: Os ydynt yn gobeithio ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr ar ôl graddio, dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol y bydd rhaid iddynt gyflawni gofynion y Solicitors Regulation Authority neu’r Bar Standards Board i fod yn gymwys. Byddai hyn yn cynnwys cyflawni gofynion sy’n berthnasol i droseddau ac ymddygiad troseddol. Cynghorir myfyrwyr gyda chollfarn droseddol i gysylltu â’r corff proffesiynol perthnasol am gyngor.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120 - 144Ìý pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A:Ìý Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DDM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DDM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol:ÌýderbynnirÌý
- Access:ÌýPasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru:ÌýByddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
Nodwch: Os ydynt yn gobeithio ymarfer fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr ar ôl graddio, dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol y bydd rhaid iddynt gyflawni gofynion y Solicitors Regulation Authority neu’r Bar Standards Board i fod yn gymwys. Byddai hyn yn cynnwys cyflawni gofynion sy’n berthnasol i droseddau ac ymddygiad troseddol. Cynghorir myfyrwyr gyda chollfarn droseddol i gysylltu â’r corff proffesiynol perthnasol am gyngor.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Rydym yn blaenoriaethu eich cyflogadwyedd trwy ymgorffori sgiliau hanfodol ym mhob modiwl. Byddwn yn sicrhau eich bod yn graddio gyda set o sgiliau cynhwysfawr sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Byddwch yn derbyn cyngor arbenigol, cefnogaeth a mentora personol i'ch helpu chi wneud penderfyniadau gwybodus am eich dyfodol.
Mae ein cyfleusterau pwrpasol, gan gynnwys Ffug Lys a Chlinig Cyngor Cyfreithiol, yn cynnig profiadau ymarferol amhrisiadwy. Yn y Ffug Llys, byddwch yn mireinio eich sgiliau eiriolaeth a chyflwyno trwy ffug dreialon, a bydd y Clinig yn eich galluogi i weithio gyda chyfreithwyr cymwys, a darparu cefnogaeth gyfreithiol wirioneddol i gleientiaid. Byddwch yn cymryd rhan mewn cystadlaethau, megis trafod a chyfweld, i wella eich sgiliau trosglwyddadwy, a’ch paratoi chi at lwybrau gyrfaol amrywiol.
Mae gennym gysylltiadau cryf â sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac rydym yn cynnig cyfleoedd i fynd ar leoliadau i wella eich cyflogadwyedd. Mae rhaglen unigryw CYMUNED yn cynnig mynediad at swyddi, interniaethau, a chyfleoedd eraill i wella CV, a llawer o’r rheini ar gael i fyfyrwyr ÑÇÖÞÉ«°É yn unig, gan roi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi. Rydym yn deall pwysigrwydd rhwydweithio wrth lunio eich gyrfa at y dyfodol. Dyna pam rydym yn cynnig cyfleoedd rheolaidd i gysylltu â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant trwy sesiynau gyda siaradwyr gwadd adnabyddus. Mae Cymdeithas Myfyrwyr y Gyfraith hefyd yn cynnal digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, a’r rheini wedi'u cynllunio i'ch helpu chi feithrin cysylltiadau gwerthfawr a hogi eich sgiliau ymarferol.
Bydd astudio’r Gyfraith ym Mangor yn eich paratoi at amrywiaeth eang o yrfaoedd yn y proffesiwn cyfreithiol. Bydd hefyd yn eich paratoi chi at swyddi hyfedr a mewn meysydd fel y byd academaidd, busnes, cyllid, addysg, newyddiaduraeth, gwleidyddiaeth, ymgyrchoedd, polisi cyhoeddus, a’r gwasanaethau cymdeithasol. Mae ein graddau’n cyflawni gofynion Bwrdd Safonau'r Bar Ìýi fargyfreithwyr ac yn darparu gwybodaeth hanfodol sy’n ymwneud â chymhwyso fel cyfreithwyr, ac maent hefyd yn agor drysau i nifer o lwybrau gyrfaol eraill.
Mae rhai o’r graddedigion yn gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, UNESCO, cyfreithwyr lleol a chenedlaethol ac amrywiol siambrau i enwi dim ond rhai.
Gallai’r swyddi nodweddiadol gynnwys:
- Gweithiwr sifil
- Cyflafareddwr
- Bargyfreithiwr
- Gweithredwr cyfreithiol siartredig (Cymru a Lloegr)
- Trawsgludwr
- Gwas sifil
- Adnoddau dynol
- Barnwr
- Newyddiadurwr
- Cyfreithiwr
- Cyfryngwr
- Swyddog prawf
- Dadansoddwr risg gwleidyddol
- Ymchwilydd
- Cyfreithiwr
- Athro
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.