Ynglŷn â’r Cwrs Yma
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?Ìý
Dyma gwrs byr sydd wedi'i gynllunio ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn dulliau niwroddelweddu modern sy'n seiliedig ar MRI. Mae'n berthnasol iawn i ymchwilwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, seicolegwyr, ffisegwyr, peirianwyr, gwyddonwyr cyfrifiadurol, phawb sy’n chwilfrydig ynghylch yr ymennydd. P'un a ydych am wella'ch arbenigedd neu archwilio sut mae niwrowyddonwyr gwybyddol a meddygon yn ymchwilio i weithrediad yr ymennydd, mae'r cwrs yn cynnig profiad dysgu diddorol ac addysgiadol.
Mae’r micro-gymhwyster hwn yn rhan o’r MSc Niwro-ddelweddu, ac rydym yn falch o gynnig y cyfle i’w astudio fel modiwl annibynnol.
Mae’r MSc Niwro-ddelweddu ym Mangor yn un o’r rhaglenni mwyaf sydd wedi ennill ei blwyf yn y DU ym maes niwro-ddelweddu modern. Am ragor o wybodaeth am yr MSc llawn, ewch i'r dudalen hon: niwro-ddelweddu-msc
Pam astudio’r cwrs CPD Hon?Ìý
Mae’r cwrs yn cynnig sylfaen gadarn mewn niwroddelweddu, gan arfogi dysgwyr â’r isod:
- Gwybodaeth ddamcaniaethol hanfodol ar gyfer deall MRI modern ac ymchwil niwrowyddoniaeth swyddogaethol sy'n seiliedig ar MRI.
- Dealltwriaeth foesegol ac athronyddol o heriau ymchwil niwroddelweddu.
- Sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddylunio, cynnal, a dadansoddi astudiaethau niwroddelweddu.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd gan bawb yr arbenigedd i ddehongli data niwroddelweddu a chymhwyso eu gwybodaeth yng nghyd-destun ymchwil neu glinigol.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Caiff y cwrs rhan amser ei gynnal dros 12 wythnos yn ystod Semester 1 y flwyddyn academaidd.
Ym flwyddyn academaidd 2025/26, bydd Semester 1 yn rhedeg o 29 Medi tan 22 Rhagfyr 2025.
Gwybodaeth am asesiadauÌý
Caiff yr asesiadau eu cynllunio i annog dysgu parhaus a chymhwyso deunyddiau’r cwrs yn ymarferol. Maent yn cynnwys:
- Gwaith cwrs wythnosol byr (150-300 gair) – 40% o’r marc cyffredinol.
- Arholiad terfynol wedi'i amseru ar ffurf llyfr agored – 60% o'r marc cyffredinol.
Tiwtor
Dr Ken Valyear

Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Prof. Paul Mullins
Ìý

Athro Delweddu Niwrolegol ac Uwch Ffisegydd yn Ganolfan Ddelweddu ÑÇÖÞÉ«°É yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddorau Chwaraeon.
Mae fy ymchwil yn cwmpasu tri maes eang: defnyddio delweddu cyseiniant magnetig a sbectrosgopeg i ymchwilio i brosesau niwrolegol a ffisiolegol sylfaenol mewn iechyd a chlefyd; defnyddio'r technegau hyn i fesur newidiadau sy'n gysylltiedig â throsglwyddo niwrodrosglwyddyddion a gweithgaredd niwral mewn iechyd a chlefyd; ac ymchwilio i effeithiau heriau ffisiolegol (e.e. hypocsia, clwyf pen, ymarfer corff) ar yr ymennydd.
Rwyf hefyd yn rhyngweithio â chydweithwyr o'r Coleg Meddygaeth a Gwyddorau Iechyd ar ddylunio astudiaethau MRI, caffael data a phrosesu a'r adnoddau sydd ar gael i helpu gyda'u cwestiynau ymchwil, fy nod yw cadw Uned Ddelweddu ÑÇÖÞÉ«°É yn ganolfan o'r radd flaenaf ar gyfer ymchwil delweddu niwrolegol yng Ngogledd Cymru
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd pawb yn archwilio cysyniadau allweddol a sgiliau ymarferol mewn niwroddelweddu, gan gynnwys:
-
Cyfrifiadura sylfaenol a llythrennedd data ar gyfer niwroddelweddu.
-
Fformatau data delweddu a thechnegau rheoli.
-
Dadansoddiad ystadegol o ddata cyfres amser swyddogaethol.
-
Dylunio arbrofol ar gyfer astudiaethau delweddu swyddogaethol.
-
Sgiliau meddalwedd ar gyfer prosesu a dadansoddi data, gan ddefnyddio offer fel MATLAB, FSL, SPM, a TARQUIN.
Rhestr o unedauÌý
Mae’r maes llafur yn cwmpasu’r meysydd canlynol:
- Llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol – Deall gwybodeg yr ymennydd a strwythurau data.
- Gweld data niwroddelweddu - Fformat NIFTI, cyferbyniadau delwedd, a datrysiad.
- Defnyddio MATLAB – Efelychu ymatebion hemodynamig ledled cyfresi amser.
- Y Model Llinol Cyffredinol (GLM) - Matricsau dylunio, effeithlonrwydd profi, a dadansoddiad lefel gyntaf mewn FSL.
- Dadansoddiad ail lefel gydag SPM – Dehongli data niwroddelweddu uwch.
- Prosesu Delweddu Tensor Tryledu (DTI). – Hanfodion tractograffeg.
- Sbectrosgopeg Cyseiniant Magnetig (MRS) - Prosesu a dadansoddi data.
- Dyluniad astudiaeth niwroddelweddu – Egwyddorion sefydlu a methodoleg arbrofol.
Gofynion Mynediad
I fod yn gymwys ar gyfer y cwrs, bydd angen yr isod ar ymgeiswyr:
- Gradd israddedig (2:1 neu uwch).
Fel arall, gallwn ystyried ymgeiswyr gydag o leiaf tair blynedd o brofiad gwaith perthnasol a thystiolaeth o astudiaeth ddiweddar neu ddatblygiad proffesiynol (sy'n dangos parodrwydd i astudio ar Lefel 6/7).
Os nad ydych yn bodloni’r gofynion academaidd safonol, cysylltwch ag arweinydd y cwrs i drafod eich cymhwystra.
ÌýÌý Ìý
Ìý
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn einÌý
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswchÌý'Heb raddio olraddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswchÌýNon-Graduating Taught Modules in Psychology (NGGT/PSY)ÌýCliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl:ÌýCyflwyniad i Niwroddelweddu: y cod ywÌý(PPP-4022). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
(nid oes angen darparu manylion yma)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol