Mae’r Undeb Athletau (UA) wedi’i leoli yn Undeb y Myfyrwyr, Pontio, ac yn brolio mwy na 60 o glybiau, sy’n cynnwys gweithgareddau mor amrywiol â hoci, cerdded mynyddoedd ac Octopush. Mae’n gyfle i fyfyrwyr ÑÇÖÞÉ«°É gymryd rhan yng ngweithgareddau amrywiaeth o glybiau, a hynny am ddim. Mae’r UA yn cynnig chwaraeon cystadleuol ac adloniannol, fel ei gilydd, ochr yn ochr â rhaglen Cystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Gwledydd Prydain (BUCS), ac mae rhyw 2,000 o aelodau yn eich UA chi. Bernir bod Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden Corfforol yn rhan allweddol bwysig o brofiad Prifysgol, ac yma ym Mangor, rydym yn ymdrechu i’r eithaf i gynnig pob cyfle i’n myfyrwyr gymryd rhan mewn rhyw fath o weithgaredd corfforol, p’un a fyddo’n golygu cerdded trwy Barc Cenedlaethol Eryri, rhwyfo yng Nglannau’r Fenai gyda’r clwb rhwyfo, neu gynnal ein gweithgareddau mewnol a chyd-rhwng Neuaddau.
Gwyliwch - Varsity
Mae’r UA yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau trwy’r flwyddyn, yn cynnwys ein cystadleuaeth flynyddol, sef Varsity, yn erbyn Prifysgol Aberystwyth. Y gystadleuaeth aml-chwaraeon lle mae ÑÇÖÞÉ«°É wedi ennill am y 5ed flwyddyn yn olynol. Mae digwyddiadau eraill yn cynnwys uwch-dimau a gynhelir yn semester 1, ac uwch-sêr – cystadleuaeth arall ar gyfer dewis y dyn neu’r fenyw fwyaf ffit, gyda gwobrau i’w hennill. Yn ystod y flwyddyn, mae ein Hundeb Athletau yn cefnogi ‘Movember’ a ‘FeBRAry’, sef digwyddiadau i gefnogi ymchwil i ganser y ceilliau a’r fron. Yn flynyddol, rydym yn dathlu llwyddiannau ein mabolgampwyr yn noson wobrwyo fawreddog yr UA yn Neuadd PJ, gyda chinio.
Mae ymaelodi â’r UA yn ffordd wych o gyfarfod â phobl newydd, a llawer ohonynt yn dod yn ffrindiau oes. P’un a fyddoch yn athletwr penigamp, yn ddechreuwr pur neu’n unig yn chwilio am gyfeillgarwch newydd a chyffrous, yr UA yw’r lle gorau i ddechrau. Mae clybiau’n cynnal hyfforddiant mewn amryw o gyfleusterau gwahanol, yn cynnwys Canolfan Brailsford, Safle’r Normal, Pwll Nofio ÑÇÖÞÉ«°É a Chaeau a thrac Treborth. Manteisiwch ar y cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth enfawr o chwaraeon o fewn clybiau a fydd yn gwneud i chi deimlo bod croeso twymgalon ichi fod yno. Bob nos Fercher, daw clybiau’r UA at ei gilydd yng nghlwb nos y myfyrwyr, Academi. Yma, bydd holl glybiau’r UA yn dathlu eu llwyddiannau ar ddiwrnod eu gornestau ac yn codi arian wrth y drws – arian a fydd yn mynd yn ôl i glwb yr UA.
Manylion Cyswllt
- E-bost – opportunities@undebbangor.com
- Ffôn – 01248 388000
Cewch wybodaeth am ein holl glybiau ar .