Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae鈥檙 cwrs hwn wedi'i achredu gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig ac mae鈥檔 cyflawni gofynion mynediad i Aelodaeth Broffesiynol yn rhannol.
Rhaglen integredig o'r radd flaenaf dros gyfnod o ddwy flynedd yw鈥檙 cwrs sydd 芒'r nod o gymhwyso graddedigion i ymdrin 芒'r heriau enfawr sy'n wynebu coedwigoedd trofannol. Mae'r staff addysgu yn ymchwilwyr brwd a bydd y myfyrwyr yn elwa o'n cysylltiadau niferus ledled y byd.
Cynigir y cwrs gan gonsortiwm o bum prifysgol yn Ewrop:
- Cyfadran Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Copenhagen, Denmarc
- Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, Prifysgol 亚洲色吧, 亚洲色吧, Gwynedd.
- Prifysgol Technoleg Dresden, Sefydliad Cynnyrch Coedwigaeth a Choedwigoedd Rhyngwladol, Tharandt, yr Almaen
- AgroParisTech (Sefydliad Technoleg Bywyd, Bwyd a Gwyddorau鈥檙 Amgylchedd Paris), Montpellier, Ffrainc
- Coleg Amaethyddiaeth, Prifysgol Padova, Padova, yr Eidal.
Caiff blwyddyn gyntaf y cwrs ei threulio yn astudio yn un o dri sefydliad (亚洲色吧, Copenhagen, Dresden) a chaiff yr ail flwyddyn ei threulio yn arbenigo mewn pynciau gwahanol a gynigir gan y pum sefydliad. Mae'n ofynnol i'r myfyrwyr dreulio'r ail flwyddyn mewn prifysgol wahanol i鈥檙 flwyddyn gyntaf. Nod y flwyddyn gyntaf yw cynnig cyflwyniad trylwyr ac eang i goedwigaeth drofannol gynaliadwy. Mae'r deilliannau dysgu yn debyg ar gyfer y tri sefydliad yn y flwyddyn gyntaf ac yn caniat谩u i fyfyrwyr ddewis fel y mynnant o blith y pum opsiwn arbenigol yn yr ail flwyddyn. Daw鈥檙 flwyddyn gyntaf gyda Modiwl ar y Cyd yr Haf sy鈥檔 cynnwys gwaith maes mewn gwlad drofannol.
Yr opsiynau ar gyfer arbenigo yn yr ail flwyddyn yw:
- Systemau amaethgoedwigaeth (亚洲色吧)
- Economeg gymdeithasol coedwigaeth drofannol (Copenhagen)
- Rheoli coedwigoedd trofannol (Dresden)
- Rheolaeth amgylcheddol a pholis茂au ar gyfer coedwigoedd trofannol (Montpellier)
- Moeseg mewn coedwigaeth a masnach gyfrifol yng nghynhyrchion a gwasanaethau coedwigoedd trofannol (Padova).
I gael gradd ddwbl mewn Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy ynghyd 芒 Diploma Ychwanegol bydd y myfyrwyr yn gwneud 120 o gredydau drwy astudio mewn dau o sefydliadau鈥檙 Consortiwm gan wneud o leiaf 60 credyd ym mhob un. Gellir cwblhau holl weithgareddau modiwlaidd y rhaglen yn Saesneg, ac eithrio'r ail flwyddyn ym Montpellier sydd ar gael yn Ffrangeg yn unig.
Dyfernir y graddau canlynol: MSc mewn Coedwigoedd a Bywoliaethau yn Copenhagen, MSc mewn Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy ym Mangor, MSc mewn Coedwigaeth Drofannol yn Dresden, MSc mewn Gwyddorau Amaethyddol, gan arbenigo mewn Rheolaeth Amgylcheddol dros Ecosystemau a Choedwigoedd Trofannol ym Montpellier, ac MSc mewn Coedwigaeth a Gwyddorau鈥檙 Amgylchedd yn Padova.
