Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ar y BSc hwn mewn Gwyddor Môr a Chadwraeth, byddwch yn archwilio sut mae siâp gwely’r cefnfor yn rhoi cliwiau ynglŷn â sut y cawsant eu ffurfio a pha ran y maent yn ei chwarae mewn prosesau ffisegol a biolegol heddiw; byddwch yn dod i ddeall y grymoedd sy'n gyrru ceryntau'r cefnforoedd o amgylch ein planed; byddwch yn darganfod sut mae ecosystemau biolegol cymhleth wedi esblygu a sut rydym wedi manteisio ar amgylchedd y môr yn fwy diweddar. Ar y cwrs hwn, byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth ddofn o egwyddorion cadwraeth a sut mae'r rheini'n cael eu defnyddio mewn lleoliadau byd go iawn. Byddwch yn dod i gysylltiad â’r ystod eang o faterion amgylcheddol a pholisi sy’n codi ym maes cadwraeth môr a bydd gennych opsiynau i astudio’r fframwaith cyfreithiol cyffredinol y byddech yn gweithredu o’i fewn fel gweithiwr cadwraeth môr proffesiynol.
Nid yw'r angen i warchod amgylchedd ein môr erioed o'r blaen wedi bod yn fwy amlwg ac nid yw erioed o'r blaen wedi bod mor ddifrifol. Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r ehangder a dyfnder y ddealltwriaeth sydd ei angen arnoch i wneud gwahaniaeth. Byddwch yn graddio gyda dealltwriaeth integredig o amgylcheddau morol, materion cadwraeth, polisïau morol ac arfer gwyddonol a byddwch wedi'ch hyfforddi'n berffaith i weithio i sefydliadau cadwraeth, cyrff llywodraeth, cwmnïau ymgynghori amgylcheddol a chyrff anllywodraethol ar lefel leol, genedlaethol neu ryngwladol.
Pam dewis Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar gyfer y cwrs?
- Mae cynnwys y pwnc yn hynod berthnasol i anghenion heddiw o ran cadwraeth forol effeithiol yng nghyd-destun y diwydiant datblygu ac ecsbloetio alltraeth.
- Mae'r cwrs yn darparu llwyfan gwyddor forol cryf i seilio ymyriadau cadwraeth arno.
- Mae tiwtoriaid personol wrth law i'ch helpu i ddiffinio eich llwybr eich hun drwy'r rhaglen o ran meysydd arbenigol.
- Byddwch yn cael hyfforddiant o ansawdd uchel mewn sgiliau gydol oes e.e. eich datblygu i fod yn ddysgwr annibynnol sy'n gallu dadansoddi'n feirniadol.
- Rydym wedi ein lleoli yn yr amgylchedd delfrydol i astudio gwyddor y môr ac agweddau cadwraeth ar wyddor y môr.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.Ìý
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae ffocws mawr ar weithgarwch ymarferol ar draws ein cyrsiau, ac nid yw hwn yn wahanol. Mae'n amlwg bod gwaith ymarferol yn eich helpu'n uniongyrchol i ddysgu, ond mae hefyd yn dod â phobl yn agosach, ac mae'n ddifyr ac yn ysgogol. Hefyd, mae pob cyflogwr yn dweud wrthym fod y sgiliau rydym yn eu haddysgu yn ystod gwaith ymarferol yn aml ymhlith y rhai pwysicaf sydd eu hangen yn y gweithle. Dyna pam mae gwaith ymarferol yn parhau i fod yn rhan greiddiol o’r ffordd y caiff y cwrs ei gyflwyno.
Rydym hefyd yn cynnig darlithoedd traddodiadol ac wedi cynyddu natur ryngweithiol y rhain. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rhwng dosbarthiadau, fel eich bod yn cael y gorau o amser y dosbarth.
