Module CXD-1016:
Sgriptio Teledu
Sgriptio Teledu 2024-25
CXD-1016
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Manon Williams
Overview
Yn y modiwl hwn dysgir myfyrwyr sut i lunio sgript tuag 24 munud o hyd ar gyfer pennod o gyfres deledu. Bydd chwe cam i鈥檙 gweithgaredd hwn. Yn gyntaf, trafodir gofynion cyfres deledu fel cyfrwng dramatig; yn ail, gofynnir i鈥檙 myfyrwyr gyflwyno dadansoddiad manwl o natur y cymeriadau, yn drydydd, gofynnir iddynt lunio cast ar gyfer eu cyfres; yn bedwerydd gofynnir iddynt lunio braslun o blotiau鈥檙 gyfres ac yna grynodeb o gynnwys y bennod a ddeialogir; yn bumed, eir ymlaen i rannu鈥檙 bennod yn olygfeydd trwy lunio bwrdd stor茂o. Y cam olaf yw llunio鈥檙 ddeialog a cheir cyfarwyddyd manwl ar sut i wneud hynny. Dysgir hefyd sut i gyflwyno sgript orffenedig sy鈥檔 dilyn y confensiynau arferedig.
Assessment Strategy
Trothwy: (D) Dylai'r sgript orffenedig ddangos gallu i ddewis thema sy'n gweddu i'r cyfrwng a ddewiswyd ynghyd 芒 gallu i lunio plot. Dylai'r cymeriadau ddangos peth dyfnder seicolegol. Dylai'r ddeialog redeg yn llyfn a naturiol. Dylai diwyg y sgript ddilyn y confensiynau arferedig.
Da: (B) Dylai'r sgript orffenedig ddangos gallu i ddewis thema gyffrous sy'n gweddu i'r cyfrwng a ddewiswyd ynghyd 芒 gallu i strwythuro plotiau cadarn. Dylai'r cymeriadau ddangos dyfnder seicolegol. Dylai'r ddeialog redeg yn llyfn a naturiol ond dylai hefyd ddangos peth ymwybyddiaeth o bwysigrwydd is-destun mewn rhai sefyllfaoedd dramatig. Dylai diwyg y sgript ddilyn y confensiynau arferedig.
Rhagorol: (A) Dylai'r sgript orffenedig ddangos gallu i ddewis thema wreiddiol a chyffrous a honno'n gweddu i'r cyfrwng a ddewiswyd ynghyd 芒 gallu anghyffredin i lunio plot cadarn a gafaelgar. Dylai'r cymeriadau ddangos gwir ddyfnder a chymhlethdod seicolegol. Dylai'r ddeialog redeg yn llyfn a naturiol a hefyd ddangos ymwybyddiaeth o bwysigrwydd is- destun mewn sefyllfaoedd dramatig. Dylai'r gwaith yn ei gyfanrwydd ddangos elfen o arbrofi o safbwynt adeiladedd y plot a natur y ddeialog. Dylai diwyg y sgript ddilyn y confensiynau arferedig.
Learning Outcomes
- Cyfansoddi deialog addas ar gyfer teledu.
- Cyflwyno sgript orffenedig sy'n dilyn confensiynau arferedig cyfrwng dramatig arbennig.
- Dewis thema a fyddai'n addas ar gyfer drama deledu.
- Hunanwerthuso eu gwaith gan edrych yn feirniadol a gwrthrychol ar eu sgriptiau gorffenedig.
- Llunio plot cymen ei adeiladedd o safbwynt rhediad dramatig a chreu cymeriadau ac iddynt ddyfnder seicolegol.
- Trafod yn fanwl nodweddion y ddrama gyfres.
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd 2000 o eiriau yn trafod yr anawsterau a wynebwyd wrth lunio鈥檙 sgript a鈥檙 modd yr aethpwyd ati i鈥檞 goresgyn: 30%.
Weighting
30%
Due date
08/05/2025
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Sgript orffenedig tua 24 munud o hyd ar gyfer cyfres deledu. Dylid hefyd gyflwyno鈥檙 holl waith ysgrifenedig cefndirol (monolog cymeriad, disgrifiad o natur y cymeriadau; crynodeb o鈥檙 cast, amlinelliad o鈥檙 plotiau; crynodeb o鈥檙 bennod; bwrdd stor茂o) gyda鈥檙 sgript: 70%.
Weighting
70%
Due date
17/04/2025