Module SCW-4014:
Lleoliad Ymarfer 1
Lleoliad Ymarfer Gwaith Cymdeithasol 1 2024-25
SCW-4014
2024-25
School Of Medical And Health Sciences
Module - Semester 2
30 credits
Module Organiser:
Gwenan Prysor
Overview
Mae Lleoliad Ymarfer Gwaith Cymdeithasol 1 yn 100 diwrnod ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiad o ymarfer gwaith cymdeithasol uniongyrchol, ac i ystyried a dadansoddi'r profiad hwn yn feirniadol. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i gynyddu gwybodaeth am ddeddfwriaeth, polis茂au, gweithdrefnau ac ymchwil sy鈥檔 hysbysu ymarfer
Mae'r lleoliad yn cynnwys:
- Rhaglen sefydlu yn yr asiantaeth lleoliad.
- Sesiynau goruchwylio cyson i gefnogi a datblygu dysgu'r myfyriwr.
- Cyfleoedd dysgu i ddatblygu sgiliau ymarfer gwaith cymdeithasol trwy weithio / cydweithio sy'n briodol i lefel datblygiad y myfyriwr.
- Cyfle i gymryd rhan mewn gwaith uniongyrchol a fydd yn galluogi'r myfyriwr i ddangos tystiolaeth o鈥檙 Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol (SW) a鈥檙 C贸d Ymarfer Proffesiynol (CoPP)
- Cyfleoedd ar gyfer gwaith rhyng-broffesiynol.
- Integreiddio dulliau gwaith cymdeithasol, modelau a damcaniaethau i ymarfer a ddefnyddir yn ystod y lleoliad.
- Cyfleoedd i fyfyrio a dadansoddi鈥檔 feirniadol yn llafar ac yn ysgrifenedig mewn ymarfer.
Bydd o leiaf bump arsylwad uniongyrchol o ymarfer myfyriwr gydag unigolion yn ystod y lleoliad hwn. Mae鈥檔 rhaid i o leiaf bedwar o'r arsylwadau gael eu cwblhau gan yr addysgwr ymarfer enwebedig, tra gall y llall gael ei wneud gan weithiwr cymdeithasol arall sydd yn gofrestredig ers o leiaf 3 blynedd. Gofynnir am adborth mewn perthynas ag ymarfer y myfyriwr gan yr unigolion y mae'r myfyriwr wedi bod yn gweithio gyda hwy.
Bydd pwynt asesu ffurfiol ar 么l 20 diwrnod cyntaf y lleoliad. Bydd angen i'r myfyriwr ddarparu tystiolaeth eu bod wedi cwrdd 芒 safonau penodedig (SW鈥檚) a dangos eu bod yn addas ac yn ddiogel i fynd ymlaen 芒'r lleoliad. Bydd monitro a chefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd yn cael anawsterau i gwrdd a'r gofynion ar y pwynt yma.
Ystyrir fod gan fyfyrwyr hawl i oruchwyliaeth ffurfiol, rheolaidd a hyrwyddol i bwrpas myfyrio a datblygu drwy gydol y lleoliad. Bydd materion neu bryderon yn cael eu trafod mewn modd agored, a'u rheoli a'u datrys gyda chynlluniau cefnogi cytunedig os oes angen.
Bydd cynnwys y portffolio terfynol Lleoliad Ymarfer Gwaith Cymdeithasol 1 yn cynnwys y canlynol: 鈥� Cytundeb Dysgu Ymarfer yn cynnwys manylion yr holl bart茂on sy'n ymwneud a'r lleoliad, oriau鈥檙 asiantaeth, gwahanol agweddau ar y trefniadau mewn perthynas 芒 rheoli鈥檙 lleoliad deilliannau dysgu'r myfyriwr a'r disgwyliadau ohono/i, y cyfleodd dysgu sydd ar gael, ac ati 鈥� Dogfennau dadansoddi ac adlewyrchu ar ymarfer, gan gynnwys paratoadau, adlewyrchiadau鈥檙 myfyrwyr, asesydd ymarfer ac adborth unigolion a gofalwyr 鈥� Adroddiad o gynnydd mewn perthynas a gwahanol sgiliau proffesiynol 鈥� Adroddiad crynodol yn dilyn 20 diwrnod cyntaf y lleoliad 鈥� Adroddiad Canol Ffordd ar gynnydd myfyrwyr yn hanner cyntaf y lleoliad, a chynllun ar gyfer yr ail hanner 鈥� Adroddiad terfynol Addysgwr Ymarfer gydag argymhelliad pasio / methu 鈥� Grid mapio tystiolaeth SGC a鈥檙 C贸d Ymarfer Proffesiynol o fewn y portffolio 鈥� Cofnodion o unrhyw gyfarfodydd ychwanegol gynhaliwyd yn ystod y lleoliad 鈥� Tystiolaeth ddogfennol arall fel y bo'n briodol.
Learning Outcomes
- Dangos eu bod wedi caffael dealltwriaeth, yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr, o effaith ymarfer gwaith cymdeithasol arnynt;
- Dangos eu bod wedi gallu datblygu hunaniaeth broffesiynol fel gweithiwr cymdeithasol drwy brofiad dysgu cydlynol ac integredig;
- Dangos eu bod yn gallu defnyddio dulliau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) a thechnegau i gefnogi eu dysgu ac ymarfer fel y diffinnir gan y Datganiadau Meincnodi ar gyfer Gwaith Cymdeithasol;
- Dangos eu bod yn meddu ar y sgiliau rhyngbersonol a'r gwerthoedd gofynnol er mwyn iddo ef neu hi fod yn addas ac yn ddiogel i weithio gydag unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau a'r rhai sy'n gofalu amdanynt.
- Dangos fod gennynt yr wybodaeth ddamcaniaethol a'r profiad ymarferol angenrheidiol i ddatblygu ymarfer gwaith cymdeithasol rhyngbroffesiynol a rhyngasiantaethol effeithiol;
- Dangos gallu i adnabod, deall ac ymateb i faterion sy'n benodol i neu sy'n nodweddiadol o anghenion Cymru, ei hieithoedd, deddfwriaeth, diwylliant, daearyddiaeth a sefydliadau a sefyllfa nodedig yr Iaith Gymraeg;
- Dangos gallu i adnabod, deall ac ymateb i faterion sy'n ymwneud 芒 swyddogaethau statudol o ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl.
- Dangos gallu i ddisgrifio, egluro a chymhwyso'r C么d Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol drwy eu hymarfer, ymddygiad a gwaith academaidd;
- Dangos gallu i integreiddio eu hymarfer, theori gwaith cymdeithasol perthnasol, deddfwriaeth ac ymchwil yn effeithiol;
- Dangos tystiolaeth o gymhwysedd yn 6 r么l allweddol gwaith cymdeithasol fel y diffinnir gan yr 20 o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol (2012). (Bydd asesiadau yn cael eu hysbysu gan Ddangosyddion Perfformiad briodolir ar gyfer y lefel hon);
- Dangos y gallant werthuso a dysgu o'u ymarfer gwaith cymdeithasol eu hunain a gwaith eraill;
Assessment type
Summative
Weighting
0%
Assessment type
Summative
Weighting
100%