Mae'n bwysig i gyflogwyr ac ar gyfer eich datblygiad eich bod yn gyfathrebwyr da, felly efallai y gofynnir i chi nid yn unig ysgrifennu traethodau, ond cynhyrchu podlediadau gyda myfyrwyr eraill, neu gynhyrchu fideos wedi'u llunio i arwain cynulleidfa gyhoeddus ar draws safle maes. Does dim diwedd i'r ystod o bethau y gallech chi gael y cyfle i ymgymryd â nhw. Ond mae'r cyfan yn mynd i fod yn eich datblygu i'r pwynt lle rydych mewn sefyllfa dda am weddill eich oes.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ìý
Mae’r BSc hwn mewn Gwyddor Môr a Chadwraeth wedi’i strwythuro yn y fath fodd fel eich bod yn cael sylfaen gadarn mewn gwyddor môr a chadwraeth, ond mae opsiynau hefyd sy’n caniatáu ichi ddewis eich arbenigeddau eich hun gyda’r maes pwnc.
Mae Blwyddyn 1 yn gyfnod pan fyddwch yn dechrau dod i wybod am y cefnforoedd, sut maent yn gweithio a sut maent yn ffitio i’r system atmosfferig a'r ddaear. ÌýByddwch yn cael hyfforddiant cynhwysfawr mewn dulliau ymchwil, a byddwch yn cael eich addysgu mewn rhai o'r rhain ar ffurf tiwtorial, rheolaidd mewn grwpiau bach.
Yn ystod Blwyddyn 1 byddwch yn cymryd modiwlau gorfodol mewn: Systemau a Phrosesau Daear; Hanfodion Eigioneg; Data Amgylcheddol a Dadansoddi*; y Ddaear, yr Hinsawdd ac Esblygiad; a Sgiliau Gwyddoniaeth*. Byddwch yn dewis modiwl dewisol o restr o bynciau megis y canlynol: Rheolaeth a Chadwraeth Amgylcheddol, Biogeocemeg y Môr ac Amrywiaeth Organebau. Neu, gallwch ddewis y cwrs maes Daeareg Ynys Môn sydd â’r nod o ehangu profiad maes daearegol myfyrwyr trwy gyfres o ymweliadau maes â safleoedd allweddol ar Ynys Môn - ardal sydd â chofnod daearegol cyfoethog a statws Geoparc Byd-eang UNESCO (GeoMon).
Mae blwyddyn 2 wedi'i strwythuro o amgylch tri maes allweddol, sef sgiliau ymarferol ar fwrdd llong, prif egwyddorion cadwraeth, a moroedd ysgafell - ffocws y rhan fwyaf o ymdrechion ecsbloetio a chadwraeth. ÌýGyda hyn mewn golwg, byddwch yn astudio Egwyddorion Cadwraeth ac yn dilyn modiwlau Cyfathrebu Gwyddoniaeth* a Phrosesau Morydau a Moroedd yr Ysgafell. Yn ystod y flwyddyn hon, byddwch hefyd yn cael profiad gwerthfawr o waith maes amlddisgyblaethol ar y môr drwy'r modiwl cwrs maes ar long. Yn ogystal, byddwch yn dewis dau fodiwl ychwanegol o amrywiaeth o ddewisiadau sydd ar gael, a all gynnwys: Prosesau Dalgylch; Newid yn yr Hinsawdd; Geoberyglon; Ecoleg y Môr; Synhwyro o Bell a Geoffiseg; Datblygu Cynaliadwy*; a Llygredd Dŵr, Aer a Phridd.
Mae blwyddyn olaf y cwrs hwn yn cynnig modiwlau mewn Cadwraeth a Defnyddio’r Môr, Polisi Amgylcheddol a Materion Cyfredol. Bydd modiwlau dewisol yn cael eu dewis o restr sy'n cynnwys Cwrs Maes Arfordirol ac amrywiaeth o bynciau gan gynnwys: Ecosystemau Dŵr Croyw, Ecosystemau’r Môr, Daeareg y Môr, Llygredd yn y Môr, Afonydd, Arfordiroedd a Chefnforoedd, Ecoleg a Chadwraeth Bywyd Gwyllt.Rydym hefyd wedi ymuno â chydweithwyr ar draws y brifysgol i gynnig modiwl dewisol yng Nghyfraith y Môr - rhywbeth sy'n sail i ddefnyddio mesurau cadwraeth yn ymarferol ledled y byd. ÌýBydd y Traethawd Hir yn y flwyddyn olaf hefyd yn cynnig cyfle i chi gwblhau project ymchwil annibynnol ar bwnc o'ch dewis, dan oruchwyliaeth aelod staff profiadol.
*Modiwl cyfrwng Cymraeg, mae fersiwn Saesneg o’r modiwl ar gael hefyd.
Sylwer mai syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig a geir yma a gall newid.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gwyddor Môr a Chadwraeth BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Eigion
- Mae ein cyfleusterau dysgu rhagorol yn cynnwys labordai geoffisegol a chafnau tonnau, yn ogystal ag uwch systemau cyfrifiadurol.Ìý
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai o fewn geoparc GeoMôn UNESCO. Rydym hefyd yn agos at amgylchedd rhewlifol clasurol Eryri ac felly yn y lle perffaith i astudio geowyddorau gydag amrywiaeth eang o amgylcheddau ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.Ìý
- Mae gennym long ymchwil gwerth £3.5m sy'n mynd ar y môr yn ogystal â sawl cwch arolygu llai sydd â'r offer arolygu cefnfor diweddaraf.Ìý
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Ìý
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Ìý
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136 pwynt tariff o gymhwyster Lefel 3*. Er enghraifft: Ìý
- Lefel A**: Yn cynnwys dau bwnc gwyddoniaeth (Bioleg, Ffiseg, Mathemateg, Cemeg, Daearyddiaeth, Daeareg, Gwyddor/Astudiaethau'r Amgylchedd, Economeg, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol.
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys o leiaf un pwnc gwyddonol.**
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DMM-DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DMM-DDD
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City (1080) Guilds mewn Cadwraeth Amgylcheddol neu Gefn Gwlad a'r Amgylchedd**: MMM – DDM.
- Mynediad i Wyddoniaeth AU.**
- Lefelau T: fesul achos.
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbyniwn.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos. Cysylltwch â ni am wybodaeth.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol).
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 112-128 pwynt tariff o gymhwyster Lefel 3*. Er enghraifft: Ìý
- Lefel A**: Yn cynnwys dau bwnc gwyddoniaeth (Bioleg, Ffiseg, Mathemateg, Cemeg, Daearyddiaeth, Daeareg, Gwyddor/Astudiaethau'r Amgylchedd, Economeg, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol.
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys o leiaf un pwnc gwyddonol.**
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol**: DMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City (1080) Guilds mewn Cadwraeth Amgylcheddol neu Gefn Gwlad a'r Amgylchedd**: MMM – DDM.
- Mynediad i Wyddoniaeth AU.**
- Lefelau T: fesul achos.
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
*Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbyniwn.
**Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos. Cysylltwch â ni am wybodaeth.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol).
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Ìý
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch iÌýadran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Mae’r BSc mewn Gwyddorau Môr a Chadwraeth nid yn unig yn cynnig gwybodaeth wyddonol gadarn am amgylchedd y môr a’i gadwraeth, ond hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar y sgiliau a werthfawrogir gan gyflogwyr. Yn dibynnu ar y modiwlau arbenigol a ddewiswch, gallwch wneud cais am swyddi ar draws ystod eang o ddisgyblaethau megis cadwraeth, addysg/ymgysylltu â'r cyhoedd, ymgynghori amgylcheddol, asesu effaith amgylcheddol, rheoli’r môr neu wneud astudiaeth ôl-radd bellach. Mae gan ein cyn-fyfyrwyr yrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant, prifysgolion, cyrff anllywodraethol a sefydliadau sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig a thramor.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Eigioneg Ddaearegol (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Ìý