Cliciwch i gael gwybodaeth fanwl am y Radd Meistr mewn Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy.
Pam dewis Prifysgol 亚洲色吧 ar gyfer y cwrs hwn?
- Yn y 5 uchaf am Amaethyddiaeth a Choedwigaeth (Tabl Cynghrair The Complete University Guide 2021).
- Mae'r ysgol yn 7ed yn y Deyrnas Unedig am ansawdd ymchwil (Amaethyddiaeth a Choedwigaeth - The Complete University Guide 2021).
Cyllid
Disgwylir y bydd tua 20 o ysgoloriaethau Erasmus Mundus ar gael i fyfyrwyr yr Undeb Ewropeaidd a thrydydd gwledydd
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Modiwlau Gorfodol 亚洲色吧:
Asesu Adnoddau Coedwigoedd: Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i adnoddau a pholisi coedwigoedd ledled y byd.
Coedwriaeth: Mae'r modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth o goedwriaeth a rheoli coedwigoedd a rhyngweithiad systemau rheoli 芒'r amgylchedd ffisegol. Elfen gyffredin yw archwilio'r systemau a鈥檙 ymyriadau coedwriaethol a ddefnyddir i wireddu cyflwr dymunol y goedwig yn y dyfodol.
Cyfathrebu a Chynllunio Ymchwil: Amcan y modiwl hwn yw cefnogi鈥檙 gwaith o gynllunio traethawd hir ac annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol am y broses ymchwil.
Newid yn yr Hinsawdd a Choedwigaeth Drofannol -听Monitro a Pholis茂au: Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar drafodaethau poblogaidd am y berthynas rhwng newid yn yr hinsawdd, coedwigoedd a bywoliaeth.
Paratoi Gwaith Maes yn y Trofannau: Mae'r modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth ffeithiol, fanwl, lleoliad-benodol sy'n berthnasol i faterion coedwigaeth yn y trofannau.
Ysgol Haf Coedwigaeth Drofannol Gynaliadwy: Mae'r modiwl hwn yn cymhwyso dulliau casglu a gwerthuso data yn y maes.
Systemau ac Ymarfer Amaethgoedwigaeth: Mae'r modiwl yn cyflwyno'r cysyniadau y tu 么l i'r system defnydd tir hon, a'r ffyrdd y mae'n cael ei defnyddio ar draws y byd. Y pynciau sy鈥檔 cael sylw yw egwyddorion rhyngweithiadau ecolegol a bioffisegol, a'r manteision cymdeithasol ac economaidd a鈥檙 manteision i鈥檙 ecosystem.
Rheoli Adnoddau Naturiol: Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol i fyfyrwyr o'r dull systemau o reoli adnoddau naturiol i ddarparu gwasanaethau ecosystemau amrywiol, yn ogystal 芒 gwybodaeth ymarferol o'r ffyrdd y gall rheolwyr adnoddau naturiol dynnu ar amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth iddynt hwythau ac eraill gael gwybod am effeithiau ymyriadau rheoli tir.
Modiwlau Dewisol:
Mae鈥檙 dewis o fodiwlau dewisol yn dibynnu ar ble y dewisir treulio鈥檙 ail flwyddyn. Mae manylion modiwl llawn y sefydliadau partner ar gael trwy ddilyn y cysylltiadau canlynol: Prifysgol Copenhagen, Denmarc; AgroParisTech-ENGREF, Ffrainc; Prifysgol Dechnoleg Dresden, yr Almaen; Prifysgol Padova, yr Eidal.
Gofynion Mynediad
Y prif feini prawf ar gyfer dewis myfyrwyr yw: gradd israddedig dda; CV yr ymgeisydd; dogfennaeth yn dangos hyfedredd mewn Saesneg (a Ffrangeg os yw'n dewis Montpellier); datganiad cymhelliant personol yr ymgeisydd; dau eirda, ac un ohonynt o leiaf yn un academydd.
Gyrfaoedd
Gwneud Cais
Gwnewch gais drwy wefan听