Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig ac yn rhoi cyflawniad rhannol o Fynediad Aelodaeth Broffesiynol.
Ymunwch ar daith gyda'n MSc mewn Coedwigaeth Amgylcheddol, lle rydym yn datgelu dirgelion coedwigoedd y byd ac yn plymio'n syth i galon heriau cynaliadwyedd. Ydych chi'n barod i archwilio'r rhyngweithio deinamig rhwng coed a choedwigoedd a'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth? Byddwn yn eich arfogi 芒 mewnwelediadau arloesol gwyddoniaeth coedwigoedd, gan eich grymuso i werthuso'n feirniadol a mynd i'r afael 芒'r cwestiynau enfawr sy'n llunio ein dyfodol amgylcheddol. Gyda phwyslais ar wyddoniaeth coedwigoedd, bydd y rhaglen MSc hon yn datblygu eich dealltwriaeth o wyddoniaeth naturiol ecosystemau coedwig, sail rheolaeth coedwigoedd gynaliadwy.
Pam dewis Prifysgol 亚洲色吧 ar gyfer y cwrs hwn?
- Mae Prifysgol 亚洲色吧 wedi bod yn addysgu coedwigaeth ers dros 120 mlynedd.
- Mae ein graddedigion yn gweithio ym maes coedwigaeth a gwyddorau coedwig ledled y byd.
- Mae gennym gysylltiadau agos 芒 sefydliadau coedwigaeth ac amgylcheddol yn y DU a thramor, ac mae staff o'r sefydliadau hyn yn gwneud cyfraniadau rheolaidd i'r rhaglen.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r elfen a addysgir (120 credyd) yn cynnwys modiwlau sy'n werth 15 credyd ac efallai y bydd yn cynnwys gwaith cwrs a/neu arholiad(au).
Mae'r elfen traethawd hir (60 credyd) yn cynnwys traethawd hir - prosiect ymchwil annibynnol a arweinir gan y myfyriwr, sydd yn gweithio'n agos gydag uwch-diwtor academaidd i gyflwyno eu hymchwil 么l-raddedig o safon uchel eu hunain.
Gall ymgeiswyr nad ydynt yn dymuno astudio am y MSc llawn (180 credyd) gymryd dyfarniadau gadael naill ai o Dystysgrif 脭l-raddedig (60 credyd) neu Ddiploma 脭l-raddedig (120 credyd).
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Coedwigaeth Amgylcheddol.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2(i) mewn pwnc perthnasol, e.e. Coedwigaeth, Gwyddorau Amgylcheddol, Ecoleg, Gwyddorau Cadwraeth, Datblygiad Cynaliadwy, Daearyddiaeth neu Wyddonau Biolegol. Fel arall, gellir derbyn gradd gyntaf mewn pwnc amherthynol ynghyd 芒 phrofiad ymarferol perthnasol. Caiff ymgeiswyr eu barnu yn 么l eu teilyngdod unigol ac ystyrir oedran, profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd. Mae myfyrwyr 芒 graddau mewn coedwigaeth, daearyddiaeth, bioleg, astudiaethau amgylcheddol, economeg a gwyddorau cymdeithasol wedi graddio o'r cwrs hwn.
Bydd ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed nad oes ganddynt gymwysterau addysg uwch ond sydd 芒 phrofiad gwaith perthnasol ac sydd wedi gweithio am o leiaf 2 flynedd mewn swydd o gyfrifoldeb a pherthnasedd i'r radd hefyd yn cael eu hystyried.聽
Gofynnir am IELTS: 6.0 (heb unrhyw elfen islaw 5.5).
Gyrfaoedd
Yn erbyn cefndir economaidd tywyll weithiau, mae rheoli adnoddau naturiol, a rheoli coedwigoedd yn benodol, yn dod yn fwyfwy pwysig, a chanlyniad hyn yw bod prinder sgiliau a gydnabyddir yn gyffredinol yn y proffesiwn coedwigaeth. Mae pa mor gyflym y mae ein graddedigion yn cael gwaith yn adlewyrchu hyn. Mae graddedigion o'r cwrs hwn wedi symud ymlaen i gyflogaeth berthnasol mewn sefydliadau sector cyhoeddus, cyrff anllywodraethol a sefydliadau academaidd yn yr UE a thramor. Mae'r cwrs MSc hwn hefyd yn ffordd dda o symud ymlaen mewn ymchwil 么l-radd, ac mae wedi cynhyrchu gwyddonwyr ymchwil o safon uchel ym meysydd bioleg coed, gwyddor coedwigoedd, a rheoli adnoddau naturiol.