Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ar ddiwydiant, llywodraeth a chymdeithas angen gwyddonwyr amgylcheddol yn fwy nag erioed. Mae'r radd hon yn dwyn gwybodaeth ynghyd o ystod eang o bynciau i archwilio’r materion amgylcheddol pwysicaf, megis newid hinsawdd, llygredd, ynni adnewyddadwy a diogelu'r cyflenwad bwyd. Mae'r radd yn cynnwys bioleg (sy'n rhoi dealltwriaeth i chi o organebau, eu hamgylcheddau a'u cymunedau), cemeg (sy'n rhoi dealltwriaeth i chi o nifer o brosesau amgylcheddol naturiol a llygredd), gwyddorau daear (sy'n rhoi cefndir i chi mewn prosesau byd-eang) a rheoli adnoddau tir a dŵr. Mae'r cyfuniad yma o feysydd pwnc, ynghyd â nifer fawr o sesiynau ymarferol a theithiau maes, yn creu gradd sy'n hynod o ddiddorol ac yn werth chweil.
Os dewiswch ddilyn y radd MEnvSci 4 blynedd hon, mae Blynyddoedd 1 a 2 yr un fath â'r radd BSc; ond ni fyddwch yn ymgymryd â phroject anrhydedd ym Mlwyddyn 3, byddwch yn hytrach yn dewis mwy o fodiwlau dewisol. Byddwch yn cwblhau project ymchwil annibynnol ar lefel Meistr ar bwnc o'ch dewis. Byddwch ar leoliad gwaith am o leiaf 4 wythnos mewn lleoliad o'ch dewis. Byddwch hefyd yn ymgymryd â modiwlau sy'n canolbwyntio ar bwysigrwydd cynaliadwyedd amgylcheddol ar gyfer busnes modern a rheolaeth amgylcheddol strategol, a fydd yn eich arfogi â sgiliau a gydnabyddir yn broffesiynol.
Ni fu erioed amser gwell i astudio ein gradd Gwyddorau’r Amgylchedd. Mae'r byd yn wynebu materion amgylcheddol hynod bwysig, a bydd yr angen i ddatrys y rhainÌýyn dod â chyfleoedd sylweddol, yn ogystal â heriau.ÌýÌýBydd cwblhau'r radd hon yn rhoi cymhwyster Meistr lefel uchel i chi yn y pwnc hwn, a fydd yn eich rhoi mewn grŵp dethol iawnÌýo bobl.ÌýÌýÌý
Mae Gwyddorau’r Amgylchedd yn dod â nifer o ddisgyblaethau ynghyd i edrych ar y materion amgylcheddol hyn mewn ffordd gynhwysfawr, ac yn archwilio sut y gellir dod â thechnoleg, ymchwil, newid ymddygiad, rheoliadau a dull gwyddonol cadarn ynghyd i gael hyd i atebion.ÌýÌýÌý
Mae'r radd hon yn cynnwys bioleg (gan roi dealltwriaeth i chi o organebau, eu hamgylcheddau, a'u cymunedau), cemeg (gan ddarparu dealltwriaeth o lawer o brosesau amgylcheddol naturiol a llygredd), gwyddor daear (gan roi cefndir i chi mewn prosesau byd-eang), aÌý rheoli adnoddau tir a dŵr.  Mae cyfuno'r meysydd pwnc hyn, ynghyd â llawer o sesiynau ymarferol a theithiau maes, yn creu gradd sy'n hynod ddiddorol ac yn werth chweil.Ìý
Mae ÑÇÖÞÉ«°É yn un o'r prifysgolion sydd yn y lleoliad gorau i chi astudio Gwyddorau’r Amgylchedd. Mae gennym fynediad i amrywiaeth eang o amgylcheddau naturiol yn amrywio o'rÌýarfordir i dirwedd amrywiol Parc Cenedlaethol Eryri gyda’i hanes hir o ddefnyddio’r tir atÌýwahanol ddibenion, gan gynnwys mwyngloddio a chwarela. Mae teithiau maes yn ganolog trwy gydol y radd hon. Yn ogystal â theithiau lleol, mae gennym deithiau preswylÌýymhellach i ffwrdd.ÌýÌý
Mae gennym gysylltiadau agos â sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy'n cyflogi gwyddonwyr amgylcheddol ac yn sicrhau bod ein gradd yn berthnasol acÌýyn gyfredol.Ìý
Caiff y radd hon ei hachredu ganÌýÌý.Ìý Bydd hyn yn gwella’chÌý cyflogadwyedd a byddwch yn derbyn nifer o fuddion, megis cylchlythyr misol a chylchgrawn gyda chyfleoedd i gyhoeddi erthyglau mewn rhifynnau cyfredol, newyddion am swyddi, a mynediad am ddim neu am bris gostyngedig i ddigwyddiadau perthnasol. Dyma hefyd y cam cyntafÌýar lwybr i yrfa amgylcheddol a allai fynd â chi i Statws Siartredig.ÌýÌý
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Mae'r cyflwynydd teledu Steve Backshall bellach yn rhan o'n tîm addysgu.
- Mae llawer o'n staff wedi derbyn gwobrau i gydnabod eu cyfraniadau at addysgu a chefnogaeth fugeiliol Ìý
- Mae'r radd hon yn tynnu ar ein cryfderau mewn gwyddorau biolegol, gwyddorau'r eigion a chemeg.Ìý
- Mae ein lleoliad yn golygu bod ÑÇÖÞÉ«°É yn lle delfrydol i astudio gwyddorau'r amgylchedd gan fod gennym labordy naturiol ar garreg ein drws. O'r arfordir i dirwedd amrywiol Parc Cenedlaethol Eryri â'i hanes hir o ddulliau lluosog o ddefnyddio’r tir, mwyngloddio a chwarela.
- Mae teithiau maes yn elfen allweddol o'r radd hon.
- Mae nifer o staff wedi derbyn cydnabyddiaeth trwy amrywiol wobrau am eu brwdfrydedd a'u harbenigedd mewn addysgu.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae ein hamrywiaeth eang o ddulliau addysgu yn cynnwys darlithoedd, sesiynau ymarferol, gwaith maes, seminarau a thiwtorialau. Rhyngddynt, maent yn rhoi'r sgiliau damcaniaethol ac ymarferol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt mewn Gwyddonwyr Amgylcheddol graddedig. Byddwch yn gorffen y radd gyda dealltwriaeth ddofn o'r maes pwnc, ac yn gallu dod â gwybodaeth berthnasol ynghyd o amrywiaeth o wahanol ddisgyblaethau i fynd i'r afael â materion amgylcheddol ac archwilio enillion amgylcheddol. Rydym yn integreiddio'r canfyddiadau diweddaraf o'n hymchwil ein hunain ac ymchwil eraill i'r cwrs, yn ogystal â'r diweddaraf o bolisi a deddfwriaeth; gan sicrhau bod eich cwrs bob amser yn ffres ac yn gyfredol. Trwy gydol y radd, mae'r awyrgylch hamddenol ac anffurfiol hefyd yn annog trafodaeth fywiog ar faterion amgylcheddol cyfredol fel y byddwch chi a'ch cyfoedion yn cymryd rhan lawn yn y dysgu.ÌýÌý
Byddwch yn astudio 120 credyd ym mhob blwyddyn, trwy amrywiaeth o fodiwlau. Mae rhai modiwlau’n orfodol, mae rhai eraill yn ddewisol, gan eich galluogi i ymestyn eich astudiaethau i feysydd newydd neu ddatblygu arbenigeddau sydd o ddiddordeb arbennig i chi.ÌýÌý
Caiff cyrsiau eu hasesu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ac ar gyfartaledd mae'r rhaniad yn 60% gwaith cwrs a 40% arholiad. Yn y flwyddyn olaf, gwneir yr asesu bron yn gyfan gwbl trwy waith cwrs. Rydym yn datblygu eich sgiliau mewn meysydd hanfodol fel cyflwyniadau, ysgrifennu adroddiadau a chyfweliadau; gan helpu i'ch paratoi ar gyfer cyflogaeth. Rydym yn gwahodd siaradwyrÌýgwadd yn rheolaidd i roi darlithoedd, a byddwch hefyd yn cwrdd â darpar gyflogwyr yn ystod teithiau maes.ÌýÌý
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Blwyddyn 1 a 2Ìý
Yn ystod yr amser hwn, byddwch yn dod i ddeall sylfeini Gwyddorau’r Amgylchedd a dyfnhau eich dealltwriaeth o'r pwnc. Bydd amrywiaeth o fodiwlau diddorol a chyffrous yn dod â'r pwnc gwych hwn yn fyw i chi! Byddwch yn gweld ac yn clywedÌýo lygad y ffynnon am brojectau ymchwilÌýgyda’r gorau yn y byd sy'n cael eu cynnal yn ein hysgol wrth i ni integreiddio ymchwil i'n haddysgu.ÌýÌý
Blwyddyn 3Ìý
Yn ogystal â'r modiwlau gorfodol, mae yna amrywiaeth eang iawn o fodiwlau dewisol i chi eu dewis, gan sicrhau bod y radd yn bersonol i chi. Bydd y rhain yn gwella'ch set sgiliau a'ch gwybodaeth felÌýGwyddonydd Amgylcheddol uchelgeisiol.ÌýÌý
Mae'r opsiynau'n cynnwys cwrs maes iÌýTenerife, lle rydym yn astudio'r nifer o wahanol bwysau amgylcheddol sy'n wynebu'r ynys, a sut y gellirÌýeu lliniaru.Ìý
Blwyddyn 4ÌýÌý
