Newyddlenni
Myfyriwr o Brifysgol 亚洲色吧 ar restr fer am wobr genedlaethol
Mae myfyriwr o Brifysgol 亚洲色吧 wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol.
Mae Matt Day, 23, o Southampton wedi cyrraedd rhestr fer bwrsariaeth wedi鈥檌 noddi am gyfraniad eithriadol yng Ngwobrau Cenedlaethol Cymdeithasau UCM (Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr), y digwyddiad cenedlaethol cyntaf i roi cydnabyddiaeth i gymdeithasau undebau myfyrwyr am eu cyfraniad i ragolygon gyrfa a phrofiad myfyrwyr dros eu cyfnod yn y brifysgol.
Mae Matt newydd ei ethol yn Is-lywydd Cymdeithasau a鈥檙 Gymuned Undeb Myfyrwyr 亚洲色吧 ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016-2017.
Ar hyn o bryd, mae Matt ar gwrs TAR Gwyddoniaeth Uwchradd yn yr Ysgol Addysg ac fe raddiodd gyda gradd MEng mewn Peirianneg Electronig yn 2015. Mae wedi gweithio gyda鈥檙 Gymdeithas Criw Llwyfan (a elwir bellach yn Titan Sounds and Light) ac wedi ehangu a datblygu鈥檙 gymdeithas i鈥檙 fath raddau ei bod bellach yn cefnogi鈥檙 rhan fwyaf o ddigwyddiadau a drefnir gan fyfyrwyr a鈥檙 Brifysgol.
Dywedodd Matt: "Rwy'n edrych ymlaen at glywed am y gwaith gwych a wneir gan gymdeithasau myfyrwyr eraill yn genedlaethol er mwyn gallu ymgorffori rhai o'r syniadau hynny i鈥檓 gwaith dros y flwyddyn i ddod."
Dywedodd Mark Stanley, Is-lywydd presennol Cymdeithasau a'r Gymuned: "Rwy'n hynod o falch bod Matt yn cael ei gydnabod am ei waith gyda chymdeithasau yn y Gwobrau eleni. Ers iddo ddod i Fangor, mae wedi rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr gyda鈥檜 digwyddiadau dro ar 么l tro a sicrhau eu bod yn achlysuron arbennig."
Os bydd Matt yn ennill, bydd ef a'r Gymdeithas yn cael gwobr ariannol yn ogystal 芒鈥檙 profiad amhrisiadwy o fynd i鈥檙 seremoni wobrwyo ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ar 4 Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mai 2016