Module BNC-2002:
Esblygiad a Geneteg
Genynnau, Datblygiad ac Esblygiad 2024-25
BNC-2002
2024-25
School of Environmental & Natural Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Stella Farrar
Overview
Nod y modiwl 20 credyd, semester 1 hwn yw cyflwyno myfyrwyr i gysyniadau allweddol mewn bioleg esblygiadol yr 21ain ganrif.
Mae rhan gyntaf y modiwl yn canolbwyntio ar gyfres o ymarferion labordy a chyfrifiadurol sy'n seiliedig ar broblemau, lle bydd myfyrwyr yn cymhwyso technegau codau bar DNA i adnabod rhywogaethau.
Cyflwynir ail ran y modiwl gan dri aelod o staff, a bydd yn canolbwyntio ar:
i) datblygiad theori esblygiadol, twf bioleg esblygiadol-ddatblygiadol, a dadl ddiweddar ynghylch yr angen am "Synthesis Esblygiadol Estynedig"
ii) paleogenomeg - astudio genomau hynafol.
iii) marcwyr genetig, technegau mapio genetig, a'u cymhwysiad i fridio detholus o blanhigion ac anifeiliaid.
Bydd y modiwl yn cynnwys:
Sesiynau ymarferol: 1. Amlinelliad biowybodus o rywogaethau 2. Detholiad naturiol mewn poblogaethau pryfed ffrwythau 3. Esblygiad ymwrthedd gwrthfiotig mewn bacteria
Sesiynau darlithio: 1. Esblygiad a geneteg yn y 19eg ganrif (y "Synthesis Modern") 2. Bioleg esblygiadol-ddatblygiadol (Evo-Devo) 3. A oes angen "synthesis esblygiadol estynedig" arnom? 4. Paleogenomeg. 5. Marcwyr genetig, mapio cysylltedd a dadansoddiad QTL.
Assessment Strategy
Seilir yr asesu ar gynllun marcio categor茂aidd Prifysgol 亚洲色吧.
-Trothwy - (D- i D+) Gwybodaeth sylfaenol yn deillio o'r darlithoedd a'r sesiynau ymarferol, ond heb unrhyw dystiolaeth o allu i gyfuno'r wybodaeth sylfaenol hon yn feirniadol.
-Da- (C- i C+) Gwybodaeth yn seiliedig yn bennaf ar ddarlithoedd a sesiynau ymarferol. Peth tystiolaeth o ddarllen o leiaf peth o'r llenyddiaeth benodedig y tu allan i'r darlithoedd. Tystiolaeth gyfyngedig o ddealltwriaeth a gallu i werthuso'n feirniadol a chyfosod yr amrywiol linynnau gwybodaeth.
-Da Iawn - (B- i B+) Gwybodaeth yn seiliedig ar ddarlithoedd a sesiynau ymarferol ac, am farciau ar ben uchaf y raddfa, gyda thystiolaeth glir o ddefnyddio adnoddau ychwanegol y tu allan i'r darlithoedd. Mae'r myfyriwr yn deall rhai o'r hanfodion ac yn dangos peth gallu i werthuso'n feirniadol a chyfosod yr amrywiol linynnau gwybodaeth.
-Ardderchog - (A- i A*) Mae gwybodaeth yn ymestyn yn fawr ar ddeunydd dosbarth ac yn dangos tystiolaeth helaeth o ddarllen ychwanegol. Mae'r myfyriwr yn deall yr hanfodion yn glir ac yn dangos gallu i werthuso'n feirniadol a chyfosod amrywiol linynnau gwybodaeth.
Learning Outcomes
- Gallu esbonio sut y gellir defnyddio offer biowybodeg cyfoes i amffinio rhywogaethau ac ymchwilio i amrywiadau mewnrywogaethol o safbwynt esblygiadol.
- Gallu integreiddio gwybodaeth a gafwyd o wahanol ffynonellau, a defnyddio dull datrys problemau pan gyflwynir senario damcaniaethol iddi.
- Gwerthfawrogi'r gwahanol fathau o farciwr genetig, y dechnoleg sydd ynghlwm wrth eu defnyddio, a'u defnyddioldeb posibl mewn geneteg poblogaeth ac ecolegol, tacsonomeg, afiechyd ac esblygiad.
- Meddu ar ddealltwriaeth glir o egwyddorion esblygiad trwy ddethol naturiol a rhai damcaniaethau sylfaenol mewn geneteg poblogaeth, yn ogystal 芒 gwerthfawrogiad o'r dadleuon cyfredol mewn theori esblygiadol a r么l datblygiad embryonig mewn newid morffolegol.
Assessment method
Report
Assessment type
Summative
Description
Adroddiad gwyddonol yn cyflwyno cefndir a chanlyniadau arbrofion cod-bar DNA pry cop
Weighting
14%
Due date
13/12/2024
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
Arholiad cwestiwn ateb byr diwedd modiwl
Weighting
40%
Assessment method
Class Test
Assessment type
Summative
Description
Prawf awr ar-lein (Blackboard), yn cynnwys cwestiynau yn seiliedig ar ddatrys problemau a dehongli data a chanlyniadau o senarios newydd
Weighting
25%
Due date
13/12/2024
Assessment method
Class Test
Assessment type
Summative
Description
Prawf mini - hyd at 20 o gwestiynau aml-ddewis yn seiliedig ar ddysgu integredig ar draws y gwersi cyfrifiadurol ymarferol a'r darlithoedd cysylltiedig
Weighting
21%