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau project ymchwilÌýannibynnol ar lefel Meistr ar bwnc o'ch dewis, gan roi'r cyfle i chi ddangos eich potensial wrth gyflawn darn o waith o safon, i lefel uchel. Byddwch ar leoliad gwaith perthnasol am o leiaf 4 wythnos mewn lleoliad o'ch dewis, unrhyw le yn y byd. Byddwch hefyd yn gwneud modiwlau sy'n canolbwyntio ar bwysigrwydd cynaliadwyedd amgylcheddol ar gyfer busnes modern a Rheolaeth Amgylcheddol Strategol, fel eich bod yn meithrin sgiliau a gydnabyddir yn broffesiynol.Ìý
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gwyddorau'r Amgylchedd MEnvSci.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Bydd gennychÌýfynediad i gyfleusterau gwych i gefnogi'ch dysgu:Ìý
-
Ein fferm brifysgol ein hunain, Canolfan Ymchwil Henfaes, lle rydym yn cynnal teithiau maes, a gallwch gynnal eich arbrawf ar raddfa fawr eich hun ar gyfer eich project.Ìý
-
Labordai pwrpasol wedi'u hadnewyddu ar gyfer addysgu ac ymchwilÌý
-
Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddol, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordyÌý
-
Ein casgliad daeareg ein hunain - sydd gyda’r gorau yn y wladÌýÌý
-
Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.
-
Un o'n cyfleusterau gorau yw'r amgylchedd sydd ar garreg ein drws - cewch gyfle i ymweld â chymaint o wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a'ch dealltwriaeth o bynciauÌýÌýÌý
Cyfleusterau Gwyddorau Naturiol
- Amgueddfa Hanes Naturiol gyda chasgliad eithriadol o gynhwysfawr o ddeunydd fertebratau, sy'n cynnwys casgliad amrywiol o sbesimenau o fertebratau ac infertebratau, yn cynnwys primatiaid.
- Acwaria morol a dŵr croyw helaeth gyda chyfres o ystafelloedd sydd â’u tymheredd wedi ei reoli.Ìý
- Colomendy i wneud ymchwil ar wybyddiaeth, ffisioleg a biomecaneg adar. Ìý
- Gardd Fotaneg Treborth, sy'n 18 hectar o faint ar lannau’r Fenai. Mae'n cynnwys labordy gwreiddiau tanddaearol mwyaf Ewrop (y rhizotron), labordy dysgu, gwelyau gardd ffurfiol, gardd gerrig, gardd goed a chasgliad cadwraeth.Ìý
- Cyfleusterau cnofilod ac ymlusgiaid.Ìý
- Mae fferm y brifysgol sydd wedi ei lleoli yn Henfaes, tua 7 milltir o Fangor ac yn cynnwys cyfanswm o 252 hectar. Mae'n darparu cyfleusterau ymchwil ac addysgu ym maes amaethyddiaeth iseldir, coedwigaeth, hydroleg, gwyddor yr amgylchedd a chadwraeth. Rydym yn cynnal teithiau maes a gallwch gynnal eich arbrawf ar raddfa fawr eich hun ar gyfer eich project.Ìý
- Alpaca, defaid a chychod gwenyn ar fferm y brifysgol yn Henfaes.Ìý
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai, sy’n golygu bod gennym amrywiaeth o wahanol gynefinoedd ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.Ìý
- Cyfleusterau ymlusgiaid pwrpasol, yn cynnwys ystafelloedd nadroedd gwenwynig. Ìý
- Ystafelloedd a reolir yn amgylcheddol ar gyfer gwaith project.Ìý
- Ystafelloedd trychfilod.Ìý
- °ä´Ç±ð³Ù¾±°ù´Ç±ð»å»å.Ìý
- Labordai addysgu ac ymchwil modern mawr, a chanolfan bwrpasol i fyfyrwyr weithio ar eu traethawd hir.Ìý
- Cyfleusterau delweddu.Ìý
- Amrywiaeth fawr iawn o offer dadansoddol, fel y gallwch ddysgu sut i ddadansoddi samplau amgylcheddol yn y maes ac yn y labordy.Ìý
- Ein casgliad daeareg ein hunain - sydd gyda’r gorau yn y wlad.ÌýÌý
- Labordai cyfrifiadurol i ddatblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol fel mapio digidol a modelu amgylcheddol.Ìý
- Llyfrgell goed.
- Labordai ymchwil amgylcheddol pwrpasol.
- Un o'n cyfleusterau gorau yw'r amgylchedd sydd ar garreg ein drws - cewch gyfle i ymweld â llawer wahanol leoedd ar ein teithiau maes, a fydd yn cadarnhau eich dysgu a'ch dealltwriaeth o bynciau.Ìý Ìý
- Defnyddir ein labordai biolegol, cemegol ac amgylcheddol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau addysgu a dysgu. Mae gennym labordai ymchwil penodol wedi eu lleoli yng Nghanolfan yr Amgylchedd Cymru, sy'n cynnwys labordy isotopau radio a sefydlog, labordy pathogenau categori 2, ystafell ficrosgop dywyll, labordai paratoi samplau a labordy gydag offer dadansoddol pwrpasol.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120 - 136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: GanÌýgynnwys gradd C mewn pwnc gwyddonol ar lefel A2 (e.e. Bioleg,ÌýDaearyddiaeth, Daeareg, Gwyddorau/Astudiaethau'r Amgylchedd,ÌýCemeg, Ffiseg,ÌýMathemateg, Economeg, Ystadegau, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.Ìý
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H6 mewn pwnc gwyddonol)
- Mynediad: Cwrs Mynediad Gwyddonol/Amgylcheddol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DDM-DDD mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, GwyddoniaethÌýGymhwysol, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, neu Reolaeth Anifeiliaid)
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080): DDM-DDD mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, Rheolaeth Tir a Bywyd Gwyllt)
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Sgiliau Labordy**: DDM-DDD
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120 - 136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: GanÌýgynnwys gradd C mewn pwnc gwyddonol ar lefel A2 (e.e. Bioleg,ÌýDaearyddiaeth, Daeareg, Gwyddorau/Astudiaethau'r Amgylchedd,ÌýCemeg, Ffiseg,ÌýMathemateg, Economeg, Ystadegau, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.Ìý
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H6 mewn pwnc gwyddonol)
- Mynediad: Cwrs Mynediad Gwyddonol/Amgylcheddol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DDM-DDD mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, GwyddoniaethÌýGymhwysol, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, neu Reolaeth Anifeiliaid)
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080): DDM-DDD mewn pwnc perthnasol (e.e. Rheolaeth Cefn Gwlad, Coedwigaeth a Choedyddiaeth, Rheolaeth Tir a Bywyd Gwyllt)
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol neu Sgiliau Labordy**: DDM-DDD
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- Project Estynedig:ÌýGall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).ÌýmanylionÌý
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch iÌý.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Bydd dilyn y radd hon yn rhoi’r hyn y mae cyflogwyr yn chwilio amdano: rhagoriaeth mewn amrywiaeth oÌýsgiliau pwnc-benodol a generig, a phrofiad. Ychydig o fyfyrwyr sy'n graddio gyda'r ddau bwnc, sy'n golygu y bydd cyfleoedd sylweddol o ran gyrfa. Bydd eich cymhwyster lefel uwch yn eich gwneud yn ddeniadol i gyflogwyr, amrywiaeth eang o asiantaethau cynghori,Ìýrheoleiddwyr,Ìýymgynghoriaethau, llywodraeth leol a chenedlaethol, ac ym maes ymchwil a datblygu, yn lleol a thramor. O ran diwydiannau, mae'r 'economi werdd' yn tyfu'n gyflym, a bydd cyfleoedd mewn sectorau fel ynni adnewyddadwy, rheoli gwastraff, niwclear, adeiladu, amaethyddiaeth a thrafnidiaeth. Mae’r cwrs hefyd yn rhoi sylfaen dda ar gyfer dysgu a gweithio yn y cyfryngauÌý Gall eich cymhwyster lefel uwch arwain at ystyried astudiaethau ôl-radd, e.e. cwrsÌýMScÌýproffesiynol, neu ymchwil yn arwain at PhD.Ìý Ni fu erioed gymaint o gyfleoedd gwaith ym maes Gwyddorau’r Amgylchedd - bydd ennill y radd hon yn eich rhoi mewn sefyllfa dda i gael un o’r swyddi hyn.ÌýÌý
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais amÌýGwyddor yr Amgylchedd